Gŵyl Fai 2004

10fed Ŵyl Fai Dyffryn Nantlle

 
 
 

Mai 15 - 22, 2004

Ambiwlans Awyr Cymru - Wales Air AmbulanceEr budd Apêl Ambiwlans Awyr ac achosion lleol

Diolch yn fawr i bawb fu'n cefnogi

Sadwrn Mai 15

Y beicars

Cychwynnodd 25 o feicars o Benygroes ychydig wedi 9.00 y bore ar daith o amgylch yr Wyddfa. Roedd y tywydd yn ffafriol ac ar ôl cyrraedd Pen y Gwryd roedd pawb yn haeddu llymaid bach i dorri'r syched. Diolch i'r holl ffrindiau, teuluoedd a chwmniau fu yn noddi'r daith - roedd y criw yn haeddu cefnogaeth.

Tommy Hildige - enillydd y darian a gwobr gyntaf y twrnament bowlioSul Mai 16

Tommy Hildige oedd enillydd y darian a gwobr gyntaf y twrnament bowlio eleni gyda Fred Stansfield yn ail teilwng.  Owain enillodd y twrnament i ddechreuwyr ac Aled yn ail. Diwrnod da am liw haul ger y lawnt bowlio ac roedd mynd ar y byrgars a'r cwn poeth.
Noddwyd y twrnament gan Ali Pali.

Llun Mai 17

Diolch i Owain Llyr am gytuno i ddod yr holl ffordd o'r Bala at Rhodri i'r Neuadd Goffa, Penygroes i baratoi disgo i'r plant.  Roedd y ddau DJ wedi plesio a phawb wedi mwynhau noson hwyliog iawn.

Mawrth Mai 18

Ar noson braf o fis Mai daeth oddeutu 80 o bobl a phlant yr ardal i gystadlu yn yr Helfa Drysor o amgylch pentref Penygroes.  Nora, Dianne a Gary enillodd y wobr o docyn mynediad i'r Hwylfan Caernarfon.  Diolch i Wendy am baratoi'r helfa ac am y wobr.

Iau Mai 20

John Ogwen oedd y Meuryn ffraeth yng ngornest Talwrn y Beirdd yn y Neuadd Goffa.  Roedd tri tim yn cystadlu a'u gorchestion yn werth eu clywed fel arfer. 

Diolch i'n haelod cynulliad Alun Ffred Jones am drefnu'r a chymeryd cyfrifoldeb am y noson yng nghanol ei brysurdeb ac os sylwch ar lun y beicars - roedd yn un o'r rhai hynny hefyd!

Diolch i Dewi Rhys a Magi am drefnu'r Cwis Tafarn yn y Goat.  Cytunodd pawb ei bod yn 'Noson dda' yn enwedig tim y 'Bar Wallies' ddaeth yn gyntaf.

Gwener Mai 21

Cafwyd noson arbennig ynYsgol Dyffryn Nantlle gyda plant yr ysgolion lleol dan arweiniad y darlledwr 'Kev Bach'.  Llywydd y noson oedd - Hywel Williams AS sydd wedi cefnogi llawer ar achos yr ambiwlans awyr.  Diolch i'r ddau am ddod atom a diolch i'r plant a'r athrawon am eu hamser a'u doniau.

Sadwrn Mai 22

Sbri yn Sgwar y Farchnad

‘Sbri yn Sgwar y Farchnad’ yn yr haul, fu hanes dydd Sadwrn olaf yr Ŵyl eleni.  Diolch i'r stondiwyr am gefnogi, i'r plant am gymeryd rhan y gystadleuaeth gwisg ffansi a'r carioci, ac i Seindorf Arian Dyffryn Nantlle am ymuno a ni. Diolch i bawb ddaeth yno i gefnogi'r gweithgareddau ac i sicrhau diweddglo llwyddiannus i'r Ŵyl.


Cyflwyno siec Gwyl Fai i'r Ambiwlans Awyr

 

 

Llun: Iwan Williams, Cadeirydd Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle yn cyflwyno siec am £5,000 i gynrychiolydd o dîm Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn Gŵyl Fai 2004.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys