Daeth rhai o bentrefi
Dyffryn Nantlle i fod yn sgîl y cloddio am lechi
yn y chwareli a
agorwyd yno yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r
bedwaredd ganrif ar bymtheg - ar gyfer toeau, cerrig beddau,
cofgolofnau, siliau ffenestri, palmentau, byrddau biliard
a llechi ysgrifennu ysgolion, ac yn y blaen. Parhaodd y galw
hwn am ganrif a hanner ac er bod y prif chwareli wedi cau
mae cryn alw erbyn hyn am lechi mân i wneud ffyrdd
ac i lenwi gerddi. O ardaloedd amaethyddol Môn ac Arfon y daeth y chwarelwyr
hyn yn bennaf a dyna paham y bu’r diwydiant mor Gymreig
ar hyd yr amser. Tua 80% o’r boblogaeth sydd yn siarad
Cymraeg fel iaith gyntaf erbyn hyn. Bu Dyffryn Nantlle yn fagwrfa i feirdd a llenorion cenedlaethol
yn y ganrif ddiwethaf – y cyfeirir atynt dan
wahanol bentrefi - ac mae’n gysylltiedig â’r
cyfnod cyn-hanes a geir ym mhedwared gainc y Mabinogi. Tynnwyd y llun enwog yma o’r Dyffryn (Yr Wyddfa
o Lyn Nantlle [1765]) gan Richard Wilson yn
dangos Llyn Baladeulyn rhwng Craig y Bera a’r
Garn a’r Wyddfa
yn y cefndir.
»» Map
O.S. 1840 Dyffryn Nantlle
Am fwy o wybodaeth ar hanes yr ardal, cliciwch ar enw'r pentre' priodol yn y mynegai ar y chwith.
< < <
|