Bwletin Talysarn a Nantlle

 
 
 

Bwletin Ward Talysarn

Mehefin - Medi 2005

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Croeso i Lys Llywelyn, Nantlle
2.   Diwrnod o hwyl Cyfeillion Talysarn
3.   Canolfan Gymdeithasol Talysarn
4.   Pobl Ifanc
5.   Seindorf Arian Dyffryn Nantlle
6.   Ysgol Talysarn
7.   Safle Gwê Dyffryn Nantlle
8.   Parc Sglefrio
9.   Blodeuwedd
10. Clwb Silyn
11. Clwb yr Iard
12. Cyrsiau Hyfforddiant


Croeso i Lys Llywelyn, Nantlle

Wedi ymdrech hir iawn gan bwyllgor bychan dan gadeiryddiaeth T. Leslie Jones, llwyddwyd o’r diwedd i logi un o’r unedau yn Y Barics ar ei newydd wedd i’w defnyddio fel Canolfan Gymdeithasol i Nantlle. Bedyddiwyd yn Llys Llywelyn i gofio am y llysoedd teithiol roedd y ddau dywysog Llywelyn yn gynnal yn Nantlle.

Mae yna ddwy ystafell braf yn y ganolfan newydd. Un fechan gyda thoiled addas i’r anabl, cegin fechan, ac ystafell yn cynnwys tri chyfrifiadur, byrddau, cadeiriau a chypyrddau. Mae yna ddrws yn cysylltu’r ystafell yma i’r ystafell fawr. Yn honno mae yna gegin fawr newydd, byrddau, cadeiriau a chypyrddau. Y tu allan mae na doiled addas i’r anabl.

Ar y 28ain o Fai cynhaliwyd diwrnod o groeso yn y Llys er mwyn i drigolion Nantlle a chymdeithasau’r ardal gael gweld beth sydd ar gael yno. Roedd stondinau o bob math gan wahanol gymdeithasau fel y Band, Blodeuwedd, Clwb yr Iard, Cyfeillion Ysgol Baladeulyn a’r Capel. Cafodd pawb lond eu boliau o gacennau cartref a paneidiau lawer mewn prynhawn hwyliog a llwyddiannus iawn.

Ers hynny mae yna lawer o bethau wedi cael eu cynnal yno gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, pwyllgorau, gweithgareddau i’r ifanc a dosbarthiadau crefft. Un o’r pethau mwyaf llwyddiannus yw’r bore coffi bob dydd Gwener am 10.30am, sy’n denu pobl o bell ac agos. Os hoffech ddod am baned a sgwrs am ddim ond 50c (sy’n cynnwys raffl!) Brysiwch draw!

Am ragor o wybodaeth am Llys Llywelyn a’r gweithgareddau yno cysylltwch a T. Leslie Jones ar (01286) 880443.

[ Yn ôl i'r Top ]

Diwrnod o hwyl Cyfeillion Talysarn

Diwrnod o hwyl Cyfeillion TalysarnCynhaliwyd Diwrnod Hwyl yng Nghae pêl droed Talysarn Celts ar ddydd Sul y 14eg o Awst gan Gyfeillion Talysarn. Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus iawn, gyda pawb yn cydweithio a mwynhau. Braf oedd gweld nifer o stondinau amrywiol gan y grwpiau lleol.

Roedd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle yno, gwisgoedd ffansi nifer o gemâu a gweithgareddau, roedd y clown yn llwyddiant mawr gyda’r plant!

Bu Thomas Usher yn brysur iawn yn peintio potiau gyda Jan Chipps.

Diolch yn fawr i bawb am eu cydweithrediad i wneud y diwrnod yn llwyddiannus.

Gwyliwch allan am y digwyddiad nesaf – Noson Calan Gaeaf.

[ Yn ôl i'r Top ]

Canolfan Gymdeithasol Talysarn

O’r diwedd mae’r gwaith ar y Ganolfan wedi cychwyn, ac yn siapio’n dda. Dyma’r cynllun gafodd flaenoriaeth gan y gymuned ers blynyddoedd ac o’r diwedd daeth yn amser i edrych ymlaen am ein neuadd newydd.

Canolfan Gymdeithasol Talysarn

Mae pwyllgor y ganolfan yn barod yn meddwl am wahanol weithgareddau all ddigwydd yn y Ganolfan unwaith bydd y gwaith wedi ei gwblhau.

Os oes gan unrhyw grwp neu unigolyn syniadau neu weithgareddau yr hoffwch eu gweld yn cael eu cynnal yn y Ganolfan cysylltwch â Carys Pritchard.

[ Yn ôl i'r Top ]

Pobl Ifanc

Mae datblygu gweithgareddau pobl ifanc yn rhywbeth mae’r Bartneriaeth yn awyddus iawn i’w gefnogi. Dyma rhai o’r digwyddiadau sydd wedi digwydd, neu ar y gweill ar hyn o bryd:

Clwb Camera

Roedd criw o bobl ifanc yn awyddus iawn i gychwyn clwb camera yn lleol. Er mwyn creu ymwybyddiaeth a rhoi cyfle i bobl ddefnyddio camera digidol a fideo trefnwyd gyda Coleg Prifysgol Bangor i gael Bws Cymunedol i ddod i’r ardal.

Bws Cymunedol

Roed y bws yn y Barics yn Nantlle ar ddydd Iau 25ain o Awst. Arno cawsont flasu amrywiaeth o weithgareddau gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, yn ffilmio ac actio.

Cawsant gyfle i ffilmio hysbyseb byr – gwnaeth grwp o’r genethod hysbyseb am ‘Siop werthu Dynion’ profwyd hwnnw i fod yn llwyddiannus iawn!! A gwnaethpwyd hysbyseb am yr ‘Hysbys’.

Cafwyd diwrnod o hwyl ac roedd lluniaeth gwerth chweil wedi ei ddarparu ar eu cyfer.

Bydd yr hysbysebion yn ymddangos ar wefan Prifysgol Bangor yn y dyfodol agos.

Y dechnoleg ddiweddaraf ar y Bws Cymunedol

Os oes rhywun â diddordeb mewn ymuno â’r clwb cysylltwch â Darryl Hughes yn swyddfa’r Bartneriaeth

Pêl Droed

Mae pobl ifanc yr ardal wedi datgan diddordeb mewn sefydlu tîm pêl-droed i fechgyn o dan 17 oed a thîm pêl-droed i ferched yr ardal.

Unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno gyda’r timau er mwyn datblygu’r syniad ymhellach cysylltwch â Darren Usher neu Dylan Green yn swyddfa’r Bartneriaeth.

Celf a Chrefft

Os ydych chi yn berson ifanc â diddordeb mewn celf a chrefft rydym yn awyddus i gael eich syniadau a’ch sylwadau er mwyn datblygu prosiect penodol fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau yn y maes arbennig yma.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carys Pritchard.

[ Yn ôl i'r Top ]

Seindorf Arian Dyffryn Nantlle

Llongyfarchiadau mawr i Seindorf Arian Dyffryn Nantlle a fu yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ar Ddydd Sadwrn y 30ain. Daethant yn ail yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth Pedwar.

Mae gan y band 3 adran ar hyn o bryd – Band Ifanc, Hyn a Chanolradd.
Mae oddeutu deg aelod yn y Band ifanc – maent i gyd yn dechrau chwarae offeryn am y tro cyntaf, ac yn cyfarfod bob nos Fercher o 7 tan 8 i chwarae fel grwp.

Mae’r band Canolradd yn cyfarfod rhwng 8 a 9 ar nos Fercher. Sefydlwyd y band hwn ar gyfer y rhai mwy profiadol o’r band ifanc a’r aelodau iau yn y band hyn. Mae’r ddau fand yn cael eu harwain gan Sue Massey.

Mae Sue a Gareth Williams yn cyfarfod â’r band hyn ar nos Fercher a nos Wener o 7 tan 9.

Sue Massey, o Benmaenmawr sy’n arwain y Seindorf. Yn ddim ond 26 oed mae’n cadw brwdfrydedd yr ifanc yn ogystal â’r rhai hyn yn fyw.

Bu Sue yn astudio cerdd ym Mhrifysgol Bangor ble ymunodd â Seindorf Arian Porthaethwy. Mae wedi bod yn aelod o’r band ers tair blynedd a hanner bellach ac yn arwain ers dwy.

