Cyflwyniad
Tydi'r tudalennau canlynol ddim yn cynnwys y chwedl i gyd, mae rhaid i chi gael
copi o'r Mabinogi (heb ei dalfyrru os yn bosib, ond
does dim ots pa fersiwn), ac unrhyw fap modern o'r
ardaloedd dan sylw gan Ordnance Survey. Ond cofiwch,
cafodd y llyfr ei ysgrifennu yn Gymraeg Canol yn wreiddiol.
Felly, mae'r sillafu yn debyg o amrywio rhwng bob fersiwn
yn ôl dewis y golygydd.
Dydy ceinciau 1, 2, & 3
ddim yn cynnwys cymaint o enwau lleol ag sydd yn y
bedwaredd Gainc sydd wedi cael ei lleoli yn bennaf
yng Ngwynedd. Ond dydy hynny
ddim yn golygu bod yr ysgrifennwyr yn llai cyfarwydd
â lleoedd tu allan i Wynedd. Mae geiriau, priod-ddulliau
a seinio gan ysgrifennwyr oedd yn amlwg o Dde Cymru
yn nodweddu’r holl waith. Wedi’r cyfan, nid prif
nôd y cyfarwyddyd, ac wedyn yr ysgrifennwyr, oedd i
roi
disgrifiad manwl o dirwedd Cymru Gynt, ond yn hytrach
i ddweud y stori yn ei chrynswth.
Mae Pedair Cainc y Mabinogi’n gyfanwaith, nid pedair rhan ar wahan. Dim ond un
cymeriad - Pryderi - sy’n ymddangos ym mhob Cainc.
Ar adegau, mae’n nhw’n ymddangos fel straeon di-gyswllt,
gan fod, yn ôl nifer fawr o ysgolheigion, rhai o’r
chwedlau cyswllt wedi mynd ar goll dros y canrifoedd,
ond mae un thema’n uno’r holl waith sef buchedd Pryderi.
Er hynny, mae’n bosibl cael gwybodaeth ychwanegol am leoedd drwy edrych yn fanwl
ar enwau personol. Weithiau mae rhai o’r enwau’n ymddangos
yn afreal, gan fod y rhai iawn wedi eu hanghofio dros
y canrifoedd efallai. Felly mae’n debyg y creuwyd enwau
er mwyn disgrifio nodweddion a gwreiddiau’r cymeriad
e.e. “Pwyll” a “Pryderi”.
Yn yr un modd a’r bedwaredd Gainc, mae’n rhaid i ni feddwl am natur cymdeithas
yn ye Oesoedd Canol, a’u hagweddau nhw at yr oesoedd
a fu. Yn aml, brithwyd eu hanes cyfoes, a hynafol hefyd,
efo traddodiadau sydd, mae’n debyg, yn dyddio’n ôl
i’r oesoedd cynhanesyddol.
Y Gainc Gyntaf
DYFED -
7 Cantref (Gweler fap y cantrefi am ragor o wybodaeth)
ARBERTH - un o brif lysoedd Pwyll, nid nepell o Orsedd Arberth (gweler isod), mae’n
amlwg. Efallai mai safle’r Castell Normanaidd yn Arberth
O.S. SN112145 oedd ym meddwl y storiwr?
GLYN CUCH - SN236415 i SN280358 Mae Afon Cuch (neu Cych) yn ffurfio’r ffin rhwng Hen
Ddyfed (sef Sir Benfro rwan) a Sir Gaerfyrddin. “A
Phryderi mab Pwyll a gadwodd foch Pendaran Dyfed yn
Nglyncuch yn Emlyn” yn ôl Trioedd Peniarth. Efallai,
yn nychmygedd y storïwr, y bu i Pwyll ddilyn cwrs yr
hen ffordd o Arberth trwy Boncath gan gadw ar gefn
y bryn, yna i lawr at Abercuch.
PEN LLWYN DIARWYA - anhysbys. Er fod gan yr arwyr o’r oesoedd a fu bwerau goruwchnaturiol i deithio
bellteroedd maith yn hawdd, mae’n debyg ei fod yn agos
i Lyn Cuch.
ANNWFN - gweler Cainc 4
Y RHYD - SN238411 Ger pentref Abercuch mae rhyd hynafol dros yr Afon Cuch, ond wrth
edrych ar y map O.S. a’r llun o’r awyr yn www.cambria.org.uk ,
mae’n amlwg bod yr afon sydd yn ymddolennu drwy’r dyffryn
hwn wedi symud ei chwrs dros y ganrifoedd - nodwch
lle mae’r ffin rhwng y siroedd rwan. Ond yn y dyddiau
gynt, ffurfiodd yr afon ffin rhwng Ddyfed ac Ystrad
Tywi. Yn agos iawn hefyd mae’r Afon Teifi, sydd yn
ffin efo Ceredigion. Mae lluniau hyfryd o ardal Abercych
yn www.headwaters.co.uk .
Dydy’r cymeriadau ddim yn gwahaniaethu rhwng y rhyd hwn a’r rhyd lle lladdodd
Pwyll Hafgan. Roedd “drothwy” rhwng ddau le neu drobwynt
yn y blwyddyn yn arbennig yn ein traddodiadau. Hefyd,
roedd pob afon yn gysegr i Duwies y Dwr yn ôl yr Hen
Geltiaid ac ni all unrhyw ysbryd drwg groesi dwr.
GORSEDD ARBERTH - SN113135. Caer o’r Oes Haearn ar Camp Hill i’r
de o dref Arberth ydy’r mwyaf tebygol er i nifer o
leoedd
cyfagos
yn
hawlio’r fraint.
Dyma le welodd Pwyll Riannon ar gefn ei cheffyl. (Mae ei henw hi’n gysylltiedig
a Rigatona/Epona, duwies geltaidd a’i sumbol oedd y
ceffyl, arwydd o bwer: dywedir y tarddodd hen arferiad
tymor y Nadolig “Y Fari Lwyd” o’r un ffynhonell – gweler
www.amgueddfacymru.ac.uk . Cosb Rhiannon ar ôl diflaniad ei mab oedd cario ymwelwyr ar ei chefn i mewn
i’r llys fel ceffyl.)
[Ond hefyd ceir Nant Arberth (a chaerau a godwyd yn ystod yr Oes Haearn hefyd)
i’r dwyrain o Aberteifi - ond dydy o ddim yn Nyfed
ac yn rhy agos o lawer i Lyn Cuch i gyd-fynd â’r stori.]
LLYS HYFAIDD HEN neu HEFEYDD HEN - lle anhysbys, ond, yn yn ôl
y Mabinogi, dim yn Nyfed.
Ond yn ôl rhai traddodiadau eraill, fo oedd brenin cyntaf Dyfed. Gorsedd Arberth
oedd ei fan claddu ac hefyd, mynediad i Annwn oedd.
Ai hwn yw’r caer hud yn y 3ydd cainc?
Ceir arwr o’r enw Hyfaidd Hir yn y gerdd Y Gododdin o’r 6ed ganrif (cyfansoddwyd
gan Frython o’r enw Aneurin mewn gwlad sydd, erbyn
hyn yn yr Alban). Yn Ail Gainc y Mabinogi mae o’n ymddangos
fel un o’r Saith Marchog ac hefyd Hyfaidd, brenin Dyfed
fu farw 892 a.y.y.b... Roedd Hyfaidd yn enw cyffredin
yng Nghymru yn ystod y Canol Oesoedd.
TEYRNAS GWAWL FAB CLUD - (gweler map yr Alban, isod).
Yn llythrennol, ystyr yr enw, medden nhw, ydy “Gwal
fab Golud”.
