Gŵyl Fai 2008

14eg Ŵyl Fai Dyffryn Nantlle

 
 
 

Mai 10 – 18, 2008

Wrth rannu dros £6,500 yn nhafarn y Goat Penygroes yn ddiweddar, anodd yw credu fod Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle wedi cychwyn nôl ym 1995 ac wedi casglu mwy na £70,000 i achosion da ers hynny.

Eleni cyflwynodd yr Ŵyl £5,000 i Ganolfan Niwroleg Walton a rhannwyd £1,300 i achosion lleol. Penderfynodd y pwyllgor gefnogi Canolfan Walton er cof am Guto Williams, un o blant y Dyffryn, fu farw yno’n 16 oed yn dilyn damwain fis Awst y llynedd. Er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth a gafodd ei deulu gan feddygon a staff yr ysbyty, bu hwythau hefyd yn casglu arian i’r Ganolfan. Teithiodd dau Ymgynghorydd a nyrsys o Lerpwl i gyfarfod Gwynfor a Nesta Williams, rhieni Guto, a’r teulu yn y Goat ac i dderbyn siec o £8,108 ganddynt. Roedd £2,000 eisoes wedi eu hanfon i’r gronfa o wahanol ffynonellau sydd yn gwneud cyfanswm terfynnol o £15,000 fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer holl bwysig fydd o fudd i’r uned yn y dyfodol.

Bu’n wythnos lawn o weithgareddau eleni eto a chychwynnodd pethau gyda thaith feics noddedig 35 milltir. Trefnodd staff y llyfrgell grefftau i’r plant bach a chafwyd dawnsio disgo yn Neuadd Goffa Penygroes. Aeth yr wythnos ymlaen gyda helfa drysor a noson o ddramâu gyda dau gwmni lleol yn actio sef Brynrhos a’r Plant Afradlon a Lleisiau Mignedd yn canu. Yna, daeth beirdd yr ardal ynghyd i ymryson yn Nhalwrn y Beirdd gyda Mei Mac yn feuryn ac Alun Ffred yn cadw’r sgôr. Yn ogystal â hyn, cafwyd cwis tafarn, bingo, noson gomedi gyda Tudur Owen, Beth Angell a Dewi Rhys, twrnamaint bowlio a golff a rali motor beics. Agorodd Band Nantlle'r ‘Sbri yn Sgwâr y Farchnad’ a gwahoddwyd pawb i wario ar y stondinau, peintio wynebau, cystadlu ar wisg ffansi a chwarae gemau.

Mae llwyddiant Gŵyl Fai yn profi fod cymdeithas fywiog a thrigolion caredig a hael yn Nyffryn Nantlle. Mae’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth, cyfraniad a nawdd a gafwyd, ac edrychir ymlaen yn eiddgar am ŵyl arall brysur yn 2009.

Digwyddiadau Gŵyl Fai 2008

Sad Mai 10

Taith Feics Noddedig - Taith oddeutu 40 milltir.

Llun Mai 12

6.30 – 8.00pm Disgo John Pritchard yn arbennig i blant hyd at 11 oed yn Neuadd Goffa Penygroes.

Mawrth Mai 13

6.00pm Helfa Drysor mewn car i’r teulu. Cychwyn o Ganolfan Cymdeithasol Talysarn.

Mercher Mai 14

7.30pm Noson ddrama yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle. Cwmni newydd Plant Afradlon / Cwmni Brynrhos a Lleisiau Mignedd.

Iau Mai 15

7.30pm Talwrn y Beirdd yn Neuadd Goffa Penygroes. Meuryn - Mei Mac. 3 tîm yn cystadlu.

9.00pm Cwis Tafarn yn y Goat dan ofal Rhys a Iolo.

Gwener Mai 16

Noson Bingo i’r teulu yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle.

Sadwrn Mai 17

11.00am ‘Sbri yn Sgwâr y Farchnad’. Stondinau, Band Nantlle a gweithgareddau lu oedd yn cynnwys cystadlaethau Gwisg Ffansi (babanod a cynradd) beirniadu am 1:00pm, peintio wynebau, gemau a mwy – digon o hwyl a haul.

8.00pm Noson Gomedi – Tudur Owen, Beth Angell, Dewi Rhys yng Nghlwb Rygbi Caernarfon.

Sul Mai 18

11.00am Twrnament Bowlio – Clwb Ex-Service.

11.00am Rali motor beics – o Ganolfan Cymdeithasol Talysarn.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys