Digwyddiadau
Ionawr - Mehefin 2006
Glanllyn
Aeth
nifer fawr o aelodau'r Urdd o Ddyffryn Nantlle am benwythnos
i Glanllyn ym mis Ebrill. Ar y cyfan roedd y tywydd yn
weddol ond braidd yn oer. Ar y
bore dydd Sul roedd yn bwrw eira!!!! Ond er gwaethaf yr eira fe wnaeth pawb
fwynhau.
Cafodd
y plant gyfle i flasu atyniad newydd sbon yn y Gwersyll
sef y cwrs rhaffau, a'r bachgen mwyaf dewr yn ystod
y penwythnos oedd Gethin o Adran Carmel a gwblhaodd
y cwrs, sydd yn uchel dros ben, heb ddim trafferth.
Yn
y llyniau isod mae hogia Adrannau Llandwrog a Rhosgadfan
yn barod i fynd ar y wal ddringo, hogia Bro Lleu wedi
bod ar y cwrs rhaffau, a genod Bro Lleu yn mwynhau
yn yr haul:
Llun: Hogia Llandwrog a Rhosgadfan
Llun: Hogia Bro Lleu
Llun: Genod Bro Lleu
Mynychodd
plant o Adrannau Carmel, Rhosgadfan, Y Groeslon a Llandwrog,
ynghyd a phlant o Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Baladeulyn
i'r gwersyll eleni.
Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2006
Roedd
wythnos yr Eisteddfod yn un arbennig iawn, yr haul
yn tywynu (heblaw am y dydd Llun!!), a nifer fawr o
Ddyffryn Nantlle yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau
ac yn cystadlu.
Yn
y cyngerdd agoriadol nos Sul roedd Sara Angharad o
Adran Rhosgadfan yn perfformio gyda Ysgol Glanaethwy.
Dydd Llun Manon Wyn o Aelwyd Llandwrog yn ennill y
Fedal Lenyddiaeth, a'r grŵp pop poblogaidd o Ysgol
Bro Lleu "Pwy S'isio Hogia" yn derbyn yr
ail wobr yn y gystadleuaeth Band Bl. 6 ac Iau, llongyfarchiadau
calonog i Manon Wyn ar ei llwyddaint ac i'r band hefyd
wrth gwrs.
Dydd
Mawrth roedd Catrin Thomas o Garmel yn cystadlu yn
y Llefaru Bl. 3/4 ynghyd a Grŵp Cerddoriaeth Creadigol
Adran Carmel. Dydd Mercher roedd Gwenno Edwards, Ysgol
Dyffryn Nantlle yn cystadlu yn yr Unawd Chwythbrennau
Bl. 7, 8 a 9. a dydd Iau Rhys Jones, Ysgol Dyffryn
Nantlle yn cystadlu yn yr Unawd Pres Bl. 10-13, ac
wedyn dydd Gwener Manon Wyn o Aelwyd Llandwrog unwaith
eto yn llwyddiannus yn derbyn yr ail wobr yng nghystadlaeth
y Goron, Bethan Wyn Williams o Adran Rhosgadfan yn
canu gyda chor Cerdd Dant a Chor SATB Ysgol Syr Hugh
Owen a dderbyniodd yr ail wobr yn y ddwy gystadleuaeth,
a Chor Gwerin a Parti Merched Ysgol Dyffryn Nantlle
yn cystadlu hefyd.
Llun: Parti Merched Ysgol Dyffryn Nantlle
Yn
ogystal i'r cystadlaethau ar y llwyfan derbyniodd y
canlynol wobrau gyda'r Celf a Chrefft:
• Graffeg Cyfrifiadurol Bl. 2 neu Iau - Guto Hughes, Adran Y
Groeslon
• Gwau/Crosio Bl. 2 neu Iau - Emma Louise, Ysgol Bronyfoel
• Pypedau Bl. 7 ac 8 - Grug Muse, Ysgol Dyffryn Nantlle
Llongyfarchiadau i bawb. |