Clynnog yn ein Llenyddiaeth
Gynharaf Un
Y Gododdin
Yn y canu cynharaf un yn y Gymraeg ceir cyfeiriad
at Tal Hen Bann, sef Henbant Mawr, Capel Uchaf - yn
ymyl yr hen ffordd o Arfon i Eifionydd meddai Syr Ifor
Williams, Canu Aneirin, t. 354. Y cyfnod y cyfeirir
ato yw hanner olaf y chweched ganrif.
Y Mabinogi
Enwir y canlynol yn y Mabinogi: (y rhyddiaith gynharaf
yn y Gymraeg):
• Pennardd - Pennarth, Aberdesach
• Dylan - Maen Dylan, Aberdesach
• Gwydion - Bryn Gwydion, Pontlyfni
• Y Bwlch Mawr
• Brynaerau
• Lleu
• Arianrhod - Caer Arianrhod • Cefn
Clun Tyno (Tybiai Syr Ifor Williams mai yng Nghapel Uchaf yr oedd y lle hwn.
(Cae yw clun a phant yw tyno).
Ceir Coedtyno yn enw ar ffarm yno heddiw.
Ceir ychydig bach o "Englynion Beddau" hefyd
ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Cyfeirir yn un ohonynt
at fedd Dylan yn Llanfeuno (sef Clynnog).
Breinniau Arfon
Hen siarter oedd hon a welir yng Nghyfreithiau Hywel
Dda a chyfeiria at y ffaith fod Elidir Mwynfawr (o’r
Hen Ogledd, sef Yr Alban heddiw) wedi ei ladd gan wyr
Arfon yn Aber Menweddus. (Enw arall ar Afon Rhyd Beirion
- sef Aber Rheon, yr afon sydd yn Nhai’n Lôn,
Clynnog).Yr oedd Elidir Mwynfawr yn gymaint o arwr
fel yr anfonwyd negeseuwyr i’r Hen Ogledd i beri
iddynt anfon llu o wyr arfog i ddial ar wyr Arfon am
ei ladd (yn cynnwys y tywysog Clydno Eiddyn). Yr un
a gafodd y fraint o arwain gwyr Arfon yn eu herbyn
oedd Maeldaf Hen, Pendefig Pennarth. Lladdwyd rhai
o wyr yr Hen Ogledd, yn cynnwys Cynon ap Clydno Eiddyn.
Yn ôl Syr Ifor Williams, tud. 175 Canu Aneirin,
yr oedd Cynon ap Clydno Eiddyn yn perthyn i hanner
olaf y chweched neu ddechrau y seithfed ganrif.
Dyma enghraifft o gerdd o Englynion y Beddau a ddiweddarwyd
gan Yr Athro Gwyn Thomas yn cyfeirio at Rheon Ryd lle
y claddwyd Cynon ap Clydno Eiddyn:
Bedd Rhun fab Pyd ger ymdaflyd afon:
Mewn oerfel mewn gweryd
Bedd Cynon yn Rheon Ryd.
Brwydr Bron yr Erw (Capel Uchaf)
"Gan fod hen ffordd y De yn dyfod o gyfeiriad
Nancall hyd lethr y Bwlch Mawr, dyna pam yr ymladdwyd
brwydr Bron yr Erw yn yr ardal hon. Wedi colli’r
dydd, ciliodd Gruffudd ap Cynan yn ôl i Aber
Menai, ar hyd y ffordd y deuai Gwydion yn awr. (HGC
120). Gallasai hwnnw adael yr arfordir wrth Fryn Gwydion,
cyn cyrraedd Pontlyfni; wedyn rhydio Llyfni lle mae
Pont y Cim bellach."
(Nodyn gan Syr Ifor Williams,
PKM, t. 280). |