Y Mabinogi

Llefydd a gafodd eu crybwyll ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi

 
 
 

Cyflwyniad

Tydi'r tudalennau canlynol ddim yn cynnwys y chwedl i gyd, mae rhaid i chi gael copi o'r Mabinogi (heb ei dalfyrru os yn bosib, ond does dim ots pa fersiwn), ac unrhyw fap modern o'r ardaloedd dan sylw gan Ordnance Survey. Ond cofiwch, cafodd y llyfr ei ysgrifennu yn Gymraeg Canol yn wreiddiol. Felly, mae'r sillafu yn debyg o amrywio rhwng bob fersiwn yn ôl dewis y golygydd.

Mae'r chwedlau hyn o'r oes cyn-hanes yn tarddu o hen fythau am y duwiau celtaidd. Wedi dyfodiad Cristnogaeth, collodd y cymeriadau eu statws fel duwiau, ond cafwyd eu disgrifio gan y cyfarwyddwyr (storiwyr) fel arwyr mawr yr oesoedd a fu. Cafodd y storiau traddodiadol hyn eu hysgrifennu mewn llyfrau am y tro cyntaf yn y Canol Oesoedd, gan fynachod mwy na thebyg.

Pobl uchel eu parch oedd y cyfarwyddwyr yn y Canol Oesoedd - ffaith sy'n cael ei chrybwyll yn aml yn y storiau! Ond nid haneswyr neu archaeolegwyr oedden nhw, felly, doedden nhw ddim yn gwybod am ganlyniadau ymchwil yr oes modern am fegalithau, cromlechau a'r cloddweithiau enfawr. Iddyn nhw, tystiolaeth o waith eu cyndeidiau cadarn oedd rhain. Does dim syndod eu bod nhw'n ceisio cysylltu'r lleoedd yma gyda'r bobl hyn a'u gweithredodd.

Hefyd, caiff enwau hynod eu hesbonio gan rai ddigwyddiadau. Onomastig ydy'r term am y fath chwedl – weithiau, roedd y cysylltiad (a'r ffiloleg!) yn amheus iawn. Dros y milenia, heb os, fe gafodd y gweithredodd a ddisgrifwyd yn y Mabinogi eu lleoli mewn sawl ardal rhwng Dyffryn Nantlle a'r India, gan yr Hen Geltiaidd.

Hen Raniadau a Chantrefi Cymru

GWYNEDD - wedi'u rhannu'n ddwy, Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Îs Conwy.

POWYS - wedi'u rhannu'n ddwy, Powys Fadog a Powys Wenwynwyn.

DEHEUBARTH – Chwech ardal deheuol, sef Brycheiniog, Ceredigion, Dyfed, Morgannwg (gan gynnwys Gwent), Rhwng Gwy a Hafren, Ystrad Tywy.

Teyrnas Pryderi oedd:

DYFED - 7 Cantref
MORGANNWG -7 Cantref
CEREDIGIAWN - 4 Cantref
YSTRAD TYWI - 3 Cantref.

Llys Math

DOL BEBIN, Arfon. o.s 493525 Aneddle Pebin, tad Goewin – ‘y ferch decaf y gwyddid yno yn ei hoes'. Saif stad o dai yma erbyn hyn.

Ble roedd Caer Dathyl?

Anhysbys, medd y mwyafrif o'n haneswyr a llenorion mwyaf disglair dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae'r cwestiwn hwn wedi achosi cryn drafferth: dydy'r enw ddim yn parhau yn unman rwan. Cyfeirir at Gaer Dathyl fwy o weithiau nag unrhyw le arall ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi.

Mae'n bosibl, efallai, i geisio dychmygu ble roedd Caer Dathyl ym meddwl y cyfarwyddwyr:

1. I Syr Mortimer Wheeler, yr archaeolegwr enwog, Caernarfon o.s. 476626 oedd y lle amlwg – ond mae 'na son am y dref yn yr ail Gainc, felly mae'n anhebygol iawn;

2. Yn ol W J Griffiths, Pendinas o.s.550653 ger Llanddeiniolen oedd y lleoliad iawn, nid nepell o Creuwyon (Cororion), o.s. 597686 (ond dydy hynny ddim yn lleoliad credadwy i'r twlc moch chwaith [gweler isod]) – ond yn ei filltir sgwar ei hunan ydyn nhw – bias llwyr, siwr o fod!

Felly, oes rhywle yng nghanol yr ardal, lle mae ‘na brinder o enwau a chawsant eu crwbwyll yn Y Mabinogi (gweler y map Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd), rhyw lecyn efo enw ‘niwrtal' sy ddim yn awgrymu dim byd arall rwan?

3. Bryn Hengaer o.s. 476526 (ond hefyd Caer Engan" - wedi ei henwi ar ol yr hên frenin a sant, Engan);

4. Craig y Dinas o.s. 447520 (gweler gerllaw Lleuar Fawr o.s.445520 a Lleuar Bach o.s. 448516 - enwau efo cysylltaid cryf i'r chwedl).

Ond mae 3. a 4. yn rhy agos i'r Afon Llyfni; does dim son am y dewin Gwydion yn pasio dan furiau Caer Dathyl wrth ddilyn yr hwch o Bennardd ar lan yr Afon Llyfni i Nantlle, lle daeth o hyd i Lleu mewn ffurf eryr.

5. Y Foel o.s. 450507. Mae cynifer o bobl wedi dweud pa mor urddasol a hudol yw'r uchelfan hon, wedi ei lleoli mor gweladwy yng nghanol y fro. Ar gopa'r Foel saif hengaer o'r Oes Haearn. O'r copa ceir golygfa hyfryd dros yr ardal i gyd, ac mae'n hawdd ei dychmygu fel cadarnle y brenin/dewin Math.

Ai dyma Gaer Dathyl fel sonnir amdano yn y Mabinogi?
Llun: Y Foel / Caer Dathyl?

Pwy a wyr?

Pryfocio Rhyfel

Annwn / Annwfn

Rhoddwyd moch i Bryderi gan frenin Annwn, Byd Arall yr hen chwedlau - dan y ddaear medd rhai. Ond yn ôl rhai eraill, byd sydd yn bodoli ochr wrth ochr gyda'n byd ni ac yn debyg iawn iddo hefyd. Wrth gwrs ni all pawb ei weld!

(Gweler gyfrif nantlle.com o hanes Martha Mynydd Llanllyfni am wybodaeth berthnasol.)

Dwyn y Moch

RHUDDLAN TEIFI, CEREDIGIAWN. o.s.492431 map 146 - Llys Pryderi, ger Llanbedr Pont Steffan.

Dyma chwedl onomastig, sef - Yn yr engraifft hon, casglwyd ynghyd pedwar o enwau lleol sydd yn gynnwys y gair moch, gan honni bod yr enwau'n tarddu o'r achlysuron hyn.

Noson 1: MOCHDREF Ucheldir Ceredigiawn. (Nant y Moch) o.s. 750850 gweler
www.aberarchsoc.org.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

Noson 2: MOCHDREF dros Elenid, rhwng Ceri ac Arwystli. SO0723988673 4 milltir i'r de-orllewin o'r Drenewydd, Powys

Noson 3: Commot MOCHNANT ym Mhowys (ger Llanrhaiadr ym Mochnant) SJ125259

Noson 4: MOCHDREF - Cantref Rhos (ger Bae Colwyn) o.s.870780

Noson 5: CREUWYON (Cororion), o.s. 597686 Cantref uchaf Arllechwedd, lle adeiladwyd twlc i'r moch . Wedyn ymlaen i GAER DATHYL, "yn y cantref islaw" i'r twlc (ond mae rhai yn honni y byddai rhywle fel Tre'r Ceiri yn fwy tebyg o danio dychymyg yr hen storiwyr fel lleoliad y twlc. a fyddai tu ôl i luoedd Math yn hytrach nag o'u blaen).

Taith dwyn y moch
Llun: Taith dwyn y moch.

Felly, fe ddaeth byddin Pryderi at Gaer Dathyl o'r gogledd, wrth iddyn nhw ddilyn y lladron Gilfaethwy, Gwydion a'u criw.

Rhyfel

PENNARDD o.s. 430510 – Yn ymyl y gromlech. Lle arhosodd Math a'i fyddin.(Y noson hon, fe aeth Gilfaethwy i Gaer Dathyl, lle, efo cymorth Gwydion fe dreisiodd Goewin. Aethant yn ôl i'r fyddin wedyn.)

Wynebodd y ddwy fyddin ei gilidd, hanner ffordd rhwng MAENAWR BENNARD o.s 426510 a MAENAWR COED ALUN (Coed Helen) o.s. 473622

Efallai, dechreuodd y frwydr ar y lle sydd bellach Stad Glynllifon. A welodd y cyfarwyddwyr y Maen Hir (o.s.445543) fel rhyw fath o gofgolofn?

BRYN GWYDION o.s. 444533 - Yn ôl traddodiad lleol, safodd Gwydion yma er mwyn gweld ac arwain y brwydr. Ac oddi yna mi giliodd byddin Pryderi i'r de yn hytrach na ddilyn yr un ffordd adref.

Bryn Gwydion
Llun: Bryn Gwydion.

Ciliodd byddin Pryderi i NANT CALL / NANTCYLL o.s. 474470 lle lladdwyd nifer fawr o ddynion.

Ciliasant i DOLBENMAEN o.s. 430506 – rhoddwyd gwystlon.

TRAETH MAWR o.s.590400 Yna, dechreuodd yr ymladd eto. Lle tra gwahanol yn yr Oesoedd Canol oedd o. Estynnodd y dwr i Aberglaslyn, Penmorfa a Llanfrothen. Yn ei ganol oedd nifer o ynysoedd bychain. Croesodd Gerallt Cymro a'i gyd-deithwyr drosodd mewn cwch yn 1188, tua dwy ganrif cyn gafodd y Mabinogi ei ysgrifennu i lawr. (Codwyd y Cob ym Mhorthmadog yn 1811 fel rhan o'r cynllun i sychu'r tir.)

Y FELYNRHYD o.s. 648397 lle lladdwyd Pryderi - islaw MAEN TYRIAWG (Maentwrog) o.s. 655405 – lle claddwyd Pryderi.

Y Felyn Rhyd
Llun: Y Felyn Rhyd.

Yn ôl i GAER DATHYL.

Cosb Gwydion a Gilfaethwy

Wedi ymddwyn yn waeth nag anifeiliaid, trawsffurfwyd Gwydion a Gilfaethwy i geirw, baeddod gwyllt a bleiddiaid am gyfnod o dair blynedd gan Math.

Roedd cynefin coediog yr Oesoedd Canol yn fwy ffafriol o lawer i anifeiliaid o'r fath na'r tirwedd presennol.

Does dim son am unrhyw le penodol ond Caer Dathyl.

Hanes Dylan

MAEN DYLAN o.s. 426525
BEDD DYLAN o.s. 407495

Maen Dylan
Llun: Maen Dylan.

Ni chafodd y lleoedd hyn eu crybwyll yn y Bedwerydd Cainc, ond yn ôl Englynion y Beddau, claddwyd Dylan yn Nghlynnog / Llanfeuno - nid yw'r stori yn gyflawn yn y Mabinogi. Er gwaetha rhai cyfeiriadau mewn hen dogfennau eraill, byddai'n amhosibl ail-greu'r hanes yn llawn.

Yn ôl Marwnad Dylan Eil Ton gan Taliesin, Gôf oedd Gofannon a Dylan ei nai oedd ei was. Gwnaethpwyd trident yn yr efail, a ddefnyddwyd gan Gofannon i ladd Dylan.

Ystyrid gofaint fel dewiniaid yn yr oes a fu. Oes cysylltiad efo'r enwau hyn?

CAERGOFAINT o.s. 444529
CAE'RGOFAINT BACH o.s. 442532

Ymweld â Chaer Arianrhod

Teithiau rhyfedd! Engraifft arall o'r cyfarwyddwyr yn tynnu coesau'r gwrandawyr!

1. Cerddasant i GAER ARANRHOD (Caer Arianrhod o.s 423547): wedyn i Gaer Dathyl. Yn y bore cerddasant i ABERMENAI o.s. 440610.

2. Mewn cwch hud. Diflanodd y cwch, felly wnaethant adael mewn ffordd arall. "Daethasant tuag at DDINAS DINLLE" o.s. 437564 - nid yr unig "Dinas Lleu" yn Ngorllewin Ewrop ydy hyn – Mae Lyon a Laon yn Ffrainc, Leyden yn yr Iseldiroedd ac eraill i gyd wedi eu henwi ar ol Lleu / Lugh / Lugus sef Duw Celtaidd yr Haul. (Dyma'r unig son am y bryngaer ar lan y môr. Un esboniad o arwyddocad yr enw yw dyna'r lle magwyd Lleu. Gweler isod: Diweddglo Gwahanol?)

Yr olygfa allan i'r mor o Ddinas Dinlle
Llun: Yr olygfa allan i'r môr o Ddinas Dinlle.

3. Aethant ar hyd yr arfordir tuag at FRYN ARIEN (Brynaerau o.s.440522), wedyn, ar ben CEFYN CLUN TYNO (Cefn Clydno) (Fferm Coedtyno ger Capel Uchaf o.s.431500 ) - ac wedyn marchogaeth i CAER ARANRHOD.

Yn ôl pobl leol, mewn stori hollol wahanol, cafodd "Trearanrhag" ei boddi o achos pechodau'r trigolion – dim ond tair merch a oroesodd. Creigiau dan y dŵr ydy Caer Arianrhod, medd rhai. Ond mae rhaid edrych i fyny i'r nefoedd, medd rhai eraill - ceir y Llwybr Llaethog ei galw'n Gaer Arianrhod. Ond dywedir mai'r Corona Borealis ydy Caer Arianrhod hefyd...

Blodeuwedd

CANTREF DINODING, rhanwyd wedyn fel Eifionydd (EIFYNYDD) ac Ardudwy.

MUR (Y) CASTELL (TOMEN Y MUR) o.s. 705387 - Castell Normanaidd wedi'i adeiladu ar safle caer Rufeinig, yn ucheldir Ardudwy.

PENLLYN - Ardal ger Llyn Tegid.

CYNFAEL - Afon ger Llanffestiniog.

BRYN CYFEGYR - bryncyn ar lan afon Cynfael, lle safodd Gronw Pebr er mwyn taflu'i waywffon at Lleu.. Rwan maen nhw'n ei galw Bryn Cyfergyr.

NANT LLEU – Lle safodd coeden (derwen medd rhai) rhwng y ddau lyn (Baladeulyn o.s. 509534) neu yn ardd faes (maes uchel) neu dan anwaered (llechwedd)? Dyw hi ddim yn hollol glir ble roedd y goeden – y storiwr yn tynnu coes eto?

Rhwng y ddau lyn
Llun: Rhwng y ddau lyn.

LLYN Y MORWYNION o.s. 737423 (lle heb ei enwi'n uniongyrchol dan yr enw hwn yn y Mabinogi).

LLECH RONW – ar lan afon CYNFAEL. Maen hir sydd wedi syrthio i lawr erbyn hyn ar lan yr afon ger Llety Nest yn ymyl y bont newydd. Gwnaethpwyd twll yn y garreg gan waywffon Lleu cyn iddo ladd Gronw Pebr, medden nhw.

(Thema cyffredin mewn chwedlau tebyg yw "cyfnewid ergydion" – cafodd Lleu eu daro unwaith, felly roedd hawl ganddo daro ei ymosodwr unwaith hefyd.)

Diweddglo Gwahanol?

Mae'n bosib bod gan bob un o'r cyfarwyddwyr eu fersiwn unigryw eu hunain o bob rhan o'r chwedl; dim ond yr un cyfarwydd yn y Bedwaredd Gainc a gafodd ei ysgrifennu i lawr yn y canol oesoedd sy'n ymwybodol i ni.

Ond medd rhai, nid MUR Y CASTELL yn ARDUDWY oedd cartref Lleu a Blodeuwedd, ond yn hytrach, DINAS DINLLE yn ARFON.

CAER LODA o.s. 438548

1. Fe gafodd Lleu ei ddatgymalu gerllaw yng Nghaer Loda, sef Cae'r Aelodau (yn golygu rhannau o'i gorff). Er nad oes unrhyw sôn am iddo gael ei ddarnio yn y Mabinogi, rhaid gofio mythau eraill. [e.e. Yr Aifft - Isis ac Osiris: lladdwyd un o'r Duwiau gan elynion, ac fe aeth un arall i gasglu holl ddarnau ei chorff a wasgarwyd dros y byd, er mwyn ei hatgyfodi. Gwlad Groeg - Adonis a.y.y.b.].

2. Neu, trawsffurfwyd ei freichiau: aelodau oedd y term heboca canoloesol am goesau neu adennydd yr aderyn.

Felly, yn ôl y ddamcaniaith amheus hon, daethpwyd o hyd i Lleu gan Gwydion yn Nyffryn Nantlle, yn gymharol agos i'r lle cafodd o ei anafu gan waywffon hud Gronw.


YMWADIAD PWYSIG: ER GWYBODAETH YN UNIG Y DARPERIR Y MANYLION HYN AM LEOLIADAU. OS NAD OES LLWYBRAU CYHOEDDUS YN ARWAIN ATYNT, NI DDYLAI NEB YMWELD Â'R SAFLEOEDD HEB GANIATÂD.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys