Sefydlwyd Côr Meibion
Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Arfon ym 1932, a blynyddoedd
celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.
Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd
criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd
i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.
Gwahoddwyd C. H. Leonard, brodor o Rydaman a ddaeth yn athro
Ffiseg i Ysgol Ramadeg Penygroes ym 1922, i arwain y côr.
Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd
y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan anatod o fywyd
Dyffryn Nantlle.
Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl
yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog
i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau
faestroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg
yn ogystal a rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad.
Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu, ac oddi ar hynny
y mae ymron i 300 o ddarllediadau, yn ogystal a thelediadau
a chyngerddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr y
tu cefn iddynt.
Wyneba'r côr y dyfodol yn hyderus. Deil yr aelodau
i ymarfer unwaith neu ddwywaith yr wythnos fel bu'r galw,
ac ar waethaf ansicrwydd gwaith a dirwasgiad arall, a mae
teyrngarwch a fIyddlondeb y côr i'w harweinydd mor
ddiffuant ac erioed. Trylwyredd yr arweinydd, a theyrngarwch
yr aelodau yw cyfrinach y llwyddiant.
Hywel Parry, Rhagfyr 1969
Dyma'r llun clawr o record gyntaf y côr:
Mrs. Megan Davies - Alawes Llyfnwy oedd y gyfeilyddes ar
ei gyfer.
(Y
manylion ar gefn y clawr)
|