Sefydlwyd
Antur Nantlle Cyf yn 1991 fel cwmni cymunedol i weithio
er lles Dyffryn Nantlle a'r ardaloedd cyfagos. Nod y
cwmni ydyw datblygu prosiectau a denu grantiau i’r ardal fydd yn arwain at ddatblygiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae’r Antur yn barod ac yn awyddus i weithio gyda phartneriaid eraill i gyrraedd
y nod, trwy chwilio am gyfleon newydd, hyrwyddo menter
ymhlith pobl leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi.
Lleolir swyddfa’r
Antur yng Nghanolfan Dechnoleg Antur Nantlle yng nghanol
Penygroes. Mae’r Ganolfan yn gwasanaethu trigolion Dyffryn Nantlle a’r cylch trwy gynnig gwasanaeth eang i’r cyhoedd. Mae yma ddrws agored i drigolion lleol ac ymwelwyr i ddod i chwilio
am wybodaeth leol, defnyddio’r cyfrifiadruon a’r cyswllt rhyngrwyd, gwasanaeth llun gopio, peiriant ffacs, lamineiddio a llawer
mwy. Mae ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol y Ganolfan
yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn cydweithrediad a darparwyr
hyfforddiant.
Mae gennym nifer o unedau busnes
swyddfeydd a siop yn yr ardal ac mae gwarchod ein tenantiaid
yn un o’n blaenoriaethau pwysicaf.
Rôl Antur Nantlle
yn y Gymuned
»» Cefndir
Antur Nantlle
»» Safleoedd
Antur Nantlle
»» Pamffled
Antur Nantlle (1.23Mb)
Bwrdd Rheoli Antur Nantlle
Rheolir yr Antur gan fwrdd o Gyfarwyddwyr
sydd yn rhoi eu hamser yn wirfoddol oherwydd eu bod yn
rhannu’r un dyheadau i greu yn Nyffryn Nantlle gymdeithas ffyniannus a chynaliadwy.
Cysylltu
Am fwy o wybodaeth am waith yr
Antur cysylltwch â:
• Prif Swyddog
: Robat Jones
Post: Canolfan
Dechnoleg Antur Nantlle, 20 Heol y Dŵr, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd. LL54 6LR
Ffôn: 01286
882688
eBost: ymholiadau@anturnantlle.com
Dogfennau Priodol
»» Adroddiad Blynyddol 2010 Antur Nantlle - Tachwedd 2010 (4.5Mb)
»» Adroddiad Blynyddol 2009 Antur Nantlle - Tachwedd 2009 (5Mb) »» Adroddiad
Blynyddol 2008 Antur Nantlle - Tachwedd 2008 (687kb)
»» Adroddiad
ar Dwristiaeth yn Nyffryn Nantlle - Mai 2006 (482kb) |