17.06.2007
Mae llawer o son am Ishmaeliaid Nebo, gyda'r enw yn
tarddu o'r Methodistiaid cynnar, yn sgil cyfraniad
Huw Ishmlael wrth brynu darn o dir i adeiladu Capel.
Ond pwy tybed yw'r Cocarwlws, ac o ble daeth yr enw?
A'i Cwcorwlws sydd yn byw yn Nasareth ac Ishmaeliaid
yn Nebo?
Rwy’n cofio pobol yn cyfeirio at Ritchie Wili
Crews, a fu'n byw yn Rhos Dulyn fel Ritchi Wili Cocarwlws,
ond does gennyf i , 'na lawer arall dim syniad paham.
Os oes unrhyw un a gwybodaeth am darddiad yr enw Cwcarwlws,
buaswn yn falch iawn o wybod.
O.P. Huws, Bryn Gwyn, Nasareth, ( o bosib yn Gwcarwlw
! )
E-Bostiwch fi
|