Bwletin Talysarn a Nantlle

 
 
 

Bwletin Ward Talysarn

Ionawr – Mawrth 2006

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Clwb Silyn
2.   Helfa Drysor
3.   Canolfan Cymdeithasol Talysarn
4.   Llys Llywelyn
5.   Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol
6.   Planning for Real
7.   Glasfryn
8.   Draenen y Nant
9.   Hyfforddiant
10. Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth 2006


Clwb Silyn

Mae Clwb Silyn erbyn hyn bron yn ddwy oed ac yn dal i fynd o nerth i nerth. Maent wedi bod yn cyfarfod yn fisol yng Nghapel Hyfrydle oherwydd i’r Ganolfan orfod cau er mwyn adeiladu’r estyniad newydd sbon arno. Maent wedi cael arian er mwyn prynu peiriant ‘Bingo’ i ddiddanu eu hunain ynghyd â set bowlio tu mewn a chael llestri a nwyddau coginio i’r clwb er mwyn eu defnyddio yng nghegin newydd y Ganolfan. Maent hefyd am gynnal ‘Pantomeim’ yn y Ganolfan nes at y Nadolig.

Mis diwethaf fe ddaeth criw o BBC Cymru i’r clwb er mwyn gwrando ar straeon oedd gan yr aelodau i’w dweud am eu bywydau yn Nhalysarn. Difyr iawn oedd darllen rhai ohonynt ar y wê.

[ Yn ôl i'r Top ]

Helfa Drysor

Trefnwyd dwy Helfa Drysor gan Catrin Meirion, Swyddog Gwerthuso, un yn Nhalysarn a’r llall yn Nantlle fis Chwefror, gan ddenu pobl allan am hwyl a sbri, a chael syniadau ganddynt wrth iddynt geisio dyfalu’r helfa a chael hyd i’r trysor. Diolch i’r Bandroom ac i Lys Llywelyn am drefnu lluniaeth ysgafn yn dilyn yr helfa.

Bwletin Talysarn a Nantlle | Ionawr - Mawrth 2006 ~ 1

Yr enillwyr yn Nhalysarn oedd:

1af – Martin, Nicola, Sean a Joe
2ail – Stephanie, Emma, Peter a Lynne
3ydd – Manon, Sarah, Gracie, Eleri a Mari
4ydd – Elan, Kelly, Sioned, Teleri a Catherine

A’r enillwyr yn Nantlle oedd:

1af – Ffion, Elan a Cian
2ail – Margaret, Dylan a Floyd
3ydd – Paul, Catrin a Osian
4ydd – Glyn, Les a Peter

Bwletin Talysarn a Nantlle | Ionawr - Mawrth 2006 ~ 2

[ Yn ôl i'r Top ]

Canolfan Cymdeithasol Talysarn

Bwletin Talysarn a Nantlle | Ionawr - Mawrth 2006 ~ 3

Mae’r Ganolfan erbyn hyn yn barod. Wedi’r holl waith a’r disgwyl mae’r Ganolfan yn barod i’w ddefnyddio. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carys Pritchard neu Tom Coleman, fydd yn barod iawn i’ch helpu.

[ Yn ôl i'r Top ]

Llys Llywelyn

Mae Llys Llywelyn yn dal i fynd o nerth i nerth gyda amryw o ddigwyddiadau yn cymeryd lle yno. Mae’r pwyllgor yn gweithio’n galed iawn yn codi ymwybyddiaeth Canolfan Llys Llywelyn drwy gynnal ymgynghoriad ac wedi cael côr lleol, sef Côr Lleisiau Mignedd, i ganu yno fis diwethaf. Noson braf a hwyliog ydoedd er bod y glaw yn tywallt y tu allan! Roedd y lluniaeth oedd ar gael wedi’r canu yn fendigedig fel arfer.

[ Yn ôl i'r Top ]

Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol

Bwletin Talysarn a Nantlle | Ionawr - Mawrth 2006 ~ 4

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan Grwp Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle ar nos Lun 13 Mawrth 2006 er mwyn creu ymwybyddiaeth a chael cefnogaeth y gymuned i geisio datblygu rhan o Gloddfa Glai, sydd gyferbyn â’r cae chwarae yn Nhalysarn, yn safle i adeiladu tai fydd yn fforddiadwy i bobl yr ardal.

[ Yn ôl i'r Top ]

Planning for Real

Cynhaliwyd Rhaglen Hyfforddiant arbennig iawn "Planning For Real" yn Llys Llywelyn ddechrau Mawrth eleni.

Bwletin Talysarn a Nantlle | Ionawr - Mawrth 2006 ~ 5

Cymerodd 18 o bobl lleol ran yn y rhaglen oedd yn dangos y ffordd i’r gymuned gael dweud ei dweud trwy adeiladu model o’r ardal maent yn byw ynddi. Mae’r grwp gymerodd ran yn y rhaglen wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn Nhalysarn a Nantlle trwy ddefnyddio dulliau Planning For Real. Bydd hyn yn gyfle i weld sut bydd eich pentref delfrydol yn edrych.

Mae’n bwysig bod pawb yn cymeryd rhan!

[ Yn ôl i'r Top ]

Glasfryn

Treuliodd 36 o bobl ifanc Talysarn a Nantlle noson arbennig yng Nghanolfan Glasfryn, Y Ffôr, Pwllheli nos Fercher 8 Mawrth 2006.

Bwriad y noson oedd casglu gwybodaeth a syniadau er mwyn cynllunio gweithgareddau fyddai yn adeiladu potensial, datblygu sgiliau a magu hyder y tô yma.

Wedi treulio mwyafrif o’r noson yn ystafell gynhadledd y Ganolfan yn dweud eu dweud, cafwyd diweddglo ysgafnach i’r noson gyda gêm o fowlio deg.

Bwletin Talysarn a Nantlle | Ionawr - Mawrth 2006 ~ 6

Roedd y gweithwyr sy’n gweithio ar raglen benodol Pobl Ifanc y Bartneriaeth yn hapus iawn gyda’r ymateb ac mae dilyniant i’r noson yma wedi ei drefnu i flaenoriaethu’r syniadau a gasglwyd fel rhan o ddigwyddiad cyntaf yng Nghanolfan Cymdeithasol Talysarn 15 Ebrill 2006.

[ Yn ôl i'r Top ]

Draenen y Nant

Mae Draenen y Nant wedi derbyn arian o’r "Trust Fund" er mwyn gwneud ymchwil i gyfleon Pobl Ifanc i gael swyddi yn y maes awyr agored.

[ Yn ôl i'r Top ]

Hyfforddiant

Cysylltwch â Dafydd Williams neu Wena Roberts yn swyddfa’r Bartneriaeth os ydych â diddordeb mewn unrhyw fath o hyfforddiant.

[ Yn ôl i'r Top ]

Dyddiadau Cyfarfod y Bartneriaeth 2006

Mai 8: Llys Llywelyn, Nantlle
Mehefin 5:
Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Gorffennaf 3:
Llys Llywelyn, Nantlle
Medi 4:
Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Hydref 2:
Llys Llywelyn, Nantlle
Tachwedd 6:
Canolfan Cymdeithasol Talysarn
Rhagfyr 4:
Llys Llywelyn, Nantlle

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys