Cyfrannu i'r Wefan

Gyrrwch eich straeon, hanesion a lluniau atom er mwyn eu rhannu efo'r byd

 
 
 

Mae nantlle.com eich angen chiNôd y wefan hon yw i fod mor ddiddorol a defnyddiol i'w defnyddwyr a sy'n bosib, gan gynnwys amrywiaeth eang o luniau, straeon, linciau ac unrhywbeth arall sy'n berthnasol arni.

Grŵp bychan o wirfoddolwyr sy'n gyfrifol am y wefan, ac oherwydd hynny mae'n amhosib i ni ymchwilio a chynnwys phopeth sy'n berthnasol i Ddyffryn Nantlle arni.

Rydym felly yn ddibynnol ar gyfraniadau gan bobl unai sy'n byw yn Nyffryn Nantlle neu sydd a chysylltiad efo'r ardal i yrru gwybodaeth atom.

Gwefan gan y bobl, ar gyfer y bobl yw nantlle.com.

Felly...allwch chi helpu?

Byddai'n bleser cael rhannu eich atgofion, eich straeon a'ch lluniau chi o ardal Dyffryn Nantlle - hen a newydd. Mae croeso i chi gysylltu gyda ni efo'r wybodaeth hon, ac fe'i rhown ar y wefan er mwyn ei rannu gyda'r byd!

Os ydych yn fodlon gyrru eich straeon, lluniau, dogfennau, ayyb. er mwyn eu harddangos ar y wefan - gyrrwch e-bost gydag unrhyw atodiadau priodol i post@nantlle.com.

Diolch yn fawr, edrychwn ymlaen i glywed gennych yn fuan.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys