Y Ddôl a aeth o'r
Golwg
Yn Nhal-y-sarn ystalwm
Fe welem Lyfni lân,
A'r ddôl hynafol honno
A gymell hyn o gân;
Ac megis gwyrth y gwelem
Ar lan hen afon hud
Y ddôl a ddaliai Pebin
Yn sblander bore'r byd.
Yn Nhal-y-sarn ysywaeth
Ni welwn Lyfni mwy,
Na gwartheg gwyrthiol Pebin
Yn eu cynefin hwy.
Buan y'n dysgodd bywyd
Athrawiaeth llanw a thrai:
Rhyngom a'r ddôl ddihalog
Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.
R Williams Parry (1945)
Dôl Pebin y Mabinogion
Bu’r ddôl hon yn gartref i Goewin, ferch Pebin, sef y forwyn honno oedd
yn droedog i’r brenin a’r dewin Math fab Mathonwy. Ei gwaith oedd
dal ei draed ar ei glin ac eithrio pan fyddai’n rhaid iddo ymladd mewn
rhyfel. Bu’r ffermdy Dôl Pebin yma hyd at ganol yr ugeinfed ganrif pryd y codwyd
stad o dai’r cyngor yno - Bro Silyn. |