Y Mabinogi

Llefydd a gafodd eu crybwyll yn
Ail Gainc y Mabinogi

 
 
 

Cyflwyniad i'r Ail Gainc

Tydi'r tudalennau canlynol ddim yn cynnwys y chwedl i gyd, mae rhaid i chi gael copi o'r Mabinogi (heb ei dalfyrru os yn bosib, ond does dim ots pa fersiwn), ac unrhyw fap modern o'r ardaloedd dan sylw gan Ordnance Survey. Ond cofiwch, cafodd y llyfr ei ysgrifennu yn Gymraeg Canol yn wreiddiol. Felly, mae'r sillafu yn debyg o amrywio rhwng bob fersiwn yn ôl dewis y golygydd.

Dydy ceinciau 1, 2, & 3 ddim yn cynnwys cymaint o enwau lleol ag sydd yn y bedwaredd Gainc sydd wedi cael ei lleoli yn bennaf yng Ngwynedd. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod yr ysgrifennwyr yn llai cyfarwydd â lleoedd tu allan i Wynedd. Mae geiriau, priod-ddulliau a seinio gan ysgrifennwyr oedd yn amlwg o Dde Cymru yn nodweddu’r holl waith. Wedi’r cyfan, nid prif nôd y cyfarwyddyd, ac wedyn yr ysgrifennwyr, oedd i roi disgrifiad manwl o dirwedd Cymru Gynt, ond yn hytrach i ddweud y stori yn ei chrynswth.

Mae Pedair Cainc y Mabinogi’n gyfanwaith, nid pedair rhan ar wahan. Dim ond un cymeriad - Pryderi - sy’n ymddangos ym mhob Cainc. Ar adegau, mae’n nhw’n ymddangos fel straeon di-gyswllt, gan fod, yn ôl nifer fawr o ysgolheigion, rhai o’r chwedlau cyswllt wedi mynd ar goll dros y canrifoedd, ond mae un thema’n uno’r holl waith sef buchedd Pryderi.

Er hynny, mae’n bosibl cael gwybodaeth ychwanegol am leoedd drwy edrych yn fanwl ar enwau personol. Weithiau mae rhai o’r enwau’n ymddangos yn afreal, gan fod y rhai iawn wedi eu hanghofio dros y canrifoedd efallai. Felly mae’n debyg y creuwyd enwau er mwyn disgrifio nodweddion a gwreiddiau’r cymeriad e.e. “Pwyll” a “Pryderi”.

Yn yr un modd a’r bedwaredd Gainc, mae’n rhaid i ni feddwl am natur cymdeithas yn yr Oesoedd Canol, a’u hagweddau nhw at yr oesoedd a fu. Yn aml, brithwyd eu hanes cyfoes, a hynafol hefyd, efo traddodiadau sydd, mae’n debyg, yn dyddio’n ôl i’r oesoedd cynhanesyddol.

Gweld y Lleoliadau

Mae unrhyw fap modern o’r ardaloedd dan sylw gan Arolwg Ordnans (Ordnance Survey) yn addas. Ond y ffordd gorau i weld nhw i gyd ar eich sgrîn heb dalu ydy agor tudalen ar wahan a mynd i -

http://getamap.ordnancesurvey.co.uk/getamap/frames.htm Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

Copiwch cyfeiriad map O.S. (e.e. SH581312) i’r blwch chwilio ar y chwith.

Yr Ail Gainc

'Bendigeidfran fab Llŷr, a oedd frenin coronog ar Yr ynys hon (Ynys y Cedyrn, sef Prydain), ac ardderchog (meddianwr) o goron Llundain.’

Bendigeidfran a Branwen

Bran yn yr enwau hyn yn golygu “cigfran”, aderyn cysegr i’r Hen Geltiaid. Ond yn yr ystyr cyffredin, mae’n enw i sawl math o adar eithaf cyffredin – felly, mae’n bosibl iddo ymddangos mewn nifer fawr o enwau lleol heb unrhyw gysylltiad efo’r arwr Bran a’i chwaer.

