Sefydlu'r Ganolfan Hanes
Yn Hydref 2002 sefydlwyd pwyllgor i geisio prynu dau
adeilad hanesyddol (Graddfa II CADW) yng Nghlynnog
Fawr, sef yr Ysgoldy a Thŷ’r Capel, a hysbysebwyd
yn y papurau lleol am y swm o £90,000.
Trwy gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru llwyddwyd
i brynu’r ddau adeilad gan Gapel Ebeneser a Henaduriaeth
Arfon yn 2004. Gobeithir yn awr sicrhau digon o arian
i sefydlu Canolfan Hanes arloesol a fydd yn gwasanaethu
nid yn unig bentref Clynnog ond hen gwmwd Uwchgwyrfai
- o Bontnewydd yn y gogledd hyd at Nefyn yn y de, gan
gynnwys Dyffryn Nantlle. (Nid oedd ardal Nefyn
a Llithfaen yn yr hen gwmwd ond maent yn y dalgylch
hwn am resymau hanesyddol a chwedlonol).
Mae’r manylion a gynhwysir dan bentref Clynnog
Fawr yn gyfrwng i agor cîl y drws ar gyfoeth
dihysbydd yr ardal hon, yn chwedlonol, hanesyddol,
diwylliannol, ac o safbwynt byd natur. Un o brif amcanion
y Ganolfan fydd ennyn diddordeb ieuenctid Uwchgwyrfai
yn y cyfoeth sydd wrth eu traed trwy weld a gwneud
pethau diddorol.
Gweler hefyd:
»» Agor
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai (Mehefin 2006)
»» Bywyd
newydd i adeiladau hanesyddol
»» Gwefan
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai |