Gŵyl Rhedyw 2006

Llanllyfni

 
 
 

Mehefin 30 - Gorffennaf 8, 2006

Dyma gipolwg o'r digwyddiadau a fu'n cael eu cynnal yn ystod yr Ŵyl lwyddiannus yn 2006.

Nos Wener – Mehefin 30

Bryn Fôn a’r Band yn y Llan

Sesiwn Bryn a’r Plant 6.30 – 7.30pm.
7.30 Carioci a Disgo + yn hwyrach Bryn Fôn a’r Band.

Pnawn Sul - Gorffennaf 2

Taith Trysor Cerdded i’r Plant trwy’r Pentref

I gychwyn am 2.00pm ger y cae chwarae. Rhieni i ddod gyda’r plant lleiaf

Nos Sul – Gorffennaf 2

Cyngerdd Eglwys St Rhedyw

Ilyd Ann a Chôr Hogia’r Ddwylan gyda’r unawdydd Iwan Parry am 7.30pm.
Noson wedi ei chefnogi gan ‘Noson Allan’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

Nos Fawrth - Gorffennaf 4

Taith Ddirgel (Ceir)

I gychwyn o’r Cae chwarae am 6.00pm. Dan drefniant Lowri Plas.

Dydd Iau – Gorffennaf 6

Diwrnod Ffair Llanllyfni

Cofiwch am y stondin Paned yn y Neuadd Goffa yn ystod y dydd.

Dydd Gwener – Gorffennaf 7

Noson Hen Luniau a Ballu

Neuadd Goffa o 6.00 tan 9.00pm. Apêl am luniau ag ati o bentrefi eraill.
Ffoniwch Hefina ar 01286 881139 i drefnu.

Nos Sadwrn – Gorffennaf 8

Noson dod a sosej yn y Cwari

Dewch a bwyd eich hunain i’w rhostio a mwynhewch noson o gerddoriaeth yng nghwmni Brenda Edwards i gloi yr wythnos mewn steil.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys