Bwletin Ward Talysarn
Ebrill – Mehefin
2004
Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r
pwnc priodol:
1. Cymunedau'n Gyntaf
2. Clwb Silyn
3. Tîm Pêl-Droed Dyffryn Nantlle
4. Diwrnod Agored y Baracs yn Nantlle
5. Cruisers Cymunedol
6. Blodeuwedd
7. Canolfan Cymunedol Talysarn
8. Gweithdy Roc
9. Dawns i Bawb
10. Tudalen Wê Dyffryn Nantlle
11. Cronfa'r Ymddiriedolaeth
12. Arian Cymunedau'n Gyntaf
13. Swyddogion Ieuenctid
14. Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth
Cymunedau'n Gyntaf
Mae Dafydd Williams, Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf Partneriaeth
Talysarn a Nantlle, yng Nghapel Baladeulyn bob dydd Mercher o 9.30yb
hyd at 4yh. Mae croeso i unrhyw un alw i mewn i’w weld os oes
gennych unrhyw gwestiynau iddo ynglyn â Chymunedau’n Gyntaf,
neu unrhyw syniadau gallwn ddatblygu yn yr ardal.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Clwb Silyn
Wedi i griw oedolion pentrefi Talysarn a Nantlle ymweld â sioe
gerdd "Carousel" yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, penderfynwyd
sefydlu clwb newydd o’r enw Clwb Silyn. Mae’r clwb wedi
bod yn cyfarfod unwaith y mis ers iddynt sefydlu ac wedi cael llawer
i brynhawn difyr, yn dod at eu gilydd i sgwrsio ac i roi syniadau o
bethau eraill y dymunant ei wneud. Maent yn barod wedi cael sesiynau
trefnu blodau bendigedig, gyda Mrs Elisabeth Woodford yn dangos iddynt
beth sydd yn bosib ei wneud gyda blodau a phlanhigion.
Mae croeso i unrhyw un ddod i’r clwb, fydd yn cyfarfod ar yr
ail ddydd Llun o bob mis yng Nghanolfan Gymunedol Talysarn. Fe fydd
posteri yn cael eu rhoi yn yr hysbysfyrddau cyn bob cyfarfod, felly,
dim ond cadw llygad allan am y posteri, fydd yn gadael i chwi wybod
y dyddiad ac amser y cyfarfodydd a beth fydd yn mynd ymlaen ar y diwrnod.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Tîm Pêl-Droed Dyffryn Nantlle
Fe fu timau pêl-droed dan 10 ac 11 oed Dyffryn Nantlle yn ymweld â chanolfan
bêl-droed Crewe Alexandra ddechrau mis Ebrill. Roedd y plant i
gyd wedi mwynhau eu hunain wedi iddynt gael 2 gêm hynod o dda
yn erbyn bechgyn a oedd wedi cael eu dewis i academi Crewe. Roedd gweld
hyfforddwyr proffesiynol wrth eu gwaith a’r disgyblaeth oedd rhaid
ei gadw yn brofiad i bawb. Ar ôl iddynt gael bwyd yn y Ganolfan
aethant ymlaen wedyn i wylio gêm bêl-droed broffesiynol
yn cael ei chwarae rhwng Crewe Alexandra a Rotherham United.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Diwrnod Agored y Baracs yn Nantlle
Ar ddechrau mis Mai cynhaliwyd diwrnod agored hynod o lwyddiannus gan
Antur Nantlle yn y Baracs yn Nantlle er mwyn ei arddangos ar ei newydd
wêdd. Newydd da yw clywed gan yr Antur fod pobl lleol â diddordeb
rhentu unedau i ddechrau busnes.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Cruisers Cymunedol
Mae
Bryce Davies, sef yr arlunydd preswyl sydd wedi ei benodi i gydweithio
gyda phlant a phobl ifanc y ddau bentref er mwyn rhoi
graffiti ar y parc sglefrio, wedi dechrau ei waith yma yn Nhalysarn.
Ar ddechrau mis
Mehefin, fe fu Bryce yn y Ganolfan am wythnos gyfan yn
cydweithio gyda’r
plant a’r bobl ifanc er mwyn cael gweld eu syniadau a dangos iddynt
sut y bydd yn gweithio ar y graffiti. Cafodd y plant andros o hwyl yn
dysgu a gwneud lluniau bob dydd a hefyd cael mynd ar y parc sglefrio
gyda Bryce amser cinio, yntau yn dangos i’r criw ifanc ei ddoniau
ar ei sglefr- fwrdd. Fe fydd Bryce yn ôl ddiwedd mis Mehefin am
bythefnos ac yna yn ôl am dair wythnos ganol mis Gorffennaf.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Blodeuwedd
Unwaith eto mae’n braf gweld gwaith Blodeuwedd o gwmpas pentrefi
Talysarn a Nantlle. Maent wedi bod yn brysur iawn yn plannu blodau a
phlanhigion yn y maes parcio yn Nhalysarn a hefyd cofeb R Williams Parry.
Mae’r grŵp wedi bod yn brysur iawn yn y Ganolfan hefyd,
yn cael prynhawniau sêl planhigion a chael byrddau allan yn yr
haul braf a phaned o de a chacennau bendigedig, gyda
llawer iawn o bobl lleol yn dod draw am baned a sgwrs.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Canolfan Cymunedol Talysarn
Mae Canolfan Gymunedol Talysarn wedi cael hawl cynllunio i gael estyniad
newydd sbon ar yr hen adeilad. Cyfle i chi roi eich sylwadau o be hoffech
weld yn cael ei gynnal yn y Ganolfan ar ei newydd wedd trwy lenwi y
blwch syniadau.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Gweithdy Roc
Cynhaliwyd cyngerdd gan 2 grŵp lleol yng Nghanolfan Gymunedol
Talysarn ar ddiwedd sesiynau blasu’r gweithdy yn ddiweddar. Rhoddodd
hyn hyder i’r grwpiau oedd erioed wedi perfformio o’r blaen
i drefnu cyngerdd yn neuadd goffa Llanllyfni a rhannu llwyfan gyda’r
grŵp adnabyddus Y Profiad.
Da iawn Aliens, Offside, Kill a Gorilla ac Agent Smith.
Newydd da yw clywed fod Gweithdy Roc wedi cael £1,000 grant Gwraidd
i dalu am diwtoriaid i’r sesiynau hyfforddiant fydd yn cychwyn
fis Medi 2004.
Unrhyw un â diddordeb ymuno â’r Gweithdy i ddatblygu
eich sgiliau o chwarae offerynau gitâr, allweddellau, dryms, canu
a gosod a chymysgu sain sustem PA neu recordio CD yn ein stiwdio recordio
fechan cysylltwch â Carys Pritchard, Helen Hall neu Neil Thomas.
Peidiwch a phoeni os nad oes gennych offer, cewch ddefnyddio rhai y
Gweithdy.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Dawns i Bawb
Mae sesiynau dawnsio wedi bod yn llwyddiannus iawn dros yr wythnosau
diwethaf gyda hyd at 48 o blant yr ardal wedi blasu gwahanol fathau
o ddawnsio.
Os oes unrhyw un â diddordeb ymuno yn y sesiynau dawnsio, yna
cysylltwch â Carys Pritchard.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Tudalen Wê Dyffryn Nantlle
Mae Grŵp Tudalen Wê Dyffryn Nantlle yn cyfarfod yng Nghanolfan
Dechnoleg Antur Nantlle bob nos Lun ac mae croeso cynnes i unrhyw un
ymuno â ni i ddysgu mwy am greu tudalen wê gymunedol. Cofiwch
ein bod yn chwilio am hen hanesion am Talysarn a Nantlle i’w cynnwys
ar y dudalen. Yn bwysicach byth, yr ydym yn chwilio am bethau cyfoes,
byw sy’n digwydd heddiw. Byddwn yn falch o luniau diddorol, hen
a newydd, hefyd.
Cofiwch ymweld â safle www.nantlle.com a
dewch a’ch cyfraniad.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Cronfa'r Ymddiriedolaeth
Er gwybodaeth i grwpiau lleol, mae’r "Trust Fund" yn
agored i chi roi ceisiadau am gefnogaeth ariannol eto eleni. Am fwy
o wybodaeth cysylltwch â Dafydd Williams.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Arian Cymunedau'n Gyntaf
Mae arian ar gael i grwpiau sydd am gynnal gweithgareddau er mwyn dysgu
trwy wneud, neu anfon aelodau ar sesiynau hyfforddiant. Gallwch hefyd
ymweld â grwpiau mewn ardaloedd eraill er mwyn dysgu o’u
profiad.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dafydd Williams.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Swyddogion Ieuenctid
Oes gennych chi ddiddordeb gweithio gyda phlant a phobl ifanc? Mae
Partneriaeth Talysarn a Nantlle yn chwilio am bobl i weithio rhan amser
gyda phlant a phobl ifanc yr ardal. Gyrrwch eich ceisiadau trwy lythyr
at Ganolfan Cymunedol Talysarn, Ffordd yr Orsaf, Talysarn. Am fwy o
wybodaeth cysylltwch â Wena yn y swyddfa ar 01286 881103.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth
Medi
6: Canolfan
Cymdeithasol Talysarn
Hydref 4: Capel
Baladeulyn Nantlle
Hydref 18: Cyfarfod
Cyhoeddus - Bandroom Talysarn
Tachwedd 1: Canolfan
Cymdeithasol Talysarn
Rhagfyr 6: Capel
Baladeulyn Nantlle
[ Yn ôl i'r Top ] |