Taith Feics Noddedig
Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle
Mehefin 2003
Gweddïo drwy'r nos am dywydd sych - roedd hi'n
ddiwrnod mawr yn hanes y coesau!
Cafodd Gŵyl Fai eleni syniad o gael taith feics noddedig o safle adeiladu
Tŷ Gobaith yn Nhal y Cafn, Dyffryn Conwy, yn ôl i Benygroes ar hyd
y lôn feics. Deffroais am 6 o'r gloch a chlywed yr adar yn morio canu
- roedd hi yn fore bendigedig. Cyfarfod ym maes parcio Penygroes am 7.30 a
Gary Tanybryn yn llwytho 14 o feics yn y trelar ac Enid a Gwynfor yn ein cludo
mewn dau fws mini.
Roedd safle adeiladu Tŷ Gobaith mewn lle hyfryd
yn edrych i lawr ar afon Conwy. Gwagiodd y trelar ac
yna ffarwelio â'r cerbydau. Dim ond un ffordd
i Benygroes, felly neidio ar gefn ein beics a chychwyn
seiclo y 40 milltir am adref a phawb yn gwisgo eu crysau
T coch a logo Tŷ Gobaith yn amlwg i'r byd. Lowri
a minnau oedd yr unig ddwy ferch oedd wedi mentro ac
roedd rhaid dangos i'r dynion ein bod cystal â hwythau.
Roedd y golygfeydd yn fendigedig wrth drafeilio ar
y lonydd cul na fum i erioed ar eu hyd. Aethom drwy
Henryd, groesffordd lawr i Gonwy a dilyn ochr yr A55.
Cododd y gwynt yn ein herbyn ac roedd yn rhaid seiclo
reit galed i gyrraedd Penmaenmawr.
Methu deall pam nad oedd neb yn fy mhasio? Edrychais
yn ôl a gwelais ambell un yn dynn yn fy sodlau
- Cysgodi!!! Gwylio gormod ar y Tour De
France. I fyny'r allt am Lanfairfechan a Huw Thinog
yn cwyno fod amser tê ddeg wedi pasio.
Cyrraedd Abergwyngregyn lle'r oedd picnic yn ein disgwyl
gyda fflasg o dê,
brechdanau, ffrwythau a digonedd o siocled (esgus gwych, a chuddio rhai
yn fy mhoced at eto). Cychwyn eto a'r coesau ddim yn rhyw hapus iawn erbyn
rwan. Ymlaen a ni am Landegai ac ymuno'r lôn las i Porth Penrhyn. Cerdded
drwy ganol stryd fawr Bangor ac ymlaen i'r Felinheli. Seibiant bach ar gwr
y Fenai.
Alun Bowness yn nodi dwy awr a hanner ar ein beics
i deithio hyd marathon a'r dewrion yn Llundain yn ei
redeg yn yr un amser. Doedd hynny ddim yn ffaith i
godi ein calonnau. Allt eto i ymuno â'r lôn
feics a seiclo am gyfeiriad Caernarfon. Pasio wal y
castell a dim trên yn yr orsaf i fynd â fi
i Dinas.
Dyma'r rhan galetaf o'r daith. Y Bontnewydd yn araf
iawn yn fy nghyrraedd a dim llawer o egni i gynnal
sgwrs. Pawb yn pedlo am eu gorau heblaw Tecs, Dewi
a Gwynfor a oedd yn sgwrsio yn hapus braf - wedi hen
arfer. Dwi'n siwr fy mod wedi cyfrif bob un goeden
sydd rhwng Y Bontnewydd a Dinas.
Y coesau yn sylweddoli eu bod bron a chyrraedd pen
y daith a'r beics yn cyflymu. I mewn i Benygroes a
chroeso mawr yn ein disgwyl ar ochr y ffordd a gwledd
yn ein disgwyl yng Ngwesty'r Afr.
Diolch yn arbennig i'r reidwyr am ddiwrnod bythgofiadwy
- Lowri ac Arwel Thinog, Alun Ffred, Alun a Geraint
Bowness, Dewi Talysarn, Emyr, Gwynfor, Huw, Iwan, Ian
Arwel, Geraint Pentyrch a Tegid a gasglodd £1,500.
Yr hoelion wyth yn Soar yn cwyno fod arogl embrocation
cryf yn yr oedfa fore Sul yn enwedig pan oedd Alun
Ffred yn hel y casgliad!!
gan Iola Huws |