Llongyfarchiadau mawr i Sue am ennill tlws Dysgwr y Flwyddyn gyda S4C, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol, Nant Gwrtheyrn.

Mae’r Seindorf yn chwilio am aelodau newydd yn gyson. Mae croeso cynnes i unrhyw oedran o unrhyw safon, gyda hyfforddiant gwych yn cael ei gynnig gan Sue. Hoffai’r band ddiolch yn fawr iddi am fod mor gydwybodol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwynne Williams ar (01286) 880707.

[ Yn ôl i'r Top ]

Ysgol Talysarn

Bu plant Ysgol Talysarn yn gweithio gyda’r artist Luned Rhys Parri i greu murlun anferth o fywyd eu bro. Cafodd y gwaith ei arddangos yn stondin Cyngor Cefn Gwlad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Stad y Faenol.

Murlun o fywyd bro mewn papier mache

Defnyddiwyd ‘papier mache’ i greu modelau 3D i ddehongli’r fro, y diwydiant llechi, tai teras yr hen chwarelwyr, a threftadaeth yr ardal drwy edrych ar farddoniaeth R. Williams Parry.

Murlun o fywyd bro mewn papier mache

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gyngor Cefn Gwlad â’r Eisteddfod Genedlaethol, yn cefnogi cynllun Cymunedau’n Gyntaf y Cynulliad yn yr ardal.
Mae’r murlun wedi cael ei ddychwelyd erbyn hyn yn ôl i’r ysgol.
Mae pobl yr ardal yn gobeithio gwneud cais am grant i ail-greu gwaith y plant ar dalcen estyniad newydd Canolfan Gymunedol Talysarn.

[ Yn ôl i'r Top ]

Safle Gwê Dyffryn Nantlle

Mae Grwp Tudalen Wê (www.nantlle.com) yn agored i bawb fynychu sesiynau hyfforddiant ar sut i ddatblygu tudalen we a bwydo gwybodaeth cyson i’r safle.

Mae’r gwrp yn awyddus cael cymaint o bobl a phosib i fwydo gwybodaeth ar y safle. Os oes ganddoch chi rywbeth diddorol i’w ddweud neu lun arbennig y gallwn wneud copi a’i ddefnyddio cysylltwch â Beryl Fretwell ar (01286) 882688.

Ydych chi wedi ymweld â safle wê www.nantlle.com eto? Dyma esiampl o'r math o wybodaeth sydd ar gael:

Plant Ysgol Talysarn yn 1927

Plant Ysgol Talysarn yn 1927. Ydi Taid neu Nain rhywun yma efallai? Gadewch i ni wybod.

Drws y Coed

Neu oes gan rhywun atgofion am amser difyr cyfnod y gwaith copr yn Nrws y coed?

Idwal ap Ieuan JonesIdwal ap Ieuan Jones, peilot oedd yn byw yn Garreg Lwyd, Talysarn ers talwm. Pwy sydd yn cofio Idwal a’i awyren uwchben Talysarn yn ystod y 1930au?

Fe ymwelodd 1,500 o bobl â’r safle yn ystod Mis Awst eleni. Hwyrach y bydd rhai o’r ymholiadau a gafwyd o ddiddordeb i drigolion Talysarn a Nantlle ac efallai y bydd rhywun yn medru helpu.

Roedd Ivy Swift o Bolton wedi anfon atom gyda cherdyn post o Idwal Jones y Peilot yn gofyn a oes unrhyw fwy o’i hanes. Roedd ei Mam a’i brawd wedi bod mewn awyren gyda Idwal ac wedi derbyn cerdyn post ganddo wedi ei arwyddo.

Laurie Brookes o ochrau Rhuthun yn chwilio am fedd ei modryb Nell Rose o Nantlle gynt. Fe ddygwyd ei chorff o’r America i’w gladdu yn y Dyffryn.

Glenys Lloyd o Lundain yn chwilio am wybodaeth am ei theulu oedd wedi bod yn ‘Ysgubor’ Nantlle. Roedd Jane Jones fu farw yno yn 1909 yn perthyn iddi ac roedd aelodau eraill y teulu wedi byw yn Victoria Terarace.

Cysylltwch â’r grwp yn y Ganolfan Dechnoleg neu galwch yn y Swyddfa yn Nhalysarn os hoffech ymateb i unrhyw un o’r ymholiadau.

Yr ydym yn chwilio am fwy o luniau, straeon difyr, hen luniau, hen hanesion i’w cynnwys eto – ydych chi yn fodlon helpu i gasglu gwybodaeth i’r grwp.

Yr ydym hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth am gymdeithasau a grwpiau Talysarn a Nantlle. Pwy yw’r swyddogion a’r enwau cyswllt a beth yw eich rhaglen ar gyfer y gaeaf?

Byddai cael cyfaniad gan y bobl ifanc yn werthfawr ac yn sicrhau fod gennym safle bywiog gydag apêl eang. Dewch i’r Ganolfan Dechnoleg i gyfarfod y grwp a thrafod syniadau.

Cofiwch hefyd am y ‘Fforwm’ – lle i sgwrsio, trafod, prynu a gwerthu. Mae’n werth ymuno – mwya’n byd gora’n byd.

[ Yn ôl i'r Top ]

Parc Sglefrio

Mae Grŵp Cruisers Talysarn yn sicr yn dangos yn glir fod y Gymuned yn cymeryd rhan yn natblygiad ein hardal. Mae eu hymdrechion i dacluso a ffensio o amgylch y Parc Sglefrio yn dangos fod posib i bobl leol wneud y gwahaniaeth rhwng rhywbeth yn digwydd ne ddim. Gyda’r tarmac a’r llecyn gwyrdd o amgylch y parc wedi ei osod mae hyn wedi tacluso a gwneud y Parc yn fwy diogel.
Cymerodd y grwp ran mewn arddangosfa ym mhabell hamdden Cyngor Gwynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyflwyno y gwaith maent wedi ei wneud a sut i ddefnyddio sglefrfyrddau yn ddiogel.

[ Yn ôl i'r Top ]

Blodeuwedd

Grwp arall sy’n dangos fod y Gymuned yn cymeryd rhan yw Blodeuwedd. Mae delwedd y ddau bentref yn brysur newid diolch i ymdrechion y Grwp. Mae’r casgenni blodau hyd a lled yr ardal yn llawn lliw ac yn dechrau rhoi cymeriad a neges i bawb i geisio cadw’r ddau bentref yn daclus.

Oherwydd y gwaith adeiladu sy’n mynd ymlaen ar y Ganolfan yn Nhalysarn bydd Te Prynhawn misol Blodeuwedd yn cael ei gynnal yng nghanolfan Llys Llywelyn Nantlle.

Diolch i bawb am eich cefnogaeth.

[ Yn ôl i'r Top ]

Clwb Silyn

Mae Clwb Silyn yn ddiolchgar iawn i’r Heddlu am eu cyfraniad ac i bobl ifanc y pentref am eu hymdrechion i godi arian i’w caniatáu i fynd ar ddau drip ym Mis Gorffennaf i Gerddi Bodnant a Llandudno.

Cafwyd diwrnod arbennig yng Ngerddi Bodnant yn cael gweld y blodau a’r planhigion yn eu llawn lliw.

Uchafbwynt y daith i Landudno oedd y trip i ben y Great Orme, roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.

[ Yn ôl i'r Top ]

Clwb yr Iard

Dros wyliau’r haf cynhaliwyd gweithdy peintio Crysau-T gan Jan Chipps yn y Barics, Nantlle. Roedd mwy na 25 o blant wedi ymuno yn yr hwyl, a pheintiwyd crysau lliwgar iawn.

O hyn ymlaen bydd y clwb yn cynnal eu sesiynau yn Llys Llywelyn.

Bydd cyfle i blant y pentref gyfarfod yn gyson a defnyddio yr offer newydd y mae’r clwb wedi eu prynu.

Mae croeso yno i bawb.

[ Yn ôl i'r Top ]

Cyrsiau Hyfforddiant

Os oes unrhyw un â diddordeb i fynd ar gyrsiau hyfforddiant, cysylltwch gyda’r swyddfa yn y Ganolfan am fwy o wybodaeth.

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys