Digwyddiadau
Tachwedd - Rhagfyr 2006
Newyddion Cyffredinol
Yn anffodus roedd yn rhaid gohirio’r disgo/gig
ar yr 16 o Dachwedd, ond mae wedi ei ail drefnu ar gyfer
nos Iau y 1 o Chwefror, 2007 yn Neuadd Ysgol Dyffryn
Nantlle ar gyfer plant oedran cynradd y Cylch.
Yn ogystal
a disgo John Pritch (Champion FM) bydd "Rhun Williams
a’r Band" yn perfformio – grwp ifanc
newydd addawol o Ddyffryn Nantlle yw’r rhain, ac
mae pawb yn edrych ymlaen i’w clywed ar y noson. Gala Nofio Cynradd Eryri
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant
yn Gala Nofio Cynradd Eryri a gynhaliwyd ym Mhwll Nofio
Bangor ym mis Tachwedd:
• Rhydd Bechgyn
Bl. 3/4: 3ydd – Cai Holdsworth, Adran
Rhostryfan
• Rhydd Merched Bl. 3/4: 2il – Anni
Williams, Ysgol Bro Lleu • Pili Pala Merched Bl. 3/4: 1af – Anni
Williams, Ysgol Bro Lleu • Cyfnewid Rhydd Merched Bl. 3/4: 2il – Ysgol
Bro Lleu
• Cyfnewid Cymysg Merched Bl. 3/4: 2il – Ysgol
Bro Lleu

Llun: Ysgol Bro Lleu - Râs Gyfnewid
Merched Bl. 3/4 (dau 2il + Anni Williams).
Bydd Anni Williams yn awr yn
cynrychiolir Eryri yn y Gala Nofio Cenedlaeth ym Mhwll
Nofio Cenedlaethol Cymru, Abertawe. Bob lwc i ti Anni. Uwch Adran Dyffryn Nantlle
Braf iawn yw cael dweud fod Uwch Adran Dyffryn Nantlle
wedi cael dechrau ardderchog gyda dros 50 o bobl ifanc
wedi mynychu y sesiynau cyntaf yn ystod mis Hydref, Tachwedd
a Rhagfyr. Pobl ifanc yw’r rhain o flynyddoedd
7 ac 8 Ysgol Dyffryn Nantlle o Garmel, Clynnog Fawr,
Groeslon, Llanllyfni, Nantlle, Nebo, Penygroes, Rhosgadfan,
a Thalysarn.
Yn ogystal bydd pobl ifanc o flynyddoedd
10, 12 ac 13 Ysgol Dyffryn Nantlle, myfyrwyr Coleg
y Brifysgol, Bangor a nifer fawr o rieni yn cynorthwyo
yn ystod y flwyddyn. Pictionary
Nos Fawrth 14 Tachwedd, 2006 daeth nifer fawr o bobl
ifanc i’r sesiwn "Pictionary" yn Uwch
Adran newydd Dyffryn Nantlle yn Neuadd Llanllyfni. Roedd
pawb wedi cael llawer o hwyl yn dyfalu beth yn union
oedd y lluniau, ond yr enillwyr terfynnol oedd tim y "Fruity
Girls" gyda’r "Clever Girls" a’r "Dumb
and Dumbers" yn ail agos.

Llun: Uwch Adran - Noson Pictionary.
Diolch yn fawr i Iola
ac Elain am eu hamser i gynnal y sesiwn ac i Nia am
ei chymorth. Peldroed Rhyngwladol
Aeth rhai o aelodau’r Uwch Adran i’r Cae
Ras yn Wrecsam ar gyfer gem beldroed ryngwladol rhwng
Cymru a Lichtenstein ar drip wedi ei drefnu ar gyfer
Uwch Adrannau Eryri. Diolch i Sara Angharad a Craig Bee
am eu cymorth ar y noson.
Noson Cwis
Nos Fawrth 22 Tachwedd, 2006 cynhaliwyd "Noson
Cwis". Ifan Glyn oedd y Cwis Feistr a Sulwen yn
ceisio ei gorau i gadw sgôr. Rhannwyd y bobl ifanc
yn ddau dîm - "Chickens Dyffryn Nantlle United" a "Monstyrs
Blwyddyn 7".
Cyn yr ornest fawr cafwyd gêm
gynhesu gyda’r unig dri bachgen ar y noson sef
Aled, Iwan a Darragh ynghyd â Jess, Fflur ac
Alys yn cymryd rhan.

Llun: Uwch Adran - Noson Cwis.
Yn dilyn nifer o rowndiau cyffrous
tu
hwnt gan gynnwys "Gwybodaeth Gyffredinol"; "Pwy ‘di
Pwy"; "Beth yw Hwn"’ a "Darllen
Lleu" y sgôr terfynol ar y diwedd oedd
... "Monstyrs" -
52 â’r "Chickens" - 66!! Diolchwyd
i Ifan Glyn am noson arbennig gan Jess. Arweinyddion yr Uwch-Adran
Aeth arweinyddion yr Uwch Adran sef Nia Evans, Nia Roberts
a Sulwen Roberts i Goleg Llandrillo ar y 27 Tachwedd
ar gwrs arweinyddion Talaith y Gogledd.

Llun: Nia a Sulwen ar Gwrs Arweinyddion.
Trip cyntaf yr Uwch-Adran
Nos Fawrth y 5 o Ragfyr aeth trip cyntaf Uwch-Adran
Dyffryn Nantlle i Barc Glasfryn, Y Ffôr i Fowlio
Deg.

Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.
Daeth 26 o aelodau a ffrindia at eu gilydd i fwynhau
noson o fowlio a chymdeithasu gyda phawb wedi cael
lot o hwyl, rhai yn bowlio am y tro cyntaf ac yn troi
allan
i fod yn chwaraewyr ardderchog, eraill yn anffodus
ddim mor dda ac eraill!

Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg. Rhannwyd pawb i bedwar grwp ac enillwyr
y grwpiau oedd Fflur, James, Sulwen a Llinos, gyda
Llinos yn ennill y wobr am y chwaraewraig a’r marciau
uchaf ar y noson!! Gwych iawn Llinos! Er hynny heb
ddim amheuaeth chwaraewr gorau y noson oedd James – dim
ond 7 oed yw James, yn ddisgybl yn Ysgol Bro Lleu ac
yn ennill grwp 1 a oedd gydag aelodau llawer iawn hyn.
Da iawn chdi James!!

Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.
Diolch i Nia am drefnu’r
noson ac i Meinir, Anwen, Sulwen, Sara, Craig a Guto
(Swyddog
Datblygu Eryri) am eu cymorth ar y noson.

Llun: Uwch Adran - Bowlio Deg.
Adrannau
Adran Rhostryfan
Cynhaliwyd sesiwn o hwyl yn Adran Rhostryfan brynhawn
dydd Llun 13 Tachwedd ble cafodd y plant y cyfle i chwarae
gwahanol gemau. Roedd y plant yn hoffi’r gêm "barashwt" yn
fawr iawn a chael y cyfle i chware’r gêm "corneli" a’r
gêm "pen a chwnffon".
Adran Carmel
Cafwyd noson arbennig o wahanol gemau hefyd yn Adran
Carmel ar ddechrau mis Tachwedd gyda pawb yn mwynhau
a chymeryd rhan mewn nifer o wahanol gemau. Bu’r
plant hefyd yn brysur iawn yn paratoi cardiau penblwydd
i "Mistar Urdd" sydd yn dathlu ei benblwydd
yn 30 oed eleni.
Bob lwc i bawb yng nghystadleuath Eryri
ar gyfer gwneud cerdyn penblwydd i "Mistar Urdd" gyda
cerdyn yr enillydd yn ymddangos yng nghylchronnau’r
Urdd. Adran Ysgol Felinwnda
Mae nifer o wahanol weithgareddau wedi eu cynnal yn
Adran Ysgol Felinwnda gan gynnwys sesiwn Bingo a daeth
Sulwen, Swyddog Datblygu Cynorthwyol Eryri, draw i gynnal
prynhawn o gemau.

Llun: Ysgol Felinwnda - Sesiwn Gemau.
Fe wnaeth pawb fwynhau y gemau "Pen
a Chynffon" â’r "Gem Corneli",
ond y gem barashwt oedd uchafbwynt y prynhawn a’r
plant i gyd o flwyddyn 1 hyd blwyddyn 6 wedi mwynhau’r
gemau "Sharcod", "Cath a Llygoden" a "Peldroed
y Parashwt". Adran Ysgol Dyffryn Nantlle
Aeth 70 o aelodau Adran Ysgol Dyffryn Nantlle ar drip
Rhanbarth Eryri i Sglefrio ar Lannau Dyfrdwy Nos Wener
24 Tachwedd.

Llun: Ysgol Dyffryn Nantlle - Sglefrio
Glannau Dyfrdwy.
Fe wnaeth y bobl ifanc a’r athrawon
i gyd fwynhau sglefrio ar yr ia, rhai yn fwy na’i
gilydd!!!

Llun: Ysgol Dyffryn Nantlle - Sglefrio
Glannau Dyfrdwy.
Rhagor o wybodaeth
Os am fwy o fanylion o unrhyw weithgareddau’r
Urdd yn Nyffryn Nantlle, cysylltwch a Sulwen Roberts
ar sulwen@urdd.org neu 07780
633971.
Gweler hefyd Wefan
Swyddogol Urdd Gobaith Cymru . |