Sant John
Jones ~ 1574
(neu 1575) - Gorffennaf 12 1598
Gwir enw’r gwr oedd Griffith Jones ac fe’i
ganwyd yng Nghlynnog ym 1574 neu ’75. Clynnog
Fawr yn Arfon oedd Eglwys Sant Beuno o’r seithfed
ganrif, ac fe ddaeth yn fynachlog i’r Benedictiaid
ac i’r Carmeliaid yn eu tro. Ger y capel lle
cedwid llwch corff Beuno, cododd Harri Tudur yr eglwys
golegol ysblennydd sydd yn un o ragoriaethau pensaernïol
ein gwlad. Cyn hir wedyn daeth taw ar offerenna a phaderu
yn y lle, ond parhaodd olion y ffydd yn hir iawn yng
Nghlynnog. O’r pentre bach hwn y daeth Wiliam,
brawd John, i fod yn un o brif wyr Urdd y Benedictiaid
yng nghyfnod diwygiad mawr yr urdd honno, ac yn sefydlydd
Mynachlog Cambrai. O’r un pentref y daeth, rai
blynyddoedd ynghynt, Dr. Morus Clynnog a benodwyd,
ym 1578, yn Rheithor Cyntaf yr Athrofa Seisnig newydd
i offeiriaid yn Rhufain. (Bu ond y dim i Morus Clynnog
lwyddo i droi’r Athrofa Seisnig yn Athrofa Gymreig,
a phwy a wyr pa wahaniaeth fyddai hynny wedi ei wneud
i hanes ein gwlad.) Yr oedd nai i Morus Clynnog, y
Tad Morgan Clynnog, a oedd ychydig yn hyn na Griffith
a Wiliam Jones, i fod yn offeiriad i Babyddion Cymru
am 37 o flynyddoedd, ac i’w enwebu yn Esgob Cymru
gyfan yn 1615.
Ni fu unrhyw urdd o fynaich yn debycach i rai oes
y saint na’r Ffransisciaid o ran eu brwdfrydedd
a’u tlodi, ac fe ddylanwadwyd ar Sant Ffransis
ei hun gan y meudwyon Celtaidd hynny. Roedd yn briodol
felly i un o’r brodyr o Glynnog ymuno ag Urdd
Sant Ffransis ac felly y gwnaeth Griffith, yn Ffrainc.
Cyn hir fe’i hurddwyd yn offeiriad, yng nghapel
mynachlog Pontoise yn ôl pob tebyg, ac yna aeth
i Rufain. Yno fe wnaeth tlodi ac ymroad y Ffransisciaid
myfyriol (aelod o Urdd y Ffransisciaid Cwfeintiol oedd
Griffith ar y pryd) y fath argraff arno nes iddo fynnu
ymuno â nhw ym 1591. Flwyddyn yn ddiweddarach,
cynigiodd ymuno â’r "Genhadaeth i
Loegr" ac fe’i derbyniwyd gan y Pab Clement
VIII mewn cyfweliad arbennig cyn iddo ymadael. Roedd
yn rhaid iddo roi’r gorau i wisg lwyd yr urdd,
a’r sandalau, er mwyn cuddio’i swydd erbyn
cyrraedd Lloegr. Wedi hynny fe’i hadwaenid wrth
yr enw John Buckley neu John Herberd. Cyrhaeddodd Lundain
ac wedyn fe deithiodd i’r gogledd, efallai ar
ei ffordd yn ôl i Wynedd. Fodd bynnag fe’i
restiwyd yn swydd Stafford a’i garcharu ym 1594.
Dair blynedd wedyn fe’i trosglwyddwyd i Lundain,
i’r Marshalsea. Yno cafodd wneud peth gwaith
bugeiliol gan y cyrchai llawer ato. Fe ddygwyd gau-dystion
i ddweud iddynt gynorthwyo’r Tad John i ganu’r
Offeren yn y carchar ac fe’i condemniwyd i farw.
Fe’i dienyddiwyd ar Orffennaf 12, 1598, ryw
ddwy filltir y tu allan i Lundain. Roedd hyd yn oed
y dorf fawr yn Llundain o blaid y brawd hwn o Gymro,
ac fe wrthodwyd gadael i’r cert gael ei dynnu
oddi tano nes iddo orffen siarad. Wrth ei glywed yn
ailadrodd dro ar ôl tro, "Iesu tirion, trugarha
wrth fy enaid", gwawdiodd rhyw Is-farsial ef am
iddo anghofio’r Forwyn Fair. Yna ategodd y Tad
John, "Bendigaid Frenhines y Nefoedd, bydd yn
eiriolwr drosof a gweddïa drosof yr awr hon ac
yn dragywydd". Wedi ei ddienyddio, gosodwyd ei
chwarteri ar bedair coeden gerllaw’r ffordd fawr,
ond credir i un gael ei ddwyn i’r Mynachdy Ffransiscaidd
yn Pontoise. Fe osodwyd ei ben ar bolyn, ond fe ddaeth
cymaint o bobl i’w weld nes i rai swyddogion
ei dynnu i lawr mewn deuddydd a’i anharddu â’u
hewinedd a chyda phowdr-gwn.
Yr Esgob Daniel J. Mullins, 1970
O’r llyfr "Chwech o’n Merthyron sef
hanes y chwech sydd i’w canoneiddio gan y Pab
yn Rhufain ar Hydref 25, 1970. Wedi ei seilio ar Six
Welsh Martyrs gan Dom Julian Stonor, O.S.B. a’r
Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940." Cyhoeddwyd gan
Y Cylch Catholig. |