Traed Trysor Ifanc

Cerdded llwybr iechyd

 
 
 

Camu ‘mlaen yn Nyffryn Nantlle yn 2006

Traed Trysor Ifanc: Cerdded llwybr iechydBeth am ddechrau newydd i’r flwyddyn newydd? Beth am gerdded ym mro eich hunain a mwynhau eich ardal bleserus gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd, cefn gwlad a’r arfordir. Yn Nyffryn Nantlle mae 9 o lwybrau wedi eu clustnodi gydag arwyddion o berson yn cerdded gyda chalon goch. Mae’r llwybrau ar eich stepan drws yn dilyn ffyrdd, llwybrau neu’n mynd ar draws gaeau. Maen’t yn cylchdroi gyda gwahanol bellteroedd sef 1-2 milltir, rhai rhwng 2-2.5 milltir a rhai dros 2.5 milltir. Beth am fynd ar hyd Llwybr Cilgwyn gyda golygfeydd hardd o’r Wyddfa a’r arfordir, neu dilynwch y cylchlwybr byr trwy Bentref Penygroes a’r cefn gwlad cyfagos.

Mae’r llwybrau yn addas i bawb gan gynnig cyfle i unigolion sydd eisiau gwella eu ffitrwydd. Dylech anelu at gerdded yn weddol gyflym am hanner awr yn ystod y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos. Dylai plant anelu at 60 munud o weithgaredd y diwrnod ac mae cerdded yn cynnig cyfle hawdd i wella iechyd. Os byddwch yn pryderu ynglyn â chychwyn ymarfer yn rheolaidd, gofynnwch i’ch meddyg teulu am gyngor.

Mae cerdded yn gwneud i chi deimlo’n dda gyda mwy o egni, felly beth am gerdded fel teulu neu gyda ffrindiau gan fwynhau dechrau newydd yn 2006.

Am fwy o wybodaeth, holwch yng Nghanolfan Dechnoleg Antur Nantlle, Penygroes, neu edrychwch am fanylion yn eich siop leol

Ariannir y prosiect gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Y Loteri Fawr a’r Sefydliad Brydeinig Y Galon. Cydlynir y prosiect gan Sefydliad Bwyd, Byw’n Heini a Maethiad, Cymru (ifanc), Prifysgol Cymru Bangor mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ac Antur Nantlle.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys