Ffermwyr Ifainc

Cangen Dyffryn Nantlle

 
 
 

Clwb y Ffermwyr Ifainc yn Mynd o Nerth i Nerth

Lleu ~ Mawrth 2003

Mae'n hen bryd i un criw o bobl ifanc y Dyffryn yma ganu eu clodydd eu hunain am eu llwyddiant cynyddol. Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle yn mynd o nerth i nerth.

Dechreuodd y clwb adennill llwyddiant y llynedd. Roedd criw bach, ond gweithgar, yn ymgasglu gan bery fod eu presenoldeb yn amlwg yng nghystadleuaeth amrywiol mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn Eryri. Daeth y clwb yn 2il ar ddiwrnod y Rali, camp anhygoel o feddwl oed a nifer yr aelodau.
Yn ystod y flwyddyn yma mae llwyddiant wedi magu ar lwyddiant. Rydych eisoes wedi clywed am lwyddiant y clwb yn ennill y cystadlaethau barnu a'r eisteddfod gan wneud sioe dda iawn ohoni yn y gystadleuaeth bowlio deg yn ogystal.

Bu'r criw o'r clwb yn cynrychioli'r sir yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn y de ac mi fu yn daith fythgofiadwy yn ôl i fyny 'nôl i'r gogledd efo'r genod yn ein difyrru ni yr holl ffordd!

Wedi hynny, enillodd un tîm o'r clwb y gystadleuaeth cwis gan ddangos fod brêns yn y clwb yn ogystal â thalent eisteddfodol a barnu anifeiliaid.

Llongyfarchiadau i'r tîm Daniel, Mari, Emrys, Bethan a Guto Rhys.

Yn ogystal cafwyd llwyddiant diweddar mewn cystadlaethau dartiau a pwl. Diolch i fyfyrwyr Glynllifon am adael i ni gael ymarfer efo nhw.

Daeth yr aelodau a rhai rhieni ynghyd cyn y nadolig i ddathlu llwyddiant y clwb. Cafwyd noson hwyliog, pryd cafwyd cyfle i ddiolch i'n harweinwyr, sef Nesta Griffiths ac Ifan Caerloda a hefyd i Anti Elen, Pengwern a Glenda Ffridd am eu cymorth a'u cefnogaeth dibendraw.

Ar ôl y Nadolig bu'r clwb yn ddigon ffodus i ymweld ag Ian a'r hogia yn Express Motors pryd y cawsom gyfle i glywed straeon rasio ralïau ceir. Wel sôn am noson dda a diddorol; pwy fyddai'n meddwl fod cymaint o waith, egni a brwdfrydedd, heb sôn am gostau, yn mynd i baratoi ar gyfer y ralïau. Hoffem ni i gyd ategu'n diolch roddwyd i'r hogia am noson mor ddifyr.

Ar hyn o bryd mae'r aelodau wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth siarad cyhoeddus, cewch glywed sut yr aeth hi yn y rhifyn nesaf o Lleu.

Yr amrywiaeth o weithgareddau sydd i ddilyn am weddill y flwyddyn hon yw cystadleuaeth weldio, gyrru motor beic pedair olwyn, aelod y flwyddyn, cystadlaethau celf a chrefft ac, wrth gwrs, diwrnod mawr y rali. Diwrnod llawn o gystadlaethau amrywiol. Ac, wrth gwrs, ein nosweithiau o adloniant difyr!!!

Unwaith eto, 'rydym yn agor y drysau led y pen ar gyfer aelodau newydd ac, efallai, i gyn-aelodau newydd ac, efallai, i gyn-aelodau i ail ymaelodi â ni. Rydym yn cwrdd yn Ysgol Dyffryn Nantlle bob nos Lun am 7.30. Mae croeso i unrhyw un ddod atom.

Byddai'r clwb yn hynod ddiolchgar am unrhyw nawdd a ellir ei gynnig. Mae'r arweinyddion yn fwy na bodlon i roi o'u hamser yn wirfoddol, ond, mae cynnal clwb o'r fath yn costio. Efallai fod rhai o ddarllenwyr Lleu yn gwybod am ffynonellau ariannol a allai ein cynorthwyo. Er mor werthfawr yw cyfraniad y clwb i'r Dyffryn a'r ardal, diwedd pob cân yw'r geiniog.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys