Urdd Gobaith Cymru

Cylch Dyffryn Nantlle

 
 
 

Sefydlu Uwch Adran / Aelwyd

Mae’n fwriad gan yr Urdd gychwyn Uwch Adran/Aelwyd ar gyfer pobl ifanc ardal Dyffryn Nantlle. Gobaith y cynllun yw cynnig amrywiaeth o weithgareddau wythnosol/pob pythefnos ar gyfer pobl ifanc dros 12 oed, ac i gael tîm o bobl ynghyd i redeg yr Adran. Byddai hyn yn osgoi rhoi pwysau gormodol ar unigolyn, ac felly bydd modd cynnig gweithgareddau hwyliog o bob math i ieuenctid yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhaglen o weithgareddau yn cael eu cynnig i Uwch Adrannau Rhanbarth Eryri eisoes a’r gobaith ydi bydd aelodau’r Uwch Adran/Aelwyd Dyffryn Nantlle yn ymuno yn y gweithgareddau yma. Mae Uwch Adrannau/Aelwydydd llwyddiannus iawn wedi eu sefydlu ers nifer fawr o flynyddoedd yn Chwiliog, Llithfaen a Bethel ac Uwch Adran newydd ym Mangor. Fel mae nifer fawr yn cofio bu Aelwyd yr Urdd lwyddiannus ym Mhenygroes yn y gorffennol.

Mae cyfarfod anffurfiol wedi ei drefnu er mwyn sefydlu’r cynllun cyffrous hwn yn Ysgol Bro Lleu ar Nos Lun Gorffennaf 17 am 7.30 o’r gloch.

Os am unrhyw wybodaeth pellach cysylltwch a Guto Williams, Swyddog Datblygu Eryri (01248 672102 / guto@urdd.org) neu Sulwen Roberts, Ysgrifennydd Cylch Dyffryn Nantlle (01286 831401 / 07780 633971/ sulwen@cym.ro).

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys