"Brâd
y Llyfrau Gleision"
Adroddiad ar gyflwr
addysg yng Nghymru a gomisiynwyd gan senedd San Steffan
oedd
Brad y Llyfrau Gleision. Cyflwynwyd yr Adroddiad
terfynnol yn haf 1847. Cyfeiria lliw y llyfrau at y
clawr glas
a roddwyd arnynt (lliw traddodiadol papurau swyddogol
llywodraeth Prydain). Mae'r enw ei hun yn fwysair
ar 'Frad y Cyllyll Hirion', pan laddwyd nifer o bendefigion
y Brythoniaid trwy ddichell y Saeson.
Comisiynwyd yr Adroddiad
yn dilyn cais William Williams, Aelod Seneddol Coventry
ond Cymro o Lanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol.
Roedd yn ddyn hynod o wrth-Gymraeg ac yn ôl Williams, roedd angen trefn addysg newydd fel y byddai'r Cymry "instead of appearing as a distinct people, in no respect differ from the English". Troi'n Saesneg o ran iaith a meddylfryd oedd yr ateb i gyflwr y Cymry yn ol
Williams; roedd y Cymry dan anfantais oherwydd "the existence of an ancient language"!
Yn dilyn dros ddegawd
o anghydfod yn cynnwys terfysgoedd ym Merthyr yn 1831,
y Siartwyr yn Y Drenewydd a Chasnewydd ym 1839, a Merched
Beca trwy gydol y ddegawd cyn 1846 - roedd pryder cyffredin
ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol
a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r Gymraeg a diffyg
addysg (Saesneg) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion.
Meddai'r Times o Lundain
am y Gymraeg:
"Its
prevalence and the ignorance of English have excluded
and even
now exclude the Welsh people from the civilisation
of their English neighbours. An Eisteddfod... is
simply a foolish interference with the natural progress
of civilisation and prosperity." !
Bu'r adroddiad gan dri
Eglwyswr Saesneg na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i
Gymry'r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu moesoldeb
ac am natur gyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg.
Yr ymateb yma o 'frad' gan y Sefydliad Seisnig oedd
y rheswm tu ôl i'r term 'Brad y Llyfrau Gleision' gael ei bathu. Yn ei ragymadrodd dywed yr
adroddiad:
"The
Welsh language is a vast drawback to Wales and
a manifold
barrier to the moral progress and commercial prosperity
of the people" !
Mae'r Adroddiad yn adnodd
hynod ddiddorol a gwerthfawr ar gyfer haneswyr cymdeithasol
a lleol. Ond ei brif effaith a'i enwogrwydd oedd iddo
greu adwaith seicolegol o waseidd-dra ymhlith y Cymry
wrth iddynt geisio gwrth-brofi y sen ar eu moesoldeb
a'u hiaith a achoswyd gan yr adroddiad.
Tudalennau perthnasol i Ddyffryn Nantlle o'r Llyfrau Gleision
»» Clynnog (331Kb)
»» Llandwrog [2 dudalen] (612Kb)
»» Llanllyfni (299Kb)
»» Llanwnda (292Kb)
»» Rhestr Ysgolion Sul [2 dudalen] (699Kb)
Mae'r
ddogfen yma yn cynnwys dwy dudalen, ond i'w darllen
mae
angen ei thrin fel un
tudalen
fawr. Awgrymwn i chi argraffu'r ddwy dudalen a'i
hymchwilio ochr yn ochr. Addaswyd
yr erthygl yma o Wikipedia
Mae adroddiad llawn y Llyfrau
Gleision ar gael yn Llyfrgell
Cenedlaethol Cymru
Mae'r
wybodaeth ar gyfer CARNARVON (Sir Gaernarfon
[adnabyddir yn awr fel Gwynedd]) ar gael ar dudalennau
20-45. |