Ystyr “Gwawl” yn ôl Geiriadur
y Brifysgol:
- Vallum
(mur Rhufeinig) rhwng Aber Gweryd ac Aber Clud
- sef Mur Antoninus nid Mur Hadrian
- Gwr
- Goleuni
Ond mae ei enw olaf
yn cyfeirio at Afon Clud yn yr Alban, mae’n debyg.
Felly, un o’r Hen Ogledd oedd o, sef Brythoniaid,
fel y Cymry.
Eu prifddinas oedd
Allt Clud – Craig enfawr ar lan ogleddol Afon Clud
[Craig Dumbarton (Dinas y Brythoniaid) NS399745 rwan].
Ymledodd deyrnasau’r Brythoniaid heb her o ganol yr Alban hyd at Gernyw tan Frwydr
Dyrham (ger Caerfaddon) yn 577 ac at Gymru tan Frwydr
Caer yn 615.
Estronwyr yn ein Gwlad ein hun?
»» Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r map (281kb)
Cyfeiriodd yr Eingl-Sacsoniaid at y Brythoniaid i gyd fel “Wælisc” (Welsh) sef
- “estronwyr” a siaredai iaith wahanol.
Rhannwyd nhw fel hyn:
- Cymry’r Gogledd
– Cymru gyfan - o Fôn i Fynwy, gan gynnwys rhannau
o Siroedd y Gororau. (Siaredir Cymraeg gan 582,400
o bobl yn ôl Cyfrifiad 2001.)
- Cymry’r Gorllewin a drigai yn Ngwlad yr Haf, Dyfnaint, Dorset a’u cadarnle olaf,
Cernyw - yr ardaloedd cyfeirir atynt heddiw fel
De-Orllewin Lloegr. (Siaredid Cernyweg, sydd yn
chwaer-iaith i’r Gymraeg, hyd at y 18fed ganrif
pan fu farw olaf o’r siaradwyr uniaith. Ond yn
ôl y sôn, goroesodd nifer fach o bobl a fedrai
siarad cryn dipyn ohoni hyd at ddechrau’r 20ed
ganrif pan gychwynodd y broses o atgyfodi’r iaith.
Ceir tua 300 o siaradwyr hollol rugl a thua 3,000
o ddysgwyr erbyn hyn.) Ffodd nifer fawr o Cymry’r
Gorllewin i Lydaw - (mae Llydaweg, a siaredir gan
tua 270,000 yn ôl Cyfrifiad 2001, yn fwy tebyg
i Gernyweg na’r Gymraeg.)
- Cymry Ystrad Clud a drigai mewn lleoedd sydd, erbyn hyn, yn rhannau o Dde’r Alban
a Cymbria (Rheged) yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Ymsefydlodd rhai ohonyn
nhw dros eu ffinniau gogleddol ym Manaw Gododdin,
Ardal Clackmannan yn yr Alban Modern (o’r Gaeleg
Clach Mhanainn, ‘Maen Manaw’). Polisi y Rhufeiniaid
oedd hybu rhai o’r llwythi nad oedd dan eu rheolaeth
gyda phres (a’r hawl i feddianu’r holl dir roedden
nhw wedi’i cipio) i wrthsefyll eu gelynion mawr –
yn yr achos hwn, er mwyn cadw’r Brithwyr yn bell
o’r Ymherodraeth.
Milwyr o fri oedden nhw ac mi ddaeth nifer ohonyn nhw i diroedd Cymru’r Gogledd
i frwydro yn erbyn yr Gwyddelod (gelyn mawr arall
i’r Rhufeiniaid a’u dilynwyr Brythonig) oedd wedi
goresgyn Llyn, Arfon, Arllechwedd a rhannau o Ynys
Môn. Yn ôl y mynach Nennius (oedd yn ysgrifennu yn
y flwyddyn 800 efallai), eu harweinydd oedd Cunedda
ap Edern sef Cunedda Wledig neu yn Lladin, Cunetacius
(c.386 – c.460). Mi ddaeth o â’i 8 mab a’u byddin
o Fanaw Gododdin. Wedi trechu’r Gwyddelod, rheolodd
o a’i plant a’i wyrion rannau helaeth o Gymru.
Dyma rai a roddodd eu henwau i’w tiroedd eu hunan:
- Aflog, a reolodd
Aflogion (Cafflogion, Llŷn)
- Ceredig a reolodd Ceredigion
- Dogmael, a reolodd
Dogfeiling (Dyffryn Clwyd)
- Dunod, a reolodd Dunoding
(rhannau o Eifionydd ac Ardudwy)
- Edern, a reolodd
Edeirnion (Ardal Corwen)
- Einion Yrth, a reolodd
Caereinion (Powys)
- Rhufon, a reolodd
Rhufoniog (Ardal Dynbych)
- Tegeingl ferch Cunedda a reolodd ardal Sir y Fflint fodern a thu hwNt
- Meirion,
a reolodd Meirionydd
(Afon Teifi oedd eu
ffin deheuol - Oedd y cymeriad Gwawl fab Clud yn
portreadu arweinydd lluoedd Ystrad Clud i drigolion
Dyfed?)
Ond nid yr unig rai a ddaeth o'r Hen Ogledd i feddiannu Gogledd Cymru oedd Cunedda
a'i feibion - daeth Elidir Mwynfawr, ac yn ei sgîl
Clydno Eiddyn efo'i luoedd yn y 6ed ganrif. Ond yn
yr achos hwn, ofer oedd eu ymdrechion. Lladdwyd nhw
gan wyr Arfon ger Clynnog. Gweler 'Clynnog yn ein Llenyddiaeth
Gynharaf Un' .
Ymfalchiai Tywysogion Gwynedd dros eu hachau oedd yn olrhain yn ôl i Cunedda
yn Oes y Rhufeiniaid. (Yn ôl y sôn, gwylltiai Edward
1af, Brenin Lloegr am hynny.) Hefyd, mae’n debyg
fod nifer fawr o drigolion Cymru fodern yn ddisgynyddion
o Gymry Ystrad Clud.
Yn 870 cafodd Allt Clud ei chipio gan Lychlynwyr Gwyddelig a symudwyd y brif-ddinas
i’r de o Afon Clud i Govan. Yna cyfeirid at y dernas
gyfan fel Cymbria neu Rheged.
Yn y diwedd, collodd Cymry Ystrad Clud eu teyrnas eu hunan, yn ystod y 10 - 11fed
ganrif i ddau elyn:
- Yr Ysgotwyr
(Scotti yn Lladin), a oedd o dras Gwyddelig a sefydlodd
yng Ngorllewin yr Alban (Dalriada) yn y 4ed Ganrif
efallai. Ddaethasant efo’u hiath eu hunan a esblygodd
i Gaeleg yr Alban
- Y Northymbriaid a ddaeth efo’u hiath Eingl-Sacsoneg a esblygodd i Scoteg – iaith
sydd yn wahanol iawn i Saesneg fodern
Ond siaradai rhai
o Gymry Ystrad Clud eu hiaith brythoneg (oedd yn
debyg iawn i Hen Gymraeg) hyd at y 13ed ganrif.
Cyfeirir at Gymry Ystad Clud yn Lladin fel 'walensis' yn nogfennau’r cyfnod ac
mae’n bosibl y tardodd yr enw Wallace (ac enwau tebyg)
yn Ne-orllewin yr Alban. Ond yn achos arwr mawr yr
Alban, William Wallace, (1272 - 1305, a aned yn Elderslie,
Renfrew,) doedd o ddim yn ddisgynnydd i Gymry Ystad
Clud yn unig: Fe ddaeth ei gyn-deidiau o Gymru neu
le yn Sir Amwythig y siaredid Cymraeg ynddo yn ystod
teyrnasiad David 1af 1124 –1153 a rhoddwyd yr enw
Wallace iddyn nhw gan eu bod nhw’n medru iaith mor
debyg i’r iaith o’u gwmpas nhw.
Cyd-ddigwyddiad?
Dywedir yn aml y cafodd hen Sir Maesyfed ei henwi ar ol rhywun o’r enw Hefeydd.
Does neb yn gwybod pwy yn unig oedd yn dyn hwn, yn
arbennig gan fod yr enw yn un mor boblogaidd yn y
gorffennol. Ond hefyd, mae’n ddiddorol iawn gweld
yr enw Fforest Clud (neu Fforest Maesyfed) ym Maesyfed,
y lleiaf o Hen Siroedd Cymru – ydy hynny’n fwy na
chyd-ddigwyddiad, tybed?
Yn ôl hen draddodiad yr ardal, mi drechodd Archangel Mihangel y ddraig olaf a
mi gafodd ei charcharu wedyn yn Fforest Clud. Efallai,
roedd y Fforest yn un o gadarnleoedd olaf y paganiaid
a dyma pam, medden nhw, yr amgychynir Fforest Clud
gan bedair eglwys - Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel
Rhydithon, Llanfihangel Nantmelan and Llanfihangel
Cascob - pob un efo'r un nawddsant, Mihangel.
I'r Cristnogion cynnar, roedd y ddraig yn sumbol beiblaidd o baganiaeth. Ond
cariai'r llengoedd Rhufeinig ystondard y ddraig;
felly mi ddaeth yn ddelwedd gref i Dywysogion Gwynedd
- roedd yn gysylltiad cryf i'w hen deidiau pell yn
ôl, sef etifeddwyr yr hen drefn Rhufeinig.
Petasai hynny’n hollol wir, roedd unrhyw un o Fforest Clud yn ymddangos yn estron,
llawn hud a lledrith ac yn hynod o beryglys i bobl
Dyfed.
PRESELAU - Mynydd Preseli yn Nyfed, yn llawn olion cynhanesyddol, yn enwedig
claddfa Pentre Ifan (SN100360). Roedd yn lle pwysig
ym mywydau crefyddol pobl yr oes a fu a chan ei fod
mor arbennig, mae’n debyg y cafwyd y Meini Gleision
eu cludo o Garn Menyn (SN144325) ym Mhreseli i Gor
y Cewri (SU122422) ar Wastadedd Caersallog yn Lloegr.
GWENT IS COED - (gweler fap y cantrefi ) Arglwyddiaeth Teyrnon Twrf Liant. Mae rhai yn cysylltu’i
enw a’r enw Brythoneg Tigernonos, duw celtaidd mewn
ffurf hanner dyn, hanner carw -“Y Brenin Mawr”.
(Dyma gysylltiad ceffylaidd eto - Wedi achub ei ebol newydd-anedig o’r anghenfil,
daeth Teyrnon o hyd i fab Rhiannon a Phwyll, Pryderi.
NANT TEYRNON-
Ceir y llecyn tua 2 filltir i’r gogledd o Gaerleon
yn Went, lle codwyd Abaty Llantarnam (ST313928)
yn 1179.
(Gweler y map o Geinciau 1 a 2, uchod).
SEISYLLWCH - sydd yn cynnwys:
Ystrad Tywi (3 cantref) + Ceredigion (4 Cantref [3
yn ddiweddar]). Gweler fap Cantrefi Cymru yn yr Oesoedd
Canol .
YMWADIAD PWYSIG: ER GWYBODAETH YN UNIG Y DARPERIR
Y MANYLION HYN AM LEOLIADAU. OS NAD OES LLWYBRAU
CYHOEDDUS
YN
ARWAIN ATYNT, NI DDYLAI NEB YMWELD Â'R SAFLEOEDD
HEB GANIATÂD.
|