Hanes
Gŵyl Fai 2011
Er budd Sganiwr Symudol Gwynedd Sands ac Achosion lleol sgroliwch i lawr i weld yr oriel luniau Y ffyddloniaid, amryw ar eu taith gyntaf, rhai o Sir Fôn a dim ond un ferch
yn eu plith - a dyna roi tro ar y pedals i gychwyn
Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle 2011.
Pawb yn cytuno fod hon
yn daith galed a doedd y glaw ddim yn help ond gyda
nerth o ambell beint o ‘guiness’ ac ysbrydoliaeth
gin Rhodri a’r Coventry Eagle, ac er gwaethaf nifer
go
lew o dyllau yn y teiars a methu ambell i droad cyrraedd
yr Afr yn un fintai gyfan fu hanes y criw.
Rhag ofn na wyddoch beth ydi’r Coventry Eagle, dyma lun ohono:
William Parry
o Gemaes, Sir Fôn (taid yng nghyfraith Rhodri) oedd
perchennog y beic ganol y ganrif ddiwethaf. Ar hwn
y byddai William Parry yn reidio i’w waith yn Bryn
Aber, Bae Cemlyn sef cartref y gŵr hynod, Capten
Hewitt (The Eccentric Millionaire). Ydi reidio o’r
Felinheli
i Benygroes ben bore ar feic fel hwn, cyn cychwyn
ar daith noddedig o 45 milltir yn eich gwneud yn egsentrig
deudwch?
Bore Sul Mai 8fed, diolch i Alan ac Ann, daeth 32 o fotor beics at ei gilydd
i faes parcio Talysarn i gychwyn ar daith Gŵyl Fai.
Roedd byrgar a phaned
yn aros amdanynt yn y Clwb bach ar ddiwedd y daith
ac yno hefyd roedd llinell derfyn
y ras gyfnewid deircoes ac er mai dod yn ola' oedd
hanes tîm y genod roeddynt wedi brwydro’n galed i
ennill eu 20 pwynt. Tîm yr Afr enillodd gyda 35 pwynt,
er
bod dadlau mawr wedi bod ynglŷn â’r nifer o bontydd
rhwng Pen Nionyn a’r Clwb!! Tipyn o waith i’r dyfarnwr!
Y tîm genethod cyntaf
i gystadlu yn y ras gyfnewid deircoes:
Tîm cyhyrog hogia’r Afr yn derbyn eu tlws gan Owain Rowlands, Cadeirydd Gŵyl
Fai:
Mae’r dydd Sul wedi ei sefydlu fel diwrnod y twrnamaint bowlio wrth gwrs a diolch
i aelodau Clwb Bowlio Penygroes am drefnu a chynorthwyo
ar y diwrnod.
Carrog ddaeth yn gyntaf yn yr adran i ddechreuwyr a Jamie yn ail a dyma Eilir
a Dion wedi dod yn gyntaf ac ail yn yr adran hyn –
y ddau yn aelodau o’r Clwb Bowlio lleol.
Tair o genod bach yn werth eu gweld wedi gwisgo yn grand ar gyfer y dawnsio disgo
i fiwsig Kevin nos Lun:
Cwmni Plant Afradlon Iawn yn derbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa nos Fawrth yn
Neuadd Goffa Llanllyfni.
Diolch i’r holl actorion
talentog am noson hwyliog gartrefol iawn ac i OP Huws
am arwain
y noson.
Yr Ocsiwn Fawr
Diolch i ddawn perswâd Mici Plwm codwyd £2,500 yn yr Ocsiwn yn Oriel Llun-Mewn-Ffram
nos Wener.
Diolch i Meic a Hefina
am eu croeso a’u haelioni unwaith yn rhagor!
Streips 2011
Criw hwyliog o Ysgol Dyffryn Nantlle fentrodd i’r ysgol mewn dillad streips er
mwyn codi arian i ymgyrch Gŵyl Fai:
Sbri Dydd Sadwrn
Roedd y gwynt yn ddigon main ond chwysu oedd hanes criw'r byrgars dan arweiniad
Dyl y prif gogydd!
Dau o ymwelwyr a’r Sbri
- cowboi dewr a ‘Bo Peep’ hefo’i ffon:
Oriel
Luniau Gŵyl Fai 2011 Cliciwch ar y lluniau unigol er mwyn eu gweld yn
iawn
|