Bwletin Ward Talysarn
Hydref – Rhagfyr 2004
Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r
pwnc priodol:
1. Noson Nadolig yn y Baracs, Nantlle
2. Clwb yr Iard
3. Blodeuwedd
4. Antur Nantlle - Datblygiad y Baracs
5. Cyfeillion Ysgol Talysarn - Llyfr Coginio
6. Llysiau Lleu - Dosbarthu Llysiau yn y Ganolfan
7. Clwb Silyn - Pringles / Holland Arms, Papercraft, Cinio Nadolig / Panto
8. Clwb Pobl Ifanc
9. Gweithdy Roc – Hyfforddiant Sustem PA / Stiwdio Recordio
10. Grŵp Amgylcheddol – Cynllun Llwybrau
11. Hyfforddiant
12. Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth - 2005
Noson Nadolig yn y Baracs, Nantlle
Cafwyd noson Nadolig bendigedig yn y Baracs yn Nantlle
ar nos Fawrth 14 Rhagfyr. ‘Roedd pawb wedi bod
yn brysur iawn yn paratoi erbyn y noson.
Ysgol Baladeulyn agorodd y noson ac yna Ysgol Talysarn.
Fe ddaeth dau grŵp o’r Gweithdy Roc ac yna
Seindorf Arian Dyffryn Nantlle i’n diddanu. ‘Roedd
y plant i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ymweliad
gan yr hen Siôn Corn a chafodd neb eu siomi wrth
i’r plant i gyd gael anrheg yr un ganddo.
‘Roedd lluniaeth ysgafn ar gael, a’r genod yn brysur
iawn yn paratoi te, coffi, cwn poeth ayyb. Diolch yn
fawr i bawb a oedd wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi’r
noson.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Clwb yr Iard
Fe drefnwyd noson Calan Gaeaf gan Clwb yr Iard yn y
Baracs yn Nantlle. Llwyddiant mawr yw hanes y clwb, ac
fel y gwelwch yn y llun isod - roedd digon o wrachod
i godi arswyd mawr ar bawb yn Nantlle y noson honno!
[ Yn ôl
i'r Top ]
Blodeuwedd
Brynhawn ddydd Gwener 26 Tachwedd, fe fu aelodau o grŵp
Blodeuwedd, ynghyd â chymorth rhai o blant Ysgol
Baladeulyn, wrthi’n brysur yn plannu dwy goeden,
sef coeden afal a choeden eirin, a roddwyd i’r
ysgol gan grŵp Blodeuwedd, fel rhan o’u cynllun
i ddatblygu gardd lysiau a ffrwythau yn yr ysgol. Y gobaith
yw y bydd hyn yn annog y plant i arddio ac i fwyta mwy
o lysiau a ffrwythau ffres.
Mae Blodeuwedd ar hyn o bryd yn edrych i mewn i nifer
o brosiectau plannu planhigion cymunedol erbyn y flwyddyn
newydd, a’r gobaith yw cynnwys rhai o bobl ifanc
y gymuned yn eu prosiectau.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Antur Nantlle - Datblygiad y Baracs
Yn dilyn diwrnod agored, mae datblygiad y Baracs wedi
mynd o nerth i nerth.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Cyfeillion Ysgol Talysarn - Llyfr Coginio
Mae cyfeillion Ysgol Talysarn wrthi’n rhoi llyfr
coginio/rysait at ei gilydd i’w werthu er mwyn
codi arian tuag at yr ysgol. Enw’r llyfryn fydd "Nosh
Nant", a’r gobaith yw y bydd ar gael erbyn
mis Ebrill. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen
Hall.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Llysiau Lleu - Dosbarthu Llysiau yn y Ganolfan
Grŵp o bobl sydd wedi dod at ei gilydd i ddysgu
mwy am dyfu a choginio llysiau eu hunain yw Llysiau Lleu.
Maen nhw wedi bod yn cyfarfod yn Trigonos ers dwy flynedd
bellach ac erbyn hyn mae yna 34 o aelodau. Ers mis Gorffennaf
2004 mae’r grŵp wedi bod yn dosbarthu llysiau
bob wythnos yn y Ganolfan. Mae’r rhan fwyaf o’r
llysiau yn organig ac wedi cael eu tyfu yn Trigonos a
Fferm Eithinog. Am gyfraniad bychan roedd pob aelod yn
derbyn amrywiaeth o wahanol lysiau yn cynnwys tatws,
moron, nionod, pys, ffa, betys, garlleg, courgettes,
letys, tomato, bresych a llawer mwy.
Gan nad oes llawer o lysiau ar gael ym misoedd y gaeaf
mae Llysiau Lleu yn cael seibiant ar hyn o bryd ond maen
nhw’n bwriadu ailgychwyn yn y gwanwyn. Y broblem
fwyaf yw diffyg cyflenwyr, felly os ydych chi’n
tyfu llysiau neu’n cynhyrchu unrhyw beth gartref,
e.e. wyau, hoffai Llysiau Lleu glywed gennych. Cysylltwch â Wena
neu Dafydd yn swyddfa’r Bartneriaeth ar 01286 881103.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Clwb Silyn - Pringles / Holland Arms, Papercraft, Cinio
Nadolig / Panto
Mae Clwb Silyn wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar.
Maent wedi bod am drip i Pringles a Holland Arms er mwyn
gweld yr addurniadau Nadolig. Adroddodd Mareth Williams,
sef Ysgrifennydd y Clwb, eu bod wedi cael amser bendigedig
yno a chael paned a chacen i orffen y diwrnod.
Ar ddiwedd mis Tachwedd, roedd Lynn ‘Papercrafts’ yn
fod i ddod draw i’r clwb i wneud arddangosiad cardiau
Nadolig. Oherwydd nad oedd Lynn yn gallu dod ar y diwrnod,
mi lenwodd Mareth y bwlch (oherwydd ei bod yn mynd i’r
baracs yn Nantlle bob dydd Mawrth i ddysgu gwneud y cardiau)
er ei bod yn nerfus iawn, a gwneud y cardiau ei hun.
Yr oedd pawb wedi gwirioni’n lân hefo’r
cardiau ac eisiau eu prynu ar y diwrnod.
Cafwyd cinio Nadolig bendigedig yn yr Afr ym Mhenygroes
ddydd Iau 16 Rhagfyr gyda gwobr raffl i bawb oedd yno.
Diolch i Mareth a Liz a oedd wedi bod wrthi am wythnosau’n
gynt yn paratoi am y diwrnod.
Daeth diwrnod y "Panto" y dydd Sadwrn canlynol,
gyda’r bws yn cychwyn reit fore er mwyn cael gwneud
ychydig o siopa ‘Dolig cyn y sioe. Yr oedd pawb
yn canmol y sioe’n fawr iawn ac wedi cael diwrnod
gwerth chweil.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Clwb Pobl Ifanc
Mae Clwb Pobl Ifanc Talysarn a Nantlle wedi ei sefydlu
yng Nghanolfan Cymdeithasol Talysarn bob nos Fawrth a
nos Fercher. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda
phobl ifanc y 2 bentref yn tyrru i mewn ar y nosweithiau
hyn.
Er mwyn sicrhau llwyddiant y Clwb mae angen gwirfoddolwyr
i ddod at y criw, felly os ydych chi dros 18 oed, â ddiddordeb
mewn gwirfoddoli yna cysylltwch â Dafydd Williams
ar 01286 881103 neu Carys Pritchard ar 01286 881103.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Gweithdy Roc – Hyfforddiant Sustem PA / Stiwdio
Recordio
Mae’r Gweithdy Roc yn mynd o nerth i nerth gyda
Steve "Pablo" yn hyfforddi’r gweithdai
stiwdio recordio a’r Sustem PA. Mae’r gweithdy
wedi derbyn £4,600 o Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n
Gyntaf er mwyn prynu mwy o offer ac yn y broses o drefnu
mwy o sesiynau hyfforddiant, felly, os yr ydych dros
10 oed a diddordeb mewn ymuno â’r Gweithdy
Roc, cysylltwch â Carys Pritchard ar 01286 880773.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Grŵp Amgylcheddol – Cynllun Llwybrau
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus gan y grŵp i bawb
gael cyfle i adnabod ein Llwybrau Cyhoeddus, nodi llwybrau
rydym yn eu cerdded ac ein hoff lwybrau.
Trafodwyd anghenion o gael llwybrau a sut gallwn ddefnyddio
a datblygu’r llwybrau. Roedd cyfle hefyd i nodi
lleoliadau i ddatblygu llwybrau newydd.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Hyfforddiant
Os ydych chi fel grŵp neu unigolyn â diddordeb
mewn derbyn hyfforddiant gan ddarparwyr yna cysylltwch â Wena
neu Dafydd yn swyddfa’r Bartneriaeth.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth - 2005
Ionawr 10: Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Chwefror 7: Capel Baladeulyn Nantlle
Mawrth 7: Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Ebrill 4: Capel Baladeulyn Nantlle
Mai 9: Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Mehefin 6: Capel Baladeulyn Nantlle
[ Yn ôl
i'r Top ] |