Cynllun Teithio Crib Nantlle

 
 
 

Cynllun teithio newydd Crib Nantlle

Cynllun Teithio Crib Nantlle, Dyffryn Nantlle, GwyneddAwst 2005

Mae cynllun newydd fydd yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus amgen am bris rhesymol ar gael i bobl sy’n cerdded Crib Nantlle.

Gyda prinder gwasanaeth bws ar gael i’r rheini sy’n awyddus i gerdded y daith boblogaidd, penderfynodd Menter Goriad Gwyrdd Eryri Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd sefydlu gwasanaeth tacsi arbennig fydd ar gael i gerddwyr, o ganol mis Awst 2005.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, Cymdeithas y Cerddwyr a Chlwb Mynydda Cymru Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd, penderfynwyd y byddai gwasanaeth tacsi yn darparu modd cynaliadwy ac effeithiol o deithio. Yn hytrach na gorfod cael dau gar i gerdded Crib Nantlle, gallwch bellach barcio eich car, er engraifft, yn Nhalysarn neu Benygroes, a galw tacsi a fydd yn eich hebrwng i ddechrau’r daith gerdded yn Rhyd Ddu – a hynny am bris taith bws o £1 yr un. Bydd Menter Goriad Gwyrdd Eryri a Bws Gwynedd yn talu am weddill cost y daith. Bydd y gwasanaeth yma ar gael rhwng Rhyd Ddu, Talysarn a Phenygroes yn unig.

Mae’r cynllun wedi ei gefnogi gan bartneriaid Menter Goriad Gwyrdd Eryri, sef Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Asiantaeth Datblygu Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Bwrdd Croeso Cymru, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Esboniodd y Swyddog Prosiect, Huw Percy:

Rydym yn hapus iawn gyda’r gefnogaeth a roddwyd i’r cynllun gan y gymuned leol, yn ogystal â chydweithrediad swyddogion ‘Bws Gwynedd’ sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau fod y cynllun yn llwyddo ac yn symud ymlaen, a’n helpu i ddarparu dewis o drafnidiaeth mwy gynaliadwy yn yr ardal.

Ein nod trwy gynllun arbrofol Bws-Tacsi Crib Nantlle yw darparu modd o deithio sy’n fwy amgylcheddol gyfeillgar ac yn rhedeg yn ôl y galw ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gerdded Crib Nantlle.

Os fydd yn llwyddiannus bydd y Bartneriaeth yn ysteried ymestyn y cynllun ar ôl Ebrill, 2006 ac i ardaloedd eraill yng Ngwynedd a Chonwy.

Bydd y cynllun ar gael i aelodau’r cyhoedd rhwng 7am a 7pm, drwy ffonio Tacsis Huw o Benygroes ar (01286) 676767 neu 07967 881903.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r cynllun, cysylltwch â Huw Percy, Swyddog Prosiect, Menter Goriad Gwyrdd Eryri, ar (01286) 679615, neu Trystan Lewis, Bws Gwynedd ar (01286) 679535.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys