Ceir
nifer o enwau lleoedd yn Nyffryn Nantlle a’r
cylch sydd i’w cael yn chwedlau’r Mabinogi:
• Dinas
Dinlle a Bedd Gwenan, Caer Arianrhod, Maen Dylan
(Aberdesach) • Brynaerau,
Bryn Gwydion, Lleuar, Llanfeuno (Clynnog)
• Cefn
Clutno, Maenor, Bennardd (Pennarth, Aberdesach),
Dolbebin
• Nantlle
(Nant Lleu), Ysgol Bro Lleu, Nancall (Pant Glas)
• Aber
Menai, Coed Alun, Dolbenmaen
Chwedlau
Cymraeg Canol yw’r Mabinogi. Yr oedd y pedair
stori a elwid yn Bedair Cainc y Mabinogi, sef Pwyll
Pendefig Dyfed, Branwen Ferch Llyr, Manawydan a Math
Fab Mathonwy. Ond pan gyfieithodd Charlotte Guest
chwedlau Cymraeg Canol i’r Saesneg defnyddiodd
y teitl "The Mabinogion" iddynt, ac yn
y cyfnod diweddar daeth yn arferiad i ddilyn Charlotte
Guest a defnyddio "Mabinogion", yn enwedig
yn Saesneg, fel enw hwylus am yr holl chwedlau, sef,
yn ychwanegol at y Pedair Cainc, ceir Culhwch ac
Olwen, Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys,
Breuddwyd Rhonabwy, Peredur, Owain, Geraint ac Enid.
Daeth
y Mabinogi yn faes astudiaeth cydwladol pwysig a
cheir toreth o ddeunydd ar y maes ar y
Rhyngrwyd .
Rhaid
nodi bod yr englynion a geir yn chwedl Math fab Mathonwy
y cyfeirir atynt isod ymysg y farddoniaeth hynaf
yn y Gymraeg. [hanes Lleu ar y goeden pan oedd wedi
ei droi yn eryr]. Y rhyfeddod mawr yw fod yr englynion
hyn yn dal yn ddealladwy i ni heddiw. Mawr yw ein
braint o gael y cyfrifoldeb o ddiogelu’r traddodiad
cyfoethog hwn yn Nyffryn Nantlle sydd yn deillio
o gyfnod cyn-hanes.
Yr
awdurdod mawr ar Y Mabinogi yn y Gymraeg oedd Syr
Ifor Williams. Roedd yn byw ym Mhontllyfni ac yn
Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Golygodd y llyfr Pedair Keinc y Mabinogi, Gwasg Prifysgol
Cymru, sydd â nodiadau helaeth ynddo.
Dyfynnir
y canlynol o lyfr Dewi Tomos, Llechi Lleu, Cyhoeddiadau
Mei, 1981:
Unwaith
trigai’r dywysoges Arianrhod yn ymyl Dinas
Dinlle mewn caer a elwid Caer Arianrhod. ’Dyw’r
gaer ddim yno heddiw, ond gellir gweld olion y muriau
ar drai mawr. Roedd gan Arianrhod fab bychan, ond
roedd hi’n casáu’r plentyn, ac
felly fe’i rhoddodd ef i’w brawd, Gwydion,
i’w fagu. Bachgen rhyfeddol iawn ydoedd a phan
oedd yn bedair oed roedd cymaint a chyn gryfed â phlentyn
wyth oed. Ef oedd cannwyll llygaid Gwydion ond achosai
un peth dristwch i Wydion, ’doedd gan y plentyn
ddim enw am i Arianrhod wrthod rhoi enw arno.
Penderfynodd
Gwydion fod rhaid gorfodi Arianrhod i roi enw i’w
mab ac felly aeth ati gyda’r plentyn. Nid adnabu
hi’r plentyn i ddechrau, yr oedd wedi tyfu
cymaint.
"Does
ganddo ddim enw," meddai Gwydion.
"A
chaiff o ’run enw heb i mi ei roi iddo a hynny
ni wnaf byth," harthiodd Arianrhod.
"Mam
gas iawn wyt ti, ond fe gaiff enw ar dy waethaf," atebodd
Gwydion. Roedd Gwydion yn wr cyfrwys iawn ac yn ddewin,
a dyma ei gynllun.
Wrth
aber afon Menai, ar draeth y Foryd, tyfai llawer
o hesg. Trwy hud adeiladodd Gwydion long ohonynt.
Gwnaeth hefyd ledr hardd, a’i dorri’n
barod i wneud esgidiau. Yna, newidiodd ei wedd ei
hun a’r bachgen trwy swyn a rhoi dillad newydd
iddynt fel yr ymddangosent fel dau grydd. Hwyliodd
y ddau yn y llong hyd tua chaer Arianrhod ac angori
wrth y gaer. Bu’r ddau yn ddiwyd yn gwneud
esgidiau nes i rai o forynion Arianrhod eu gweld
a sylwi pa mor hardd oedd y lledr. Gwnaeth Gwydion
y pâr yn rhy fawr a dychwelwyd hwy, a gofyn
iddo wneud pâr arall. Gwnaeth yr ail bâr
yn fwriadol rhy fach. Dychwelwyd y rhain eto.
"Rhaid
i’r dywysoges ddod yma i gael mesur ei throed," meddai
Gwydion wrth y morynion.
Trannoeth
daeth Arianrhod ar fwrdd y llong i gael mesur ei
throed ac nid adnabu Gwydion na’i mab. Tra
mesurai Gwydion ei thraed disgynnodd dryw bach ar
hwylbren y llong. Cydiodd y bachgen yn ei fwa a saeth
a saethodd y dryw yn ei goes. Chwarddodd Arianrhod
ac meddai,
"Wel
yn wir, â llaw gyffes y trawodd y llew y dryw."
"Dyna’r
bachgen wedi cael enw o’r diwedd," gwaeddodd
Gwydion. "Lleu Llaw Gyffes." Yn y fan diflannodd
y llong a’r lledr hud a’r esgidiau a’r
cryddion rhyfedd, ac yn eu lle gwelodd Arianrhod
Wydion a’i mab a enwodd Lleu Llaw Gyffes. Dyna
sut y daeth yr enw Dinas Lleu, neu Dinas Dinlleu,
i fod. Ystyr "cyffes" yw cywrain neu fedrus.
Yr
oedd Arianrhod yn ddig iawn iddi gael ei thwyllo
gan Gwydion a thyngodd na châi ei mab, Lleu
Llaw Gyffes, wraig byth o’r genedl oedd ar
y ddaear hon. Wedi clywed hyn aeth Gwydion at Fath,
mab Mathonwy, am help a chymerodd Gwydion a Math
flodau’r deri, banadl a’r erwain a thrwy
hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau.
Galwyd hi Blodeuwedd, ac yn fuan priodwyd hi a Lleu
ac aeth y ddau i fyw i Fur y Castell ger Harlech.
Ond
ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â Gronw
Pefr, Arglwydd Penllyn a chynlluniodd y ddau sut
i gael gwared o Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid
lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach
gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano.
"Paid â phoeni," meddai
Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd.
Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn a tho arno
ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl
y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon,
yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur
y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."
Adroddodd
Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud
y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oedd popeth yn barod.
Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai
cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod
fod Gronw yn cuddio gerllaw.
Taflodd
Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda
bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd
Gronw Pefr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am
hyn penderfynodd fyn i weld beth a ddigwyddodd i
Lleu.
Daeth
ar fferm ac aros y noson yno. Gyda’r nos dychwelodd
gwas y moch adref a gofynnodd y ffermwr iddo,
"Ddaeth
yr hwch i mewn heno?"
"Do," atebodd
y gwas, "y mae newydd gyrraedd."
"Pam
y gofynni hyn?" holodd Gwydion. Eglurodd y gwas:
"Bob
bore pan agorir y cwt fe rêd yr hwch allan
a wyr neb i ble."
"Yfory," meddai
Gwydion, "paid ag agor y cwt nes y byddaf i
yno."
Trannoeth
aeth Gwydion gyda’r gwas at y cwt. Gollyngwyd
yr hwch a dilynodd Gwydion hi bellter maith nes dod
i gwm gwyllt ac unig. Yna arhosodd yr hwch a dechrau
bwyta rhywbeth a ddisgynnai oddi ar y goeden. Edrychodd
i fyny a gwelodd eryr yn eistedd ar frigyn ucha’r
goeden. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr
a dechreuodd adrodd englynion wrtho nes iddo ddisgyn
ar lin Gwydion. Yna tarawodd yr aderyn â’r
ffon hud, ac wele, Lleu Llaw Gyffes ei hun ydoedd,
yn wael iawn ei wedd.
"Mynnaf
ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth
i chwilio am Flodeuwedd. Daliwyd hi a dywedodd Gwydion
wrthi,
"Ni
chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd
y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy
wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni
cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." Trowyd
Blodeuwedd yn dylluan a dyna pam mae’r adar
eraill yn elynion i’r dylluan hyd heddiw.
Beth
am Gronw Pefr? Bu raid iddo sefyll fel y gwnaeth
Lleu ar lan yr afon a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.
Wyddoch
chi ym mh’le yr oedd y cwm unig lle gwelodd
Gwydion yr eryr? Nant Lleu, neu Ddyffryn Nantlle
heddiw.
Gweler
hefyd gyfeiriad at Ddôl
Pebin y Mabinogi dan adran hanes Talysarn ar wefan
nantlle.com.
Rhagor o wybodaeth
»» Adran ymchwil Y Mabinogi ar wefan nantlle.com |