Yr Esgyrn Hyn
Beth ydwyt ti a minnau, frawd,
Ond swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd?
Gwêl d'anfarwoldeb yng ngwynder noeth
Ysgerbwd y ddafad wrth Gorlan Rhos Boeth;
A'r cnawd a'r gïau a fu iddi gynt,
Yn bydredd ar goll yn y bedwar gwynt,
Heb ddim i ddywedyd pwy oedd hi
Ond ffrâm osgeiddig nad edwyn gi.
Beth byddi dithau, ferch, a myfi,
Pan gilio'r cnawd o'r hyn ydym ni?
Diffydd y nwyd pan ffero'r gwaed,
Derfydd am siom a serch a sarhaed.
Ni bydd na chyffwrdd na chanfod mwy:
Pan fadro'r nerfau, ni theimlir clwy.
Ac ni bydd breuddwyd na chyffro cân
Mewn penglog lygadrwth a'i chraciau mân.
Nid erys dim o'r hyn wyt i mi -
Dim ond dy ddannedd gwynion di.
Ni bydd ohonom ar ôl yn y byd
Ond asgwrn ac asgwrn ac asgwrn mud;
Dau bentwr bach dan chwerthinog ne',
Mewn gorffwys di-gnawd, heb na bw na be.
Nid ydym ond esgyrn. Chwardd oni ddêl
Dy ddannedd i'r golwg o'u cuddfa gêl.
Chwardd. Wedi'r chwerthin, ni bydd, cyn bo hir,
Ond d'esgyrn yn aros ar ôl yn y tir -
Asgwrn ac asgwrn, forwynig wen,
A chudyll a chigfran uwch dy ben;
Heb neb yn gofyn i'r pedwar gwynt:
" P'le mae'r storm o gnawd a fu iddi gynt?"
T H Parry Williams (1931) |