Bwletin Ward Talysarn
Ionawr – Mawrth
2004
Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r
pwnc priodol:
1. Cyfarfod
Cyhoeddus
2. Sesiynau
Hyfforddiant
3. RRG
4. Plant
y Nant
5. Cruisers
Cymunedol
6. Bro
Silyn Action Group
7. Canolfan
Cymunedol Talysarn
8. Blodeuwedd
9. Tirwedd
10. Capel Baladeulyn
11. Capel Seion
12. Gweithdy Roc
13. Hysbysfyrddau
14. Dilyniant y Cinio Nadolig
15. Pictiwrs Talysarn
16. Pobl Ifanc
Cyfarfod Cyhoeddus
Bydd Cyfarfod Cyhoeddus Cymunedau’n Gyntaf yn
cael ei gynnal ar y 19eg Ebrill 2004 yng Nghapel Baladeulyn,
Nantlle am 7.30yh. Bydd cyfle i bawb gael clywed am ddatblygiadau
y rhaglen a dweud eu dweud. Bydd bws/ceir ar gael i’ch
cludo i’r cyfarfod os mynnoch, manylion ar gael
drwy gysylltu â Dafydd neu Wena yn y swyddfa.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Sesiynau Hyfforddiant
Os ydych chi yn aelod o fudiad neu grwp gwirfoddol,
ac eisiau codi arian neu yn ystyried cyflogi staff, angen
cyfeiriad pendant i’ch grwp neu eisiau cynllunio
ar gyfer y dyfodol, yna ymunwch â Chanolfan Trigonos
am 7 o’r gloch ar Fehefin 7fed 2004 i gael gwell
dealltwriaeth o anghenion cynllun busnes, a mwy! Os am
fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Williams neu
Wena Roberts yng Nghanolfan Cymunedol Talysarn.
[ Yn ôl
i'r Top ]
RRG
Mae Swyddog Rheolwr Rhawd Gymunedol newydd wedi ei benodi
gan Heddlu’r Gogledd sef Stephen Nesfield. Gobeithia
Steve y bydd ganddo swyddfa yn y Ganolfan cyn bo hir,
fel y bydd yno unwaith yr wythnos i drafod neu helpu
unrhyw un fydd â diddordeb.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Plant y Nant
Lansiwyd grwp newydd Plant y Nant ym mis Ionawr, gyda
Stephen Nesfield, ein Swyddog RRG newydd yn rhoi cyflwyniad
ar Atal Troseddu i’r plant a’r rhieni.
Mae Plant y Nant wedi ei sefydlu i gynnal gweithgareddau
yn ystod gwyliau’r ysgol. Bydd hyn yn gyfle i rieni
gydweithio gyda’i gilydd er lles eu plant.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Cruisers Cymunedol
Mae CRUISERS TALYSARN wedi bod yn brysur iawn yn y cefndir
ers ennill y cais i gael Parc Sglefrio ar ran o safle’r
Gloddfa Glai yn 2003. Gyda help arian y Bartneriaeth,
Mantell Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru trwy Cywaith
Cymru yng Nghaerdydd, mi fydd cynllun i greu ardal liwgar
drwy beintio’r rampiau du gyda chynlluniau creadigol
a thraddodiadol yn cael ei wireddu’n fuan iawn.
Mi fydd artist preswyl yn cael ei gyflogi am chwe wythnos
i gyd-weithio, addysgu a goruchwylio aelodau’r
CRUISERS ar gynlluniau, cyn eu harddangos i drigolion
y Nant. Bydd yr artist yn cychwyn ar y gwaith ym mis
Mai, a gobeithiwn yn fawr bydd modd cynnwys disgyblion
ysgolion cynradd Talysarn a Nantlle yn ogystal â phobl
ifanc yr ardal sydd heb ddiddordeb mewn Sglefrfyrddio,
Rollerblades na beiciau BMX. Croeso i bawb ymuno â’r
Project!
Ar Fawrth 28ain ymwelodd criw sylweddol o’r CRUISERS
gan gynnwys y Pwyllgor Rheoli i gyd (!) â Pharc
Sglefrio dan do ‘Y Boneyard’ yn Tattenhall
ger Caer. ‘Roedd yn bwysig iawn i ni ymweld â Pharc
arall i ddysgu sut mae eraill yn rhedeg eu hadnoddau,
ag i weld os yw’n bosibl i ni wella’r adnoddau
sydd gennym. Da yw adrodd yn ôl fod neb wedi brifo
yno, a bod pawb wedi mwynhau’r ymweliad yn fawr
iawn. Diolch i’r Bartneriaeth am ein galluogi i
drefnu’r trip, gan gynnwys arian am bryd o fwyd
ar y ffordd adref.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Bro Silyn Action Group
Yn ystod mis Chwefror trefnwyd diwrnod yn Llandudno
gan y grŵp fel rhan o ymgyrch gwella sgiliau ac
adeiladu potensial. ‘Roedd hyn yn gyfle i’r
plant a phobl ifanc fwynhau, yn treulio diwrnod mewn
amgylchedd gwahanol. Uchafbwynt y diwrnod oedd mynd i’r
sinema i weld ffilm ac yna cael gêm o Fowlio Deg.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Canolfan Cymunedol Talysarn
Nid breuddwyd bellach yw adeiladu estyniad ar y Ganolfan.
