Cau Capel Uchaf
Caewyd un o gapeli mwyaf nodedig y Methodistiaid Calfinaidd
a hynny bedwar diwrnod cyn y Nadolig.
Y Capel Uchaf, Clynnog Fawr, oedd yr ail gapel hynaf
yn Sir Gaernarfon ac mae'r flwyddyn 1761 ar ei dalcen.
Credir mai yn y capel hwn y dechreuwyd yr ysgol Sul
gyntaf yn y sir a hynny o ganlyniad i anogaeth Thomas
Charles o'r Bala pan fu'n pregethu yno. Dathlwyd ei
deucanmlwyddiant yn 1994 ond mae lle cryf i gredu y
cafwyd ysgol Sul yno bum mlynedd cyn hynny. Dyma gapel
yr enwog Robert Roberts, Clynnog Fawr, a ddilynid gan
dorfeydd i ba le bynnag yr elai yn union fel y denir
hwy at gantorion pop heddiw - ac yn 1993 gosododd Catrin
Parri Huws blac arno i gofio Hywel Tudur, bardd, pregethwr,
dyfeisydd a phensaer.
Ond ar wahân i hynny yr oedd y Capel Uchaf yn
hollol anghyffredin. Dyna ei bensaernïaeth i ddechrau.
Yn y canol, yn union o flaen y sêt fawr, y mae'r
hyn y cyfeiriai'r diweddar Barchedig William Jones,
Y Bwlan, ati fel ‘ynys’: seddau i gyd ar
yr un gwastad a llwybr o'i chwmpas. Ar gyrion y llwybr
mae'r seddau ochr, a'r seddau cefn yn codi ar oleddf.
O ganlyniad i'r siâp hwn mae'r holl aelodau ers
blynyddoedd lawer wedi bod yn eistedd gyda'i gilydd
yn y canol - yn yr ynys - ac nid yn y seddau ger y
drysau fel mewn capeli eraill, nes gorfodi'r pregethwr
i wynebu rheseidiau o seddau gwag a thaflu ei lais
drostynt i gyrraedd gwrandawyr y seddau cefn. Ar derfyn
y gwasanaeth byddai pawb yn sgwrsio â'i gilydd
yn yr ynys ac yn parhau i wneud hynny wrth ymlwybro
tua'r cyntedd a'r drws ac wedyn y tu allan. Nid yw'n
rhyfedd fod y gymuned ei hun wedi bod yn un mor glos
a chynnes ar hyd y blynyddoedd a phregethwyr yn cofio'n
dda y croeso anghyffredin a gaent yno a'r caredigrwydd
dihafal ar yr aelwydydd.
A phwy o'r rhai oedd yn bresennol a allai anghofio'r
eisteddfod honno tua hanner can mlynedd yn ôl
a'r lle yn orlawn? Ar flaen yr oriel yr oedd Richard
Tomos yn chwarae efo wats boced fawr, a Derwydd Hafod-y-Wern
ac Ifor Wyn, Simbil, o bobtu iddo. Yn eistedd yn union
odanynt roedd y drysoryddes, Jini Hughes, Llety, a'r
fowlen bres o'i blaen. Dyna Derwydd â hergwd
sydyn â'i benelin i Richard Tomos. Gollyngodd
yntau'r wats, glaniodd yn y fowlen nes gwasgaru'r pres
i bob cwr o'r sêt fawr a chreu drama ddigri annisgwyl
ar ganol cystadleuaeth.
Yn yr Eisteddfod hon y byddai Jane Jones, Hafod-y-rhiw,
yn adrodd pennod gyfan o'r Beibl ar ei chof yn y gystadleuaeth
adrodd, heb anghofio yr un sill. Byddai hynny'n destun
rhyfeddod i'r oedolion ond yn adeg i'r ieuenctid ffoi
i'r siop gerllaw i brynu fferins. Llais undonnog yn
unig ydoedd iddynt hwy ac artaith oedd gwrando.
Yr oedd rhai aelodau heb fod mor ffyddlon â'i
gilydd a chofir y gweinidog, y diweddar Barchedig W.H.
Owen, yn mynd i ymweld ag un o'i braidd, Mrs Mary Jones,
Tan-y-bwlch, am nad oedd wedi mynychu'r oedfaon ers
tro. Gwrthod a wnaeth gyda'r esgus fod y gorchudd blêr
treuliedig oedd ar sedd y teulu wedi diflannu. Yr oedd
ei thad, John Gruffudd (Jogo y'i gelwid yn ei gefn),
rai blynyddoedd ynghynt wedi cyfrannu'r swm anrhydeddus
o chweugain tuag at drwsio clawdd y fynwent. Ar ddiwrnod
dyrnu ym Maesog, dyna Jogo yn edliw i'r hogiau eu bod
wedi codi'r bwlch ond heb osod y weiren bigog fel yr
addawyd. Dyma'r ateb a gafodd gan William Jones Coedtyno: "Disgwyl
i ti fynd yno rydan ni!"
Nodwedd arall arbennig i'r capel yw ei harddwch. Y
mae'r eisteddleoedd, y sêt fawr, y palis, y drysau,
y nenfwd a hanner isaf y muriau o binwydd pyg. O ganlyniad
i hynny byddai'r sain a greid yno yn berffaith. Yn
yr ugain mlynedd diwethaf, digyfeiliant fyddai'r canu
gan na fyddai yno neb i chwarae'r offeryn ond byddai'r
diweddar Robert Lewis, Coedtyno, yn estyn ei fforch
diwnio o'i boced a cheid canu nefolaidd heb na thuchan
harmoniwm na llifeiriant organ i foddi'r geiriau. Llwyddodd
ei olynydd, Dafydd Wyn Owen, Garn Fawr, i greu yr un
naws ac awyrgylch yn ddiweddarach.
Y mae'n wir mai ychydig o ffyddloniaid a fynychai'r
oedfaon yn y Capel Uchaf erbyn mis Rhagfyr ond yr oedd
yr ysgol Sul yn dal i ffynnu a deuddeg o blant a dwy
athrawes yn eu dysgu. Ar achlysuron arbennig ceid cynulleidfa
deilwng. Mae'r golled iddynt hwy oll ac i genedlaethau'r
dyfodol yn anfesuradwy ac ni fydd neb yn deall y geiriau.
Lleu, Chwefror 2001 |