Gŵyl Fai

Sefydlu a datblygu yr Ŵyl rhwng 1995 - 2000

 
 
 

1995

Fe gynhaliwyd yr Ŵyl Fai gyntaf yn ôl yn 1995 pan gasglwyd £5,000 i Gangen Gwynedd Gofalwyr a Dioddefwyr Multiple Scelerosis. Cadeirydd cyntaf yr Ŵyl oedd Arwyn Roberts, ynghyd ac aelodau'r pwyllgor gwreiddiol. Un o uchafbwyntiau'r Ŵyl oedd gem bêl-droed rhwng timau Pobl y Cwm a C'mon Midffîld, a'r sgôr derfynnol yn 4-4. Yr oedd llwyddiant y gweithgareddau yn ddigon o ysgogiad i symud ymlaen i drafod Gŵyl Fai 1996.

1996

Penderfynwyd cefnogi achos clefyd Alzheimer yn 1996. Cafwyd wythnos fyrlymus o weithgareddau yng nghwmni enwogion fel Huw Ceredig, Dafydd Iwan a Cefin Roberts. I gychwyn yr Ŵyl agorodd Banc y Midland ei ddrysau i'r cyhoedd gael paned a theisen mewn bore coffi arbennig wedi ei drefnu gan y staff. Daeth y gweithgareddau i ben gyda chymanfa ganu yng nghapel Bethel MC Penygroes dan arweiniad Mr Maldwyn Parry. Prynwyd chwe cadair arbennig i'r uned Alzheimer yng nghartref Plas Gwilym Penygroes ac anfonwyd cyfraniad ariannol i Ymchwil Alzheimer Cymru.

1997

Roedd Gŵyl Fai 1997 yn casglu arian i apêl Asthma yn lleol ac yn genedlaethol. Timau pêl-droed S4C a BBC Radio Cymru oedd yn brwydro ar gae'r Fêl y flwyddyn hon gyda sgôr anhygoel o 10-9 i'r BBC. Roedd y twrnament pêl-droed a phêl-rwyd i ysgolion cynradd lleol yn hynod o boblogaidd a gwelwyd cymeriadau go ryfedd yn gwthio gwely o Gaernarfon i Benygroes! Rhai o sêr yr wythnos oedd John ac Alun a John Ogwen, gyda Hywel Gwynfryn a Jonsi yn darlledu yn fyw o Benygroes a phlant bach Ysgol Bro Lleu yn canu ar y rhaglen.

1998

Yn sicr un o binaclau'r blynyddoedd oedd 1998 pan ddewisiwyd cefnogi apêl i blant yn dioddef o gancr sef yr elusen CLIC. Cynhaliwyd gemau rhyng-bentrefol - Gemau Giamocs - gyda phentref Penygroes yn fuddugol ac yn ennill y tlws llechen hardd. Mae'r tlws i'w weld yn ffenetr y Ganolfan Dechnoleg yn Heol y Dŵr, Penygroes ond ni fu dilyniant i'r gemau wedyn.

Beth am ddod ymlaen i'n helpu i drefnu twrnament eto er mwyn i'r tlws gael cartref newydd am sbel. Arweinydd y noson lawen ar y nos Wener oedd Trefor Selway a'r artistiaid yn cynnwys Hogia'r Wyddfa, Rosalind a Myrddin, Côr Ysgol Dyffryn Nantlle, Cefin Roberts, Côr Glanaethwy, Arwel Roberts a Lleisiau Mignedd. Llywydd y noson oedd y Dr. Alun Morris o Ysbyty Gwynedd.

Mae'n rhaid cofnodi cyfraniad arbennig Gwyn Tudur i'r Ŵyl y flwyddyn hon - fe gytunodd i redeg Marathon Llundain a chodi £1,500 trwy ei ymdrechion. Hon oedd blwyddyn y reid feics gyntaf yr holl ffordd o Ysbyty Alder Hey Lerpwl i Benygroes ac i gloi'r Ŵyl cafwyd cymanfa ganu yng Nghapel Bethel Penygroes dan arweiniad Mr Maldwyn Parri.

1999

Apêl Curiad Calon oedd yr elusen yn 1999 a chychwynwyd ar y gweithgareddau gyda Sioe Planed Plant ym Mhlas Silyn. Faint sy'n cofio cyfarfod Wcw, Martin Geraint a chyflwynwyr Planed Plant S4C ar y diwrnod?

Yn dilyn y gweithgareddau arferol - disgo, drama, helfa drysor, noson goffi, talwrn y beirdd a twrnament pêl droed a phêl rwyd i ysgolion y Dyffryn; cafwyd Noson Lawen mewn neuadd lawn gyda Iona ac Andy, Topper, Eilir Jones, John Eifion, Adlais a chôr Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cefin Roberts oedd arweinydd y Gymanfa Ganu yng Nghapel Mawr Talysarn ar y nos Sul olaf. Darlledwyd y Gymanfa ar raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol S4C mis Hydref 1999.

2000

Cytunwyd i gefnogi elusen Meningitis Cymru ym mis Mai 2000. Roeddem yn hynod o falch pan gytunodd Dr Sara Webster i fod yn Llywydd yr Ŵyl - nid yn unig am iddi ddioddef yn enbyd o'r clefyd ond hefyd gan fod gan deulu Sara gysylltiadau arbennig hefo'r ardal. Taid Sara oedd yn cadw Siop Dic ym Mhenygroes ers talwm - y lle gorau yn y byd am hufen iâ cartref!

Yr oedd y Noson Lawen gyda phlant y Dyffryn yn cymeryd rhan, yn llwyddiannus iawn a'r neuadd eto'n llawn. Ceren oedd arweinydd y gymanfa ganu ar brynhawn Sul olaf yr Ŵyl yng Nghapel Saron.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys