Canolfan
Dechnoleg
Antur Nantlle
20 Heol y Dŵr, Penygroes,
Gwynedd, LL54 6LR
01286 882688
Mae Swyddfa Antur Nantlle wedi ei lleoli oddi mewn i’r
Ganolfan Dechnoleg ac mae ar agor bob dydd rhwng 9am
- 5pm. Galwch heibio’r Ganolfan am sgwrs hefo’r staff
ac am
fwy o wybodaeth am waith yr Antur.
Mae Llyfrgell Penygroes yn rhan
o’r Ganolfan a hefyd Swyddfa Adfywio Cyngor Gwynedd a Swyddfa
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle
Siop 22
10 Heol y Dŵr, Penygroes,
Gwynedd, LL54 6LR

Mae un swyddfa fawr / siop i’w
gosod ar y llawr isaf a thair swyddfa ar y llawr cyntaf.
Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle
Ffordd Llanllyfni, Penygroes,
Gwynedd, LL54 6DB

Agorwyd y Ganolfan yn 1991 ac
mae saith uned,
tair swyddfa a iard ar y safle. Tŷ Iorwerth
39 Heol y Dŵr, Penygroes, Gwynedd

Mae saith swyddfa uwchben y banc
yn Nhŷ Iorwerth gyda mynedfa i’r swyddfeydd o’r maes
parcio yn y
cefn. Mae banc yr HSBC yn gweithredu ar y llawr isaf
Y Barics
Nantlle,
Caernarfon, Gwynedd, LL54 6BD

Hen Farics oedd yn perthyn i Chwarel Pen-yr-orsedd pan
oedd y chwareli llechi yn ei bri oedd y rhain.
Adnewyddwyd yn bump uned crefft a busnes.
 Mae Grŵp Llys Llywelyn yn gweithio’n galed i gynnal Canolfan
Gymunedol i drigolion Nantlle yn Uned 2 Y Barics.
Siop / Gweithdy
35 Stryd yr Wyddfa, Penygroes,
Gwynedd, LL54 6NG

Siop a Gweithdy Oriel Llun-Mewn-Ffram.
Mae Antur Nantlle yn gweithredu
yn Nyffryn Nantlle; rhan o ardal awdurdod lleol Cyngor
Gwynedd.
|