Martha'r Mynydd
Cafodd yr erthygl hwn ei seilio ar bethau rhyfedd
a ddigwyddodd ar Fynydd Llanllyfni tua 1740, rhai blynyddoedd
wedi'r Ddeddf yn Erbyn Dewiniaeth gael ei diddymu yn
1736. Barnwyd neb yn euog dan y ddeddf am dros 24 mlynedd,
oherwydd erbyn hynny, ni ystyriai unrhyw ynad deallus
yn ei iawn bwyll gyhuddiadau oedd yn ddieithriad heb
dystiolaeth gadarn. Beth bynnag, achoswyd y diddymu
cryn stŵr ymhlith y bobl oedd yn fwy cyfyngedig
eu hagweddau. Dywedodd rhai Presbyteriaid yn yr Alban
mai "trosedd yn erbyn Gair Duw" ydoedd; a
gwylltiodd John Wesley, sefydlwr Methodistiaeth, gan
gymharu peidio â chydnabod dewiniaeth ag anwybyddu'r
Beibl yn llwyr. Yn wahanol i lefydd eraill ym Mhrydain,
Ewrop a Gogledd America, yr ydym ni, y Cymry, yn ffodus,
heb un helfa ddewiniaid a'i chanlyniadau erchyll.
Daliodd y bobl goelion a ddisgrifir sy'n dyddio'n ôl
i hanes cynnar y Celtiaid. Ond erbyn yr 18 ganrif,
gwelid hyn fel tystiolaeth o anwybodaeth y werin.
Llun: Mynydd
Llanllyfni.
Ymddangosodd y chwedl sy'n dilyn yn 'Drych yr Amseroedd'
(Hanes Methodistiaeth) 1820 gan y Parchedig Robert
Jones, Rhoslan. Ceir fersiwn arall yn Nant Nantlle
1871 gan Y Parchedig W.R. Ambrose, Talysarn a dynnwyd
yn llwyr efo gwallau o'r llyfr uchod, gan gynnwys rhai
datblygiadau o draddodiad llafar neu o'i waith ei hun
a ddangosir isod mewn italeg a cromfachau:
"Prin y gallaf farnu ei fod yn werth ei 'sgrifennu
na'i ddarllen, yr ynfydrwydd digywilydd a luniwyd
yn bennaf gan wraig ymadroddus, rith grefyddol, a'i
gwr
hefyd o'r gyfrinach.
Yr oeddynt yn byw mewn tŷ ar Fynydd Llanllyfni.
Dechreuasant hysbysu i amryw eu bod wedi cael cydnabyddiaeth
a rhyw dylwyth a elwid 'Anweledigion' Yr hanes oeddynt
yn fynegu amdanynt sydd debyg i hyn: Eu bod yn genedl
luosog, mawr eu cyfoeth, ac yn blith-draphlith mewn
ffeiriau a marchnadoedd gyda ni; ac nad oedd neb yn
eu canfod, ond y rhai oedd wedi ymroddi i fyned i'w
cymdeithas. Yr oedd y gelyn diafol wedi llwyddo i beri
i rai goelio y teithient hwy, eu meirch, a'u cerbydau,
ar hyd yr eira heb i neb weled eu hôl. Yr oedd
y fenyw ddichelgar a soniwyd eisoes amdani, wedi
cael gan nifer gredu fod gwr bonheddig mawr yn byw
yn agos
i'w thy ar y mynydd, mewn plas godidog gyda'i ferch;
a'u henwau oedd Mr a Miss Ingram.
Ymgasglai cryn lawer o ynfydion (gan mwyaf o bell
y byddent yn dyfod), i gadw math o gyfarfod nos,
heb oleuni cannwyll na fflam tân, nac un llewyrch
arall ond a geid oddi wrth y marwor: Canys ni allai
y Tylwyth Anweledig oddef y goleuni. Weithiau deuai
yr hen wr bonheddig i bregethu iddynt ei hun; bryd
arall y ferch a ddeuai mewn dillad gwynion. (Dywedir
fod un amaethwr o Fon wedi ei lygad-dynu...gan y grefydd
newydd hon a chan obeithio hefyd, trwy ei chyfrwngwriaeth
y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo fel y cariodd ei
holl eiddo i.... Fynydd Llanllyfni.) Yn ôl
treulio talm o amser cyn cael allan y twyll, digwyddodd
i ryw ddyn (Gutto-wir-gast.) cyfrwysach
nag eraill o'r frawdoliaeth graffu'n fanwl ac yn
adnabod
yn eglur mai gwraig y tŷ oedd yn dyfod atynt
i'w twyllo; weithiau mewn dillad mab, bryd arall
mewn dillad
merch. (Sylwodd fod y wraig wedi llosgi ei throed
a sathrodd ef y clwyf a barodd iddi lefain allan.)
Gwaeddodd y dyn allan: "Gwrandewch bobl, ein
twyllo ydym yn gael yn ddiamheuol! Myfi a wnaf
fy llw mai
M_______ (Martha) yw hon!
Gyda hynny aeth yn derfysg trwy y tŷ, a gorfu
i'r creadur tlawd ddianc ymaith am ei einioes.
Aeth y ddichel uffernol honno i warth, a chynifer
oll a
ufuddhasant iddi a wasgarwyd; ac nid aethant rhagddynt
ymhellach; eu hynfydrwydd aeth yn amlwg i bawb.
(Ar ôl
hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd
ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid yn Llanllyfni.)"
Er y diddymwyd yr hen ddeddf yn
erbyn dewiniaeth, roedd yn bosibl o hyd i'r rhai oedd
yn hawlio fod ganddynt bwerau goruwchnaturiol (er mwyn
twyllo) eu herlyn. Does dim tystiolaeth ar gael am
rywun o'r enw Martha'n cael ei herlyn yn y cyfnod hwn.
Dechreuodd achos y Methodistiaid
yn Llanllyfni yn 1766, sef tua 25 o flynyddoedd wedyn.
Petasai Martha wedi ymaelodi â nhw, byddai'r
Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn debyg o ymhyfrydu
yn y ffaith, ond soniodd o ddim am hynny. Efallai wrth
gymysgu’r stori hon efo gweithgareddau Mari’r
Fantell Wen (Meirionnydd) a hefyd Joanna Southcott
(Sir Gaerhirfryn), rhyw 40 o flynyddoedd wedyn (ar
yr un dudalen â hanes Martha yn Drych yr Amseroedd)
neu efo Gwen y Canu yn Buarthau, ceisiodd y Parchedig
Ambrose (Bedyddiwr) greu diweddglo dymunol.
Mae’r enw Ingram o bwys
hefyd, gan ei fod mor brin yng Nghymru. Yn y cyfnod
hwn, roedd y teulu Ingram, o dras Romani, yn adnabyddus
iawn drwy’r wlad (wrth feddwl am y rhagfarn yn
erbyn y Sipsiwn, mae’n rhyfedd bod y Parchedig
R Jones, Rhoslan, yn methu â'u lambastio nhw
am hybu ofergoelion!). Daliai’r Romani eu hagweddau
cydgordiol tuag at yr amgylchfyd mewn oes lle tueddai
cymaint o Gajos (pobl sydd ddim yn Romani) i wahanu’r
byd materol oddi wrth byd yr ysbryd, yn enwedig mewn
crefydd gyfundrefnol. Gyda llaw, cadwodd y Sipsiwn
gryn dipyn o’n hetifeddiaeth gerddorol ni. Cerddoriaeth
seciwlar a phob math o ddawnsio oedd gwaith y Diafol,
yn ôl llawer o Ymneilltuwyr! Dros y canrifoedd,
arferai’r Sipsiwn wersylla ar Gors y Llyn, Lôn
Las a Cherrig Mawr yn ystod yr haf. |