Urdd Gobaith Cymru

Cylch Dyffryn Nantlle

 
 
 

Penwythnos Glan-Llyn ~ Hydref 2006

Cafodd disgyblion blynyddoedd 8 a 9 Ysgolion Eryri benwythnos gwych yn Glan-Llyn yn ddiweddar. Roedd y tywydd yn braf a phawb, gan gynnwys 14 o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle, wedi mwynhau eu hunain yn fawr iawn.

Cafwyd cyfle i Fowlio Deg, Adeiladu Rafft, Canwio, Chwarae Unihoc, mynd ar y cwrs rhaffau ac fel y gwelir yn y llun mynd ar y wal ddringo.

Genod Dyffryn Nantlle cyn mynd ar y wal ddringo
Llun: Genod Dyffryn Nantlle cyn mynd ar y wal ddringo.

Bechgyn Dyffryn Nantlle yn adeiladu rafft
Llun: Bechgyn Dyffryn Nantlle yn adeiladu rafft.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys