Ydi eich llun chi yma?
Cliciwch ar y lluniau unigol er mwyn eu gweld yn
iawn
Dydd Sadwrn Mai 8 - Taith Feics Noddedig
Taith Feics Noddedig oddeutu 40 milltir o Gaergybi i Benygroes.
Dydd Sul Mai 9 - Rali Motor Beics, Reid feics noddedig i’r teulu a Thwrnament
Bowlio
Rali Motor Beics o faes parcio Talysarn i Aberdyfi ac yn ôl. Reid feics noddedig i’r teulu o faes parcio Penygroes i
Ysbyty Eryri Caernarfon ac yn ôl. Twrnament Bowlio yng
Nghlwb y Cyn Filwyr (yn cynnwys dechreuwyr) yn ogystal
a BBQ.
Dydd Llun Mai 10 - Disgo
Disgo i blant hyd at 11oed yn Neuadd Goffa Penygroes.
Dydd Mawrth Mai 11 - Noson Ddrama ac Adloniant
Noson ddrama ac adloniant yn Neuadd Goffa Llanllyfni dan arweiniad Ifan Glyn
Jones. Cwmni Plant Afradlon yn perfformio 2 ddrama ac hefyd eitemau
ysgafn
gan Glwb Ffermwyr
Ifanc Dyffryn Nantlle.
Dydd Mercher Mai 12 - Helfa Drysor
Helfa Drysor i’r teulu cyfan ar droed yn cychwyn o Neuadd Goffa Penygroes.
Dydd Iau Mai 13 - Talwrn y Beirdd a Chwis
Talwrn y Beirdd yn Neuadd Goffa Penygroes gyda 3 thîm yn cystadlu a'r Meuryn - Mei Mac. Cwis Tafarn yn y Goat dan ofal
Rhys a Iolo.
Dydd Gwener Mai 14 - Diwrnod Gwisgo Streips ac Ocsiwn
Diwrnod gwisgo streips yn yr ysgolion lleol.
Ocsiwn - darluniau olew gwreiddiol a phrintiau gan
rai o artistiaid gorau Cymru a llu o bethau eraill - yn Oriel Llun Mewn Ffrâm, Penygroes.
Sadwrn Mai
15 - Sbri yn Sgwâr y Farchnad a Ras Gyfnewid Tair Troed
‘SBRI YN SGWAR Y FARCHNAD’ Penygroes – Stondinau, blodau / llysiau, Band Nantlle,
castell neidio, peintio wynebau, gemau, BBQ a
llawer mwy. Cystadleuaeth ryng bentrefol – ras gyfnewid
tair troed o amgylch
tafarndai lleol – yn cychwyn o dafarn Pen Nionyn, Y Groeslon.
|