Cromlechi Clynnog Fawr yn 1769
Cyfieithiad yw hwn o deitl Richard Farrington
i un o’i deithiau yn Eryri mewn llawysgrif
yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (N.L.W. MS 1118C)
a chrynhoir ei
sylwadau fel a ganlyn.
Cromlech Bachwen
Mae iddi faen mawr hirgul yn ffurfio math o fwrdd
sydd yn gogwyddo tuag at y machlud a phedwar maen yn
ei chynnal.
Mae hi’n nodedig iawn am fod ynddi dros
100 o dyllau bychain yn cydredeg.
Yn ôl Richard Farrington, roedd y tyllau hyn
rhwng modfedd a chwarter modfedd o ddyfnder. Ond roedd
tri ohonynt yn fwy na’r gweddill ac yn ffurfio
rhyw fath o driongl.
Roedd y rhain yn dair modfedd a hanner ar draws a
thua modfedd a hanner o ddyfnder.
Llun: Darlun o Gromlech Bachwen
gan Richard Farrington.
Gallai ddychmygu rhyw ddefod gan y derwyddon,
efallai pan lenwid y tri thwll mawr â dŵr swyn a’r
rhai lleiaf yn cynnwys hadau ŷd neu ryw fwyd arbennig
i’r adar cysegredig oedd ganddynt. Byddai sut
y byddai’r adar yn ymddwyn, efallai, yn rhagfynegi’r
dyfodol, meddai ef.
Llun: Cromlech
Bachwen yn y flwyddyn 2006 (gan Eric Jones).
Olion eraill gerllaw
Gerllaw iddi, meddai, mae olion carnedd fawr
a dwy o rai eraill llai ac o fewn deg cam ar hugain
iddi
yr oedd carreg fawr isel â phen crwm iddi (sydd
yn gyffredin gerllaw cromlechi).
Cromlechi Pen-yr-allt
Ar yr ochr uchaf i gae ym Mhen-yr-allt, bu
tair cromlech efo’i gilydd ar un adeg (rhai o’r
math lleiaf). Roedd dwy ohonynt wedi eu difrodi erbyn
1769
a chlywodd Richard Farrington fod rhywun wedi dweud
iddo fod yn llygad dyst i symud y maen mawr oedd ar
un ohonynt. Erbyn 1769, meddai Richard Farrington,
yr oedd y maen hwnnw wedi ei osod yn un o waliau ysgubor
Pen-yr-allt.
Cromlechi Cae’r Goetan
a Chae’r Beudy Coch
Mewn cae cyfagos o’r enw Cae’r Goetan,
meddai Richard Farrington, yr oedd enghraifft dda o
Gromlech ar ffurf pyramid. Roedd hi’n dal yn
gyfan ond bod un o’r pedair colofn oedd yn ei
chynnal wedi symud. Roedd y tair arall yn dal ar eu
traed ac yn dal yn eu lle fel y dangosir yn y llun
ac roedd y garreg fawr isel sydd fel arfer yn gysylltiedig â chromlechi
i’w chael yma hefyd.
Llun: Darlun Richard Farrington o Gromlech Cae’r Goetan
Yn y cae nesaf o’r enw Cae’r Beudy Coch
roedd piler dri chufydd o’r ddaear yn meinhau
tuag i fyny.
O fewn pum cufydd iddo roedd carreg fawr wastad arall
wedi ei gosod gyferbyn ag ef yn y ddaear - tri chufydd
a hanner o uchder a thri chufydd a hanner o hyd.
O fewn tri chufydd ar hugain, roedd y garreg a geir
fel arfer gerllaw pob cromlech.
Llun: Darlun
Richard Farrington o Gromlech Cae’r Beudy Coch a’r
tair carreg fawr y cyfeiria atynt Yn y cae hwn ceid cromlech pedwar cufydd o hyd a thri
chufydd o led a phedair carreg yn ei chynnal. Ym mhle yn union yr oedd y
ddwy gromlech?
Awgrymwyd yn y Cylchgrawn Archaeologia Cambrensis
(1974) ac yn Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd Rhif 288 (Arolwg o Ucheldir Gwynedd, 1997:
Bwlch Mawr - Gyrn Goch G1488), mai yng nghaeau Hafod-y-Wern
a Brysgyni yr oeddynt, sef Cyfeirnod Grid: SH41904900A
a SH42404900A.
O astudio Map y Degwm 1840 nid oes enwau o’r
fath ar unrhyw gaeau yn y ddwy ffarm uchod. Ond maent
i’w cael heb fod nepell oddi yno. Mae Cae’r
Goetan a Chae’r Beudy Coch yn parhau i fod yn
enwau ar gaeau ym Mhennarth hyd heddiw ac maent yn
cyd-fynd â disgrifiad Richard Farrington - ‘mewn
cae cyfagos’ (‘in an adjoining field’)
- heb fod o angenrheidrwydd am y terfyn.
Mae Cromlech Cae’r Beudy Coch wedi diflannu.
Ond erys Cromlech Cae’r Goetan ond bod y garreg
fawr (y ‘maen clawr’ yn ôl Geiriadur
Prifysgol Cymru) wedi llithro erbyn hyn.
Llun: Cromlech Cae’r Goetan,
Pennarth yn y flwyddyn 2000
Pan
ymwelodd aelodau o ddosbarth Archaeolegol Penmorfa â Phennarth
ym mis Mehefin 2000 gyda’u hathro Dr John Llywelyn
Williams, tynnodd sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos
fod Richard Farrington wedi camgymryd rhwng y ddwy
gromlech. Er mai ‘Cromlech Cae’r Goetan’ sydd
wedi goroesi cyfeiria Richard Farrington ati fel ‘Cromlech
Beudy Coch’. Ond yr un siâp pyramid oedd
honno nad yw bellach mewn bod. Yr hyn sydd yn ddiddorol yw fod chwe chromlech
yng Nghlynnog ers talwm, fod yno bedair yn 1769 (a
chof
gwlad am ddwy arall) ond dwy erbyn y flwyddyn 2000,
sef un Bachwen mewn cyflwr da iawn ac un Cae’r
Goetan, Pennarth, mewn cyflwr gweddol. |