Ydi eich llun chi yma?
Cliciwch ar y lluniau unigol er mwyn eu gweld yn
iawn
Taith Feics Noddedig
Reidio yn erbyn gwyntoedd cryf oedd hanes y beicwyr eleni, ond da yw adrodd fad
pawb wedi cyrraedd yn ôl yn ddiogel i'r Goat dan awyr
las a heulwen. Ymysg y 34 oedd ar y daith roedd 3 Meilir
- Meilir Owen, Meilir Fretwell a Meilir Llwyd. Da iawn
te!
Taith Moto Beics a'r Twrnament Bowlio
Disgo John Pritchard
Yr hogia yn dangos i bawb sut mae dawnsio yn y disgo!
Talwrn y Beirdd
Alun Ffred Jones, A.C. oedd yn Llywyddu yn Nhalwrn y Beirdd Gŵyl Fai eleni, yn
ô1 ei arfer, ac roedd y gwreichion yn tasgu rhyngddo ef a'r Meuryn,
Mei Mac wrth i'r ddau geisio cadw trefn ar y tri thim a fentrodd i'r
ornest. Gweinidog Diwylliant a Threftadaeth Cymru oedd hefyd yn cadw'r
marciau.
Tîm Geraint Lovgreen (Capt.), Iwan Llwyd, Ifan Prys ac Osian aeth a hi. Roedd
Tîm Ifan Glyn (Capt.), Menna Medi, Twm Prys a John Hywyn yn ail clos
a thim Karen Owen (Capt.), Karen Jones, Siwan, Alwyn, Arwel, Gwenan
a Morfydd yn drydydd wrth eu sodlau.
Diolch i’r prifeirdd, y beirdd a'r prydyddion am roi noson
hwyliog gyda chymysgedd o safon uchel a sbort i'r gynulleidfa.
- - - - - - - - - -
Gobeithio fod pawb wedi mwynhau rhaglen Wedi 7 (S4C) nos Iau, 13 Mai o Neuadd
Goffa Penygroes. Isod, gweler Gerallt, Delyth a Rhys
o gwmni Tinopolis yn recordio'r rhaglen yn noson Talwrn
y Beirdd Gŵyl Fai. Glenys Thomas enillodd y
teledu digidol, ond mae nifer fawr yn mwynhau paned o
fwg Wedi 7 erbyn hyn.
O'r talwrn i'r cwis - Alwyn Ifans, aelod o dim Cae'r Gors wedi cael 'chydig o
gam yn y talwrn ond wedi dod i'r brig yn y cwis tafarn
-o leia roedd 'na wobr i'w chael am hynny!
Sbri yn Sgwâr y Farchnad
Sialens y Tri Chopa
Y noson cyn y daith
Ar fin cychwyn
Ar y daith
Wedi gorffen o'r diwedd!
»» Manylion Taith y Tri Copa
Noson o Ddrama
Cwmni
Brynrhos
Fel rhan o'r Ŵyl Fai eto eleni
fe gynhaliwyd noson o ddrama yn neuadd Ysgol Dyffryn
Nantlle nos Fercher, 13 Mai. Ac yn union fel noson Talwrn
y Beirdd, mae'r noson hon, gyda chwmnïau lleol yn perfformio,
yn llwyddo i ddenu cynulleidfa deilwng iawn.
Arweiniwyd y noson, yn ddeheuig
fel arfer, gan Ifan Glyn Jones.
Yn cymryd rhan roedd Cwmni
Brynrhos oedd yn cyflwyno 'Parasitiaid' (addasiad Wenna
Williams o Parasites gan Margaret Kynaston) gyda Wenna
hefyd yn cynhyrchu. Dyma'r bedwaredd waith i'r cwmni
berfformio'r ddrama hon. Buont eisoes yn cymryd rhan
yng Ngwyl Ddrama Y Groeslon, Amlwch a Chorwen. Byddant
hefyd yn cyflwyno'r ddrama yn Theatr y Maes yn Eisteddfod
Y Bala fis Awst.
Wedyn, cawsom berfformiad
o'r ddrama Genod Ni gan Gwmni Plant Afradlon Talysarn,
cyfieithiad gan aelodau'r cwmni a John Glyn Owen o Doing
it for Themselves gan Brian Brown. Rhys Richards oedd
yn cynhyrchu'r ddrama hon.
Braf yw gweld y diddordeb
lleol yma ym myd y ddrama. Gobeithio'n wir y bydd y ddau
gwmni yn dal ati i berfformio, ac yn mynd o nerth i nerth.
A beth am i eraill ymroi ati i ffurfio cwmnïau drama
yn yr ardaloedd yma? Mae'n siwr fod digon o dalentau
heb orfod chwilio ymhell iawn. Diolch i bawb fu'n cymryd
rhan, a diolch hefyd i bawb am eu cefnogaeth.
Cwmni Plant
Afradlon
Eleri Hughes, Elin Evans,
Dafydd Gwyn, Nia Parry, Anwen Huws.
Y Cofweinyddion oedd Menna Medi, Magi Fôn ac
Awen Rowlands. Y Cynhyrchydd oedd Rhys Richards.
|