Digwyddiadau
Hydref - Rhagfyr 2005
Disgo
Cafwyd
lot o hwyl a sbri Nos Iau Tachwedd 9fed, yn Neuadd
Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes. Cynhaliwyd disgo
cylch Dyffryn Nantlle a daeth llwyth o blant i fwynhau
yn yr hwyl. Daeth plant o Ysgol Bro Lleu, Ysgol Nebo,
Adran Rhosgadfan, Adran Carmel ac Adran y Groeslon
at eu gilydd i ddawnsio i gerddoriaeth y DJ John Pritchard.

Llun: Aled
a Gwydion
Bu’r
siop yn boblogaidd iawn gyda’r bobl ifanc yn
gwario eu pres ar ddiod a chreision!!
 
Lluniau: Genod Nebo (chwith) a genod
Y Groeslon (dde)
Diolch
i bawb am gefnogi y disgo ac i Sara Angharad a fu’n
brysur yn helpu i werthu’r nwyddau. Diolch hefyd
i John Pritchard a Meical John y D.J.’s ac i’r
athrawon a arweinyddion am rhoi ei amser fynu er mwyn
galluogi’r plant i fwynhau!!
Glanllyn
Bu
rai o bobl ifanc blynyddoedd 8 a 9 Ysgol Dyffryn Nantlle
yng Ngwersyll Glan Llyn ar ddiwedd mis Hydref, gyda
tywydd ardderchog cafwyd llawer o hwyl.
Euro-Disney
Eto
aeth nifer o bobl ifanc Ysgol Dyffryn Nantlle ar drip
Talaith y Gogledd i Euro-Disney i Baris yn ystod yr
hanner tymor.

Sglefrio
Iâ
Aeth
llond 7 bys o Eryri i Lannau Dyfrdwy i Sglefrio Ia
yn ddiweddar gyda nifer o’r rhain o Ysgol Dyffryn
Nantlle – a neb yn landio yn yr ysbyty eleni!!!
 
Gig
Nadolig
Nos
Fawrth y 29ain o Dachwedd cynhaliwyd Gig Nadolig yr
Urdd yng nghlwb Nôs yr Octagon ym Mangor. Cafwyd
perfformiadau byw gan Richochet a Frizbee a cherddoriaeth
gan Y DJ Slei. Aeth criw o Ysgol Dyffryn Nantlle i'r
gig gan fwynhau eu hunain yn fawr iawn.

Llun: Genod
Dyffryn Nantlle
|