Cyflwyniad
Casgliad
o bedair chwedl yn seiliedig ar y traddodiad llafar
Cymreig yw'r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair
Cainc y Mabinogi (mae
cainc yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl"). Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte
Guest gamddeall y gair Cymraeg Canol mabynogion, fe
ddefnyddir y gair 'Mabinogion' ers iddi hi gyhoeddi ei
chyfieithiad Saesneg dylanwadol
o'r Pedair Cainc.
Cedwir testunau
pwysicaf y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel
arbennig, sef
Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd oddeutu
1350, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd
rhwng tua
1382 a 1410. Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cynnig dyddiad o gwmpas ail hanner yr 11eg
ganrif ar gyfer cyfansoddi'r Pedair Cainc yn eu ffurf
bresennol (1060 yw awgrym Ifor Williams). Byd cwbl Geltaidd
yw byd y Pedair Cainc ac felly mai lle i gredu eu bod
yn deillio o ddiwedd Oes yr Haearn
(fel yn achos rhai o'r chwedlau Gwyddeleg yn Iwerddon). Pedair Cainc y Mabinogi
Casgliad o bedair chwedl sy'n perthyn i'r un cylch
yw Pedair Cainc y Mabinogi. Y pedair chwedl yw:
- Pwyll Pendefig Dyfed
- Branwen
ferch Llŷr
- Manawydan fab Llŷr
- Math fab Mathonwy
Y llinyn sy'n
rhedeg drwy bob cainc,
er yn denau braidd mewn mannau, yw hanes Pryderi,
mab Pwyll Pendefig Dyfed a Rhiannon.
Addaswyd y cyflwyniad yma o Wikipedia
Mwy o wybodaeth
»» Llefydd a gafodd eu crybwyll yng Nghainc Cyntaf y Mabinogi
»» Llefydd a gafodd eu crybwyll yn Ail Gainc y Mabinogi
»» Llefydd a gafodd eu crybwyll ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi
»» Lleoliad chwedlau Pedwaredd Gainc y Mabinogi
»» Prif Raniadau Cymru yn yr Oesoedd Canol
»» Y
Mabinogi: Perthynas â Dyffryn Nantlle
Mewn ieithoedd eraill
»» Ffrangeg / Francais
»» Cymraeg
Canol 1 , Cymraeg Canol 2
»» Saesneg / English
»» Portiwgeaidd / Portugués
»» Iseldiraedd / Nederlands
|