Llinell Gyswllt Dyffryn Nantlle a Delta PA
Diolch i Pam Myers o Delta, Pennsylvania, Unol Daleithiau
America, am gysylltu â nantlle.com ar ôl
darllen am lwyddiant cynllun i adfer hen adeiladau
chwarel Pen-yr-Orsedd. Daeth y cynllun i’r brig
drwy Gymru ar raglen deledu ‘Restoration Village’.
Diolch hefyd am anfon y lluniau o hen dai’r chwarelwyr
a welir isod.
Llun: Manylion adfer hen adeiladau
chwarel Pen-yr-Orsedd a welodd Pam Myers ar wefan y
BBC.
Ysgrifennodd Pamela Myers:
‘Rwyf wedi bod yn mwynhau gwefan nantlle.com ac
mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hanes un cynllun
a welais arni sef cynllun adfer adeiladau
Pen-yr-Orsedd.
Rwyf yn byw yn Delta, Pennsylvania ac yn aelod o Gapel
Cymraeg Rehoboth yn y dref ac yn cael gwersi Cymraeg
yno bob wythnos. Mae Côr Rehoboth wedi ymweld â Chymru
ddwywaith ac wedi ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yn 1998.
Hen
ardal chwarelyddol yw Delta ac yn ystod yr 1800au fe
ymfudodd nifer fawr o bobl o ardal Blaenau Ffestiniog
yma i weithio yn y chwareli llechi. Mae diddordeb yma
o hyd yn hanes y chwarelwyr er bod y rhan fwyaf o’r
chwareli wedi cau ers y 1940au.
Llun: Carreg Fedd mewn mynwent yn
Delta, PA. Mae'r ysgrif arni yn darllen: "Er Cof am
William mab Robert ac Eleanor Lloyd, yr hwn a fu farw
Gorphenaf 17, AD 1859 yn 1 flwydd 9 mis a 14 diwrnod
oed. Mewn bwthyn clud fe'i ganwyd,
Yn nghaliffornia
dir,
Yn Havre de grace bu farw,
Yn dawel rol cyrhaedd
tir,
Ac yma mae o yn gorphwys,
Yn dawel yn y bedd,
Hyd foreu fe'i hadferir,
I fyw i
wlad yr hedd."
Mae’n bwysig fod plant heddiw yn cael cyfle
i ddysgu am hanes cyfoethog eu hardal. Felly fe gynhaliwyd
diwrnod treftadaeth arbennig ar Hydref 25 2006 er mwyn
i blant ysgolion lleol gael cyfle i ddysgu am gefndir
yr ardal – cafodd y plant gyfle i hollti llechi,
ymweld a’r capel, ‘darllen’ yr englynion
a’r penillion Cymraeg sydd i’w gweld ar
y cerrig yn y fynwent a hefyd cawsant gyfle i flasu
teisennau cri!
Llun: Carreg
Fedd mewn mynwent yn Delta, PA. Mae'r ysgrif arni yn
darllen:
"Er Cof Am Jane J.Jones. Cynt o Festiniog.G.C.
Bu farw Awst 22, 1872.
Oed, 61 mlwydd.
Gorphwysaf yma yn dawel,
Yn mhlith y pryfed man;
Can's Crist, fy mrawd, y dwymodd,
Y gwely pridd o'm blaen.
Does yma son am rhyfel,
Na therfysg o un rhyw;
Ond pawb yn llechu'n dawel,
Nes cenir Udgorn Duw."
Adfer
Mae rhai o’r hen fythynnod a adeiladwyd gan
y mewnfudwyr o Gymru yn dal i sefyll ac maent dros
150 o flynyddoedd oed erbyn hyn. Mae nifer wrth gwrs
yn dai preifat ond mae eraill yn wag ac mewn cyflwr
digon bregus. Mae amgueddfa ‘The Old Line Museum’ wedi
prynu dau o’r bythynnod sydd wedi eu hadeiladu
o garreg ‘Cardiff Conglomorate’ gyda tho
llechi, a byddant yn chwilio am grantiau i’w
cynorthwyo gyda’r gwaith o’u hadfer i’w
cyflwr gwreiddiol. Yr ydym wedi sefydlu grwp o’r
enw ‘Friends of Welsh Cottages’ i helpu
gyda’r gwaith.
Lluniau: Y bythynnod sydd wedi eu prynu gan
amgueddfa ‘The
Old Line Museum’ ac a fydd yn cael eu hadfer gan
grwp ‘Friends
of Welsh Cottages’.
Byddwn yn dal i edrych ar eich gwefan ac yn gobeithio
y bydd cynllun Pen-yr-Orsedd yn datblygu ac yn llwyddo
yn y dyfodol.
Gwybodaeth ychwanegol
»» Chwarel
Pen yr Orsedd, Nantlle, ar wefan Restoration
Village y BBC (yn
cynnwys gwybodaeth hanesyddol, oriel luniau a 'virtual
tour')
»» Archif
Fideo Pen yr Orsedd (mae
plant o ysgol Nantlle wedi ymuno a'r grwp treftadaeth
lleol er mwyn mynd am dro i chwarel Pen yr Orsedd)
»» Pen
yr Orsedd ar wefan Restoration Village y BBC -
Datganiad i'r Wasg ar 01-09-2006
05.12.2007: Diweddariad o Delta PA
"More from Coulsontown"
Here are some updated photos of the cottages and the latest news from Coulsontown:
The Museum in Delta has
been chosen to take part in a pilot program for heritage
tourism
in York County,
PA, which is a great opportunity. There's a great deal
to be done, however, since the Museum has been sort
of a "mom-and-pop" effort
over the years.
Sorry to learn that Pen yr orsedd is at a standstill,
but they mustn't lose heart! Things will work out for
them eventually.
Keep well,
Pam.
02.03.2009: Diweddariad arall o Delta PA
Annwyl Cyfeillion (I hope I spelled that right...)
At long last, I've managed
to get us on the Web!! Dic Baskwill - our Chapel
minister - has looked it
over
and pronounced it a good start. Now I need you, my
dear Welsh friends, to check it out and let me know
what you think... whether I've done us (and you)
any justice. It's only a beginning, but finally folks
can
see some of why we're passionate about promoting
our Welsh heritage in Delta. Well - their Welsh heritage
anyway, since I still can't find my Jenkins ancestors'
place of origin...
I do welcome any and all
suggestions and feedback.
Hwyl fawr a cariad i chi
gyd,
Pam |