Eithr mae’n bosibl y ceir enw personol Bran mewn sawl enwau lleoedd sydd yn adlewyrchu, efallai, pa mor gyffredin oedd yr hen grefydd, ond heb gyfeirio’n uniongyrchol efo’r chwedl hon.

Harlech (O.S. SH581312)

Harddlech. Lleoliad castell Bendigeidfran Dyna’r graig lle codwyd y gastell bresennol yn 1283. Ar lan y môr oedd yn ystod y Canol Oesoedd. Ond erbyn hyn, mae’r môr wedi cilio ac mae’n tua milltir i ffwrdd.

Llundain

Dyma’r sôn uniongyrchol cyntaf yn y Mabinogi am le tu allan o Gymru, ac mae o yma i bwysleisio pa mor bwysig a ddaethai Llundain fel canolfan awdurdod erbyn y cyfnod pan roddodd y Mabinogi ar glawr.

Ardudwy

  »»  Map o Brif Raniadau Cymru yn yr Oesoedd Canol Dogfen PDF (249kb)

Iwerddon

Casgliad o deyrnasoedd bychain wedi eu rheoli gan benaethiaid y llwythi a dalent wrogaeth (weithiau!) i Uchel-frenin Iwerddon.

Matholwch

Efallai roedd o’n un o benaethiaid y llwythi niferus - does neb o’r enw hwn yn rhestrau hir Uchel-freninoedd Iwerddon. Gweler - http://www.heraldry.ws/info/article12.html Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

Aberffraw (O.S. SH355689)

Un o Lysoedd Tywysogion Gwynedd yn y Canol Oesoedd.

Map Cainc 1 a 2

Tal Ebolion

(Cantref)

(Gweler fap y cantrefi Dogfen PDF)

Stori onomastig yw - mae “Pen y cefnau” yn ystyr posibl yn hytrach nag unrhyw beth am geffylau.

Yn y dyddiau hyn, ni chai briodasau ag estronwyr eu cymeradwyo yn y ddwy wlad yn gyffredinol, ac efallai yn arbennig gan Efnisien ei hun. Gwrthwynebodd o i’r priodas oherwydd gafodd o ddim ei ymgynghori amdano.

Fel yn “Buchedd Sant Cadog”, llurgunwyd ceffylau’r lladron (er mwyn tynnu sylw at y troseddwyr lle bynnag yr aent) - felly, cymharwyd Matholwch â lleidr. O achos gweithredoedd Efnisien, cafodd y Gwyddelod y Pair Dadeni fel iawndal. Yn y lle cyntaf, rhoddodd Llasar Llaes Gyfnewid (gweler isod) y pair hud hwn i Fendigeidfran.

Llyn y Pair

Rhywle yn Iwerddon, yn ôl Y Mabinogi.

Er bod enghreifftiau o’r enw Llyn y Pair i’w gweld yng Nghymru, mae ganddyn nhw esboniadau eraill. Dyma ddwy enghraifft:

  1. Yn “Branwen, Daughter of Llyr” (t.38) Ysgrifennodd Proinsias Mac Cana:
    “Yn ôl William Owen Pughe (1759 -1835), ceir llyn o’r enw Llyn Pair tua 3 milltir tu allan i Dywyn*, ac yr afon gerllaw o’r enw Gwenwyn Meirch Gwyddno yn chwedl Taliesin, oedd wrth iddo fo’n ysgrifennu’n cael ei alw’n Afon Llyn y Pair.”

    * Ger Aberdyfi, mae’n debyg.

    Yn sicr, mae hyn yn cyfeirio at Bair Ceridwen.
  2. Ar gyrion Fforest Gwydr ger Betws y Coed ceir Mwynglawdd Melin Llyn y Pair.
    Ystyr y gair ‘Pair’, yn yr achos yma yw llestr a ddefnyddir gan fwynwyr wrth doddi plwm a chopr.

Y Gwyddelod Yng Nghymru

Yn ôl Charles Thomas, rheolai teulu yn Nyfed o dras Gwyddelig tan yr 8fed ganrif. (Gweler www.islandguide.co.uk/history/ogham.htm Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd)

Yn llawysgrifau Ammianus Marcellinus ceir hanes cyrchoedd gan yn Gwyddelod a ddechreuodd yn y cyfnod 360 - 367. Ond cafodd rhai ganiatâd i aros gan y Rhufeiniaid.

Llasar Llaes Gyfnewid a’i wraig Cymidei Cymeinfoll

Mae’n bosibl y tarddodd yr enw Llasar o’r Gwyddeleg “lassar” (fflam), a’r gair “cyfnewid” yn dangos ei fod o’n ryw fath o fasnachwr, efallai.

Gwnaethon nhw ddianc o’r Tŷ Haearn rhywle yn Iwerddon a symud i Gymru gyda chaniatâd Bendigeidfran. Eu mab oedd un o’r Saith Marchog. Gwyddelod oedden nhw ond yn sicr fe wnai Bendigeidfran ymddiried ynddyn nhw.

Ond hefyd, mae’r enw Llasar yn debyg iawn i’r gair Cymraeg “llasar” (maen lliw-glas drudfawr) a ddaeth o’r gair Perseg lājward, drwy’r Arabeg lāzaward, Yn Saesneg, mae’n adnabyddus dan ei enw Lladin lapis lazuli neu fel azure o’r gair Ffrangeg azur.

Dechreuodd y gwaith cloddio yn Sar-e-Sang dros 6,000 mlynedd yn ôl yng nghalchfaen Nyffryn Kokcha, (Talaith Badakhshan, 38°0´ Gdd 71°0´ Dn, gogedd-dwyrain Affganistan). Am ganrifoedd defnyddid llasar yn y Dwyrain Canol, Dwyain Pell ac yn yr Aifft (e.e. daethpwyd o hyd at engreifftiau ym medd Tutankhamun) ond Alexander Fawr (356 –323cc) oedd y cyntaf i anfon enghreifftiau ohono yn ôl i Ewrop. Cedwyd lleoliad y mwynfeydd yn gyfrinachol am filoedd o flynyddoedd.

Gwnai’r meini newid dwylo hyd at hanner cant o weithiau, hyd yn oed cyn cyrraedd Ewrop.

Map Affganistan

  »»  Gweler 'Llefydd a gafodd eu crybwyll yn Nhrydedd Gainc y Mabinogi' Internal link: Opens in a new window

Cymidei Cymeinfoll

Mae’n ymddangos bod ei henw wedi cael ei greu er mwyn ei disgrifio hi fel “mam i fyddin”.

Aber Menai (O.S. SH440610)

Caer Saint (O.S. SH477627)

Er cyfeiriai’r hen gyfarwyddyd at hen safle Rhufeinig Segontium, byddai’r rhai a roddodd y chwedl ar glawr yn ymwybodol iawn o gastell a thref Caernarfon (tuag un cilometr i ffwrdd) a godwyd gan Edward 1af er mwyn gormesu’r Cymry. Ond yn eironig, Caernarfon yw’r dref gymreiciaf ar ran iaith yng Nghymru erbyn hyn.

Edeirnion

(Gweler fap y cantrefi Dogfen PDF)

Bryn Seith Marchawg (O.S. SJ076502)

Bryn Saith Marchog - pentre bach yn Sir Dinbych (Cantref Edeirnion). Mae hon yn stori onomastig eto. Yn ôl Ifor Williams, gallai “seith/saith” olygu “sant”, weithiau, yn hytrach na’r rhif 7 mewn Cymraeg Canol; ac efallai, mae “marchog” yn cyfeirio at gyn-yrfa milwrol rywun fel Sant Derfel, Sant Sadwrn a.y.y.b.

Dwy Afon

Lle mae Môr Iwerddon rwan.

Yn ôl Geiriadur y Brifysgol:
Lli =1. fel llafn neu -
2. Dilyw
Archan =1. deisyfiad

Mor Iwerddon

Yn ystod Oes y Mesolithig (erbyn tua 7,500 CC - ar ôl Oes yr Ia diwethaf), dadmerodd y rhewlifoedd enfawr a gwahanwyd Iwerddon a Phrydain. Yn y mileniwn wedyn, cododd lefel y môr yn gyflym iawn,gan wahanu Prydain a'r Cyfandir. Rhywbryd, efallai, roedd dwy sianel wrth i’r môr gilio.

Yng Nhgymru, mae gynnon ni chwedlau am ‘Cantref y Gwaelod’ ym Mae Ceredigion; Llys Helyg yn y môr ger Pen y Gogarth ayyb.. [Gweler hefyd chwedlau am Lyonesse rhwng Ynysoedd Syllan a Chernyw; Ker Ys ar arfordir deheuol Llydaw; ac wrth gwrs Atlantis, rhywle ym myd y Groegiaid Gynt, ayyb.]

Ond yn arbennig, roedd Sianel y Gogledd rhwng Iwerddon a’r Alban yn hynod o gul. Mae chwedl Gwyddelig am y cewri Fionn mac Cumhail (Finn Mac Cool) a Benandonner yn croesi’r môr rhwng Gogledd Iwerddon a’r Alban yn hawdd. Oedd o’n hen, hen gof gwerin ymhlith Cymry Ystrad Clud hefyd?

Afon Llinon

(yn Iwerddon) Afon Shannon neu Afon Liffey?
  1. Ciliodd byddin Matholwch i’r gorllewin, dros Afon Shannon oedd yn ffurfio’r rhan fwyaf o’r ffin rhwng Connacht a dwy dalaith eraill sef Meath a Munster. Yr afon fwyaf yn Iwerddon ydy hi, yn ddwfn ac yn llinell amddiffynol da.

    ond
  2. Roedd Afon Liffey yn ffurfio rhan fer o’r ffin rhwng Meath a Leinster yng nghyffiniau Dulyn. Mae’n ddiddorol nodi enw’r Ddinas yn Wyddeleg - Baile Átha Cliath (sef Tref Rhyd y Clwydau), oherwydd yn Ail Gainc y Mabinogi, gosodwyd clwydau dros gefn Bendigeidfran er mwyn i’r fyddin croesi’r afon. Efallai cafodd yr afonydd eu cymysgu - gan gofio bod Cymry’r Canol Oesoedd yn debyg o fod yn fwy cyfarwydd â Dulyn nag â Chonnacht.

Aber Alaw yn Nhalebolion (O.S. SH301814)

Cliciwch yma i weld y map

Dyna lle glanodd y saith a oroesodd y rhyfel wrth ddychwelyd i Gymru.

Glan Alaw (Bedd Branwen) (O.S. SH361850)

Man claddu o’r Oes Efydd. Mae cynhwysion y bedd i’w gweld yn Amgueddfa Bangor neu ewch at: http://www.flickr.com/photos/bobbielise/3698468949/ Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

Gwales (O.S. SM598093)

Ynys 21 erw, 10 milltir o arfordir Sir Benfro. Grassholme ydy’r enw a roddwyd iddi gan y Llychlynwyr a ddefnyddid yr ynys fel man cychwyn wrth iddyn nhw ddwyn cyrchoedd ar Arfordir Prydain. Does neb eto wedi dod o hyd at olion “neuadd fawr”. Mae rhai yn gweld cysylltiad uniongyrchol rhwng themau’r Ail Gainc â Sagas Ynys yr Iâ.

(yn ôl Geiriadur y Brifysgol, Gwales = cuddfan, noddfa)

Ble mae Llychlyn?

Er nad oes sôn am Lychlyn yn uniongyrchol yn y Mabinogi, dyma enghreifftiau sydd yn dangos pa mor dryslyd ydy enwau’r gwledydd hyd yn oed.

Llychlyn, yn y Gymraeg fodern a Lochlann yn yr Wyddeleg fodern ydy Scandinavia, Norwy yn arbennig. (Rhoddwyd yr enw Lachlan ac enwau Albanaidd a Gwyddelig tebyg yn gyntaf i ddisgynyddion y Llychlynwyr.)

Er, yn y Trioedd, ymosododd Macsen Wledig (Magnus Maximus yn Lladin) ar Lychlyn, yn ôl dogfennau Rhufeinig o’r cyfnod, fe ddaeth yr un gŵr i gyfeiriad Rhufain efo’i fyddin yn 383. Rhestrodd Rachel Bromwich enghreifftiau lu o gamgymeriadau fel hyn - awgrymodd mai Llydaw, efallai, oedd yn fwy tebygol gan ei bod o leiaf yn y cyfeiriad iawn.

Buasai’n hawdd i bobl heb unrhyw wybodaeth ddibynadwy am ddaearyddiaeth methu â gwahaniaethu rhwng eu gelyn - roedden nhw i gyd mor beryglys â’r Llychlynwyr.

Yn y canrifoedd a ganlynodd, daeth mwy o ysbeilwyr o Iwerddon i Gymru. Nid o dras Gwyddelig oeddynt ond Llychlynwyr oedd erbyn hyn wedi ymsefydlu yno, yn bennaf yn Nulyn a phorthladdoedd eraill. I Gymry’r Canol Oesoedd, Gwyddelod oedden nhw i gyd erbyn hyn!

Cernyw

Gwlad geltaidd, fel Cymru.

(Am ragor o wybodaeth gweler Y Gainc Cyntaf)

Aber Henfelen

Môr Hafren.

Gwynfryn (O.S. TQ336805)

(Yn Llundain) - lle saif Twr Llundain rwan.

Yn y cyd-destun yma unwaith eto, mae “gwyn” yn golygu cysegr yn hytrach na’r lliw.

Caswallon

Cassivellaunus yn Lladin. Brenin y Catuvellauni (yn Ne-ddwyrain Lloegr erbyn hyn) a wnaeth wrthsefyll yn llwyddiannus ail ymosodiad Julius Caesar yn 54 C.C. (Cyhuddodd y Rhufeiniaid Gaswallon o roi cymorth i wrthryfelwyr yn Nalaith Gâl - ond roedden nhw’n awyddus iawn i gael holl gyfoeth Prydain hefyd. Yr arweinydd mwyaf pwerus ym Mhrydain oedd Caswallon; felly, roedd ganddo lawer o wrthwynebwyr yn yr ynys hon, yn arbennig y rhai a thrigai ymhell o’r de-ddwyrain. Er hynny, prin oedd y cefnogaeth a chafodd y Rhufeiniaid gan lwythi eraill.)

Ceir yr enw yn y 3ydd Gainc, yn Lludd a Llefelys ac yn nifer o’r Trioedd. Yn ôl rhai, mae’r enw yn y Trioedd yn cyfeirio at ramant canol-oesol sydd bellach ar goll, am unigolyn arall o’r un enw, mae’n bosibl.

Pum Talaith Iwerddon

Connacht / Connaught, Midhe / Meath, Laighin / Leinster, Mumha / Munster & Uladh / Ulster. (Gweler y map isod).

Pum talaith Iwerddon

Y dyddiau hyn, ceir pedair talaith - mae Laighin / Leinster yn gynnwys Midhe / Meath rwan.


YMWADIAD PWYSIG: ER GWYBODAETH YN UNIG Y DARPERIR Y MANYLION HYN AM LEOLIADAU. OS NAD OES LLWYBRAU CYHOEDDUS YN ARWAIN ATYNT, NI DDYLAI NEB YMWELD Â'R SAFLEOEDD HEB GANIATÂD.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys