Mai 12 – 20, 2007
Yn ystod yr wythnos cynhaliwyd Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle er budd Apêl
Hosbis yn y Cartref ac achosion da lleol.
Cafwyd cychwyn ardderchog i’r wythnos wrth i 29 o feicwyr selog reidio bron i
40 milltir i fyny allt Drws y Coed ymlaen drwy Feddgelert,
Tremadog, Cricieth, Bryncir ac adref yn ôl i Benygroes.
Fore Sadwrn hefyd yn Llyfrgell
Penygroes daeth llawer o’r plant i gael stori, peintio
wynebau a chael mynd adref wedi gwneud gwaith celf
gwerth ei weld.
Dydd Sul enillydd y twrnament
golff yng Nghaernarfon oedd Sïon Williams.
Nos Lun daeth bron i 100
o blant i Neuadd Goffa Penygroes i ddawnsio i ddisgo
Owain Llŷr o Champion 103.
Nos Fawrth a’r haul yn
gwenu, enillwyd yr Helfa Drysor flynyddol gan griw
o bobl ifanc lleol sef Bethan Ffion, Dewi a Iestyn.
Nos Iau Mei Mac oedd y
Meuryn yn Nhalwrn y Beirdd gyda 3 thîm yn cystadlu.
Yn cadw trefn ar bawb roedd Alun Ffred Jones AC ac
ef hefyd oedd yn cadw’r sgôr. Ar ddiwedd yr ornest
roedd tîm Ifan Glyn, Tîm Cynan Jones a thîm KO yn gyfartal.
Prin yr oedd yn bosib
mynd i mewn i dafarn y Goat am 9.00pm nos Iau gan fod
tyrfa wedi troi allan i’r cwis dan ofal y cwis feistr
Dewi Rhys. Tîm ‘Dim Clem’ oedd y buddugwyr a phawb
wedi byhafio mae’n rhaid oherwydd ni welwyd yr un cerdyn
melyn ar y noson!
Roedd hi’n ‘full house’
nos Wener yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle i’r noson
Bingo teuluol. Wena’n galw a digon o wobrau wedi eu
hennill gan bawb.
Uchafbwynt yr Ŵyl bob
blwyddyn yw’r Sbri yn Sgwâr y Farchnad Penygroes. Pob
math o stondinau - digon o bethau i’r ardd, dodrefn,
cacennau, raffls, barbiciw, gemau - i gyd i sŵn hyfryd
Band Arian Dyffryn Nantlle. Enillwyr y gystadleuaeth
gwisg ffansi oedd Gwion Huw a Ceris Alaw wedi gwisgo
fel Peter Andre a Katie Price!! Yn yr adran iau Cynan
Davies enillodd wedi dod fel ‘Dennis the Menace’
Daeth 40 o fotor beicwyr ar y rali oedd yn cychwyn
o Dalysarn am 11.00 bore Sul gan gyrraedd yn ôl mewn
pryd i weld Alan Evans yn ennill y twrnament bowlio
yng nghlwb y cyn-filwyr yn hwyr y prynhawn.
Diolch i Geraint Thomas
a’i fyfyrwyr o ddosbarth nos Ffotograffiaeth Digidol
Coleg Harlech WEA am fod mor garedig yn gwerthu eu
lluniau er budd yr Ŵyl.
Bu’n wythnos brysur, fyrlymus
ac amrywiol iawn a dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb
fu’n noddi, cyfrannu a chefnogi’r Wyl eto eleni. Mae
dros £5,000 wedi ei gasglu.
Gardd agored
Bu un digwyddiad ychwanegol yn rhan o'r ŵyl eleni, pan, ar benwythnos Mawrth 24
a 25 a’r haul yn disgleirio,
agorodd Mr a Mrs Black, Gwernoer, Nantlle
eu gardd i’r cyhoedd (gweler y lluniau isod).
Mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb fu
yn cefnogi ac yn enwedig i Reg a Megan am eu caredigrwydd.
|