Mai 13 – 20, 2006
Dyna wythnos lawn o weithgareddau Gŵyl Fai 2006
drosodd am flwyddyn arall ac ynghanol glaw tyfu mis
Mai gwelwyd cefnogaeth i’r Ŵyl hefyd yn
tyfu a chafwyd wythnos lewyrchus iawn.
Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Ŵyl daeth 36 o feicwyr
at ei gilydd i reidio taith o dros 46 milltir o Gaergybi
i Benygroes. Roedd naw o ferched yn reidio eleni -
sef chwarter y grŵp. Beth am ddechrau ymarfer
ar gyfer y flwyddyn nesaf genod i ddangos be fedrwn
wneud?!! Diolch i Alun Ffred AM am ymuno a ni yn ôl
ei arfer ac i Owain Llyr Champion FM fu’n denu
noddwyr drwy ei raglen radio.
Bwrw glaw yn sobor iawn oedd hanes y bowlio dydd Sul
ond fe ddaeth selogion y twrnament i gystadlu run fath.
Diolch i’r Clwb Bowlio a’r Clwb Cyn Filwyr
am eu cefnogaeth.
Roedd dros gant o blant bywiog yn y disgo nos Lun
ac roedd tua chant a hanner yn cymryd rhan yn yr helfa
drysor ar y nos Fawrth a hithau’n braf. Elwyn
Jones Griffith oedd wedi paratoi’r helfa ac fe
ddaeth pawb yn ôl i’r neuadd yn saff am
gawl cartref a chwn poeth.
Nos Iau oedd noson y Talwrn dan ofal y Meuryn Mei
Mac gyda thri thîm yn cystadlu. Y tîm buddugol
oedd Tîm KO gyda chymeradwyaeth fawr i’r
ddau dîm arall. Diolch i Ifor Baines am lywio’r
noson - roedd o’n haeddu ennill potel dipyn mwy
na’r un a gafodd o!!
Yn dilyn y Talwrn roedd y Goat yn llawn ar gyfer y
Cwis Tafarn. Y cwis feistr oedd Dewi Rhys ac er iddo
orfod rhannu cardiau melyn a rhai cardiau coch roedd
awyrgylch hwyliog a chymdeithasol iawn yn y dafarn.
Noson Bingo deuluol oedd y nos Wener yn y Neuadd Goffa
a gyda chefnogaeth dda i’r noson cafwyd ‘full
house’ go iawn. Roedd y gweithgareddau yn cario
mlaen wedyn mewn noson Carioci hwyliog a swynol yn
y Fic!
Daeth yr hen ‘Ifan’ i gadw cwmni i ni
eto ar ddiwrnod y Sbri - yn ôl ei arfer erbyn
hyn!! Ond roedd cystal amrywiaeth o stondinau yn y
Neuadd Goffa ar y dydd Sadwrn olaf a’r un marchnad
yn unman. Gwerthu allan yn fuan iawn oedd hanes gwaith
coed arbennig Arfon oedd wedi bod yn brysur yn creu
stoliau trithroed, byrddau coffi, silffoedd llyfrau
ac addurniadau ar gyfer yr ardd. Roedd amrywiaeth eang
o blanhigion gwerth chweil ar werth i’r garddwyr
a stondin flodau hardd ymysg stondinau amrywiol ein
mudiadau a’n sefydliadau ffyddlon eraill. Roedd
band Dyffryn Nantlle yn creu awyrgylch hyfryd ac roedd
gweld y plant yn eu gwisgoedd ffansi yn cynhesu’r
galon a dod a gwen i’r wyneb
Drwy ymdrechion y pwyllgor , y rhai gymerodd ran,
pawb fu’n gwerthu’r raffl a’r cefnogwyr
pybyr mae elw’r Ŵyl eleni dros £6,000,
fydd yn cael ei rannu rhwng Apêl Clefyd Parkinson
ac achosion da lleol. Diolch felly i’r tîm
mawr yn ei gyfanrwydd am sicrhau llwyddiant Gŵyl
Fai 2006. |