Mis Ionawr eleni, penodwyd Penseiri Partneriaeth Ap Thomas
gan bwyllgor y Ganolfan i ymgymeryd â’r gwaith
cynllunio. Bydd cyfle i bawb roi eu sylwadau a’u
syniadau ymlaen mewn sesiynau ymgynghori yn ystod yr
wythnosau nesaf.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Blodeuwedd
Mae’r gwanwyn yma unwaith eto, ac eleni, mae hyn
yn fwy amlwg nag erioed. Diolch i grŵp Blodeuwedd
mae’r Cennin Pedr sydd i weld o amgylch y ddau
bentref, yn rhoi lliw a bywyd newydd, ac yn dangos bod
posib i’ch syniadau dyfu os ydych yn barod i gymeryd
rhan.
Mae Blodeuwedd yn datblygu sgiliau newydd eu haelodau
i dyfu blodau a chynhyrchu hadau.
Os oes gennych ddiddordeb ymuno â’r grŵp,
cysylltwch gyda Tom Coleman ar 01286 882354.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Tirwedd
Mae Tirwedd wedi cyflogi swyddog i ddatblygu rhan o
chwarel Penyrorsedd yn Ganolfan Hyfforddiant Beirianneg.
Mae Kelvin Roberts wedi cychwyn yn ei swydd newydd fis
Ionawr ac yn brysur yn gweithio i geisio cael arian i
wneud astudiaethau ymarferoldeb.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Capel Baladeulyn
Cynhaliwyd Te Cymreig andros o lwyddiannus yng Nghapel
Baladeulyn Nantlle, Dydd Gŵyl Dewi, lle’r
oedd amryw yn galw i mewn am baned a sgwrs a thamaid
bach blasus i’w fwyta. Cynhaliwyd y prynhawn hwn
er mwyn casglu gwybodaeth y gymuned leol am eu teimladau
a’u syniadau o gael mwy o ddefnydd cymunedol o’r
capel. Fe wnaethpwyd hyn drwy ddosbarthu holiaduron ar
y diwrnod. Cafwyd ymateb calonogol iawn a gobeithir y
defnyddio’r capel i gynnal mwy o weithgareddau
tebyg yn y dyfodol.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Capel Seion
Mae aelodau capel Seion wedi gwneud arolwg ar gyflwr
y capel ac yn y broses yn awr o roi ceisiadau am grantiau
i’w adnewyddu.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Gweithdy Roc
Mae sesiynau blasu Gweithdy Roc wedi bod yn llwyddiannus
iawn, yn rhoi cyfle i nifer o bobl ifanc yr ardal gael
y cyfle i edrych ar y posibiliadau amrywiol sydd ar gael
trwy weithgareddau cerdd. Yn dilyn hyn, mae grŵp
o bobl ifanc wedi dod at eu gilydd i geisio sefydlu Gweithdy
Roc parhaol yng Nghanolfan Talysarn.
Mae’r grŵp wedi trefnu cyngerdd yn Neuadd
Goffa Llanllyfni nos Wener 23ain Ebrill am 7.30yh er
mwyn adeiladu eu cynhwysedd a datblygu eu sgiliau.
Ar y noson bydd tri grŵp lleol yn rhannu llwyfan
gyda un o grwpiau mwyaf adnabyddus Cymru "Profiad".
Bydd bws yn gadael maes parcio Talysarn am 7.00yh, yn
rhâd ac am ddim i unrhyw un sydd yn awyddus mynd.
Am unrhyw fanylion pellach, cysylltwch ag un ai Carys
Pritchard, Neil Thomas neu Jason Humphreys.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Hysbysfyrddau
Mae
hysbysfyrddau wedi eu lleoli yn Nantlle, Talysarn a Bro
Silyn. Mae croeso i unrhyw un eu defnyddio. Cysylltwch â’r
Ganolfan yn Nhalysarn, Amanda yn Bro Silyn neu Eryl a
Glyn Thomas yn Nantlle.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Dilyniant y Cinio Nadolig
Ar ôl Cinio Nadolig llwyddiannus oedolion y ddau
bentref, mae grŵp wedi dod at eu gilydd i geisio
cynnal cyfarfodydd cyson a threfnu gweithgareddau i’r
nifer sydd wedi ymddeol yn yr ardal. Er mwyn gwella sgiliau,
adeiladu potensial a denu aelodau mae’r criw wedi
trefnu ymweliad â Theatr Gogledd Cymru, Llandudno,
i weld sioe gerdd "Carousel".
[ Yn ôl
i'r Top ]
Pictiwrs Talysarn
Cynhaliwyd brynhawn o ddangos ffilm yn y Ganolfan ar
yr 29ain o Chwefror er mwyn casglu gwybodaeth a syniadau
y gymuned i ddatblygu y Ganolfan. Cafwyd diwrnod llwyddiannus
a phawb yn mwynhau eu hunain wrth fwyta popcorn a chael
rhywbeth bach i yfed.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Pobl Ifanc
Gyda chefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf, mae pobl
ifanc yr ardal wedi cael gwerth £8,000 o offer
at eu defnydd, er enghraifft: set deledu sgrîn
50"; karaoke; chwaraewr DVD; cyfrifiadur; "Playstation
2"; Goliau Pêl-droed a llawer mwy.
Rydym yn awyddus i sefydlu clwb Pobl Ifanc y pentref
ac angen gwirfoddolwyr. Os oes unrhyw un a diddordeb
i wirfoddoli ambell noson i helpu redeg y clwb, gallwch
gysylltu â Dafydd Williams yn y Ganolfan yn Nhalysarn.
[ Yn ôl
i'r Top ] |