Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Eben Fardd ~ 1802 - 1863

Un o brif feirdd Cymru yn ei oes. Emynydd cynhyrchiol. Beirniad o fri. Ysgolfeistr yng Nghlynnog rhwng 1827-1862.

Cadwodd ddyddiadur trwy gydol yr amser y bu yng Nghlynnog (1827-1863). Cyhoeddwyd detholion ohonynt gan Wasg Prifysgol Cymru, 1968. (Gol. E.G. Millward). Maen't yn gofnod pwysig iawn o’i hanes ef ei hun, hanes y cyfnod, y pentref a’r ardal.

THOMAS, EBENEZER (“Eben Fardd”), ysgolfeistr a bardd; g. Awst 1802 yn Nhan-lan, yn ymyl pentref Llangybi yn Eifionydd, mab Thomas Williams, gweydd, a Catherine Prys, aelodau selog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghapel Ysgoldy, Pencaenewydd, lle yr ymunodd y mab â’r seiat yn 1811. Cafodd addysg mewn ysgolion yn Llanarmon, Llangybi, ac Abererch, a dysgodd grefft ei dad.

Bu am ychydig mewn ysgol yn Nhudweiliog yn Llŷn, ac wedi marw ei frawd, Evan, yn 1822, ymgymerodd “Eben” â’r ysgol a gadwai hwnnw yn Llangybi. Yn yr un flwyddyn ymadawodd â’r seiat. Yr oedd wedi dechrau ymhel â barddoniaeth, cyn bod yn 15 oed, ac wedi dod i adnabod “Robert ap Gwilym Ddu” a “Dewi Wyn”. Yn 1824 enillodd yn eisteddfod Powys yn y Trallwng am ei awdl “Dinistr Jerusalem gan y Rhufeiniaid”. Symudodd i gadw ysgol yn Llanarmon yn 1825. Yn 1827 aeth i Glynnog ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, i gadw ysgol, o dan nawdd y Gymdeithas Genedlaethol mwy na thebyg, yn y rhan o’r eglwys a elwir Capel Beuno.

Priododd yn 1830 â Mary Williams, Caerpwsan, Clynnog, a bu iddynt bedwar o blant, tair merch a mab. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop, ac yntau’n rhwymo llyfrau, er ychwanegu at ei gyflog fel ysgolfeistr, ac yn ddiweddarach ef a gadwai’r post. Yn 1839 ymaelododd eilwaith â’r Methodistiaid.

Enillodd ei ail wobr eisteddfodol bwysig, am awdl ar “Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Job,” yn Lerpwl yn 1840, ac yn y flwyddyn wedyn cyhoeddodd ei ddwy awdl, a rhai darnau byrrach, yn y gyfrol o dan y teitl Caniadau (Caernarfon, James Rees). Yn 1842 torrodd ei gyswllt â’r Gymdeithas Genedlaethol, a symudodd ei ysgol i’w dŷ. Tua’r un adeg codwyd ef yn flaenor, ac aeth â’i ysgol i’r capel yn 1845. Yn 1849 cafodd gynnig bod yn feistr Ysgol Genedlaethol newydd yng Nghlynnog ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys, ond gwrthododd.

Cymerwyd diddordeb yn ysgol “Eben” gan y Methodistiaid Califinaidd, ac yn 1850 rhoes cyfarfod misol Arfon £15 y flwyddyn iddo, a chodwyd y swm i £30 yn ddiweddarach. Yr oedd i ddysgu plant aelodau Methodistaidd yn rhad, a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth, ac felly parhaodd y drefn drwy weddill oes “Eben”. Yn 1850 hefyd anfonodd ei bryddest ar “Yr Atgyfodiad” i eisteddfod Rhuddlan, a cholli. Yn 1858 enillodd yn Llangollen am awdl ar “Brwydr Maes Bosworth”. Cynigiodd hefyd yng Nghaernarfon yn 1862 ar “Y Flwyddyn,” ond curwyd ef gan “Hwfa Môn.”

Bu farw 17 Chwefror 1863, a chladdwyd ef wrth fur eglwys Clynnog. Yr oedd ei wraig a’i fab a dwy o’i ferched wedi marw o’i flaen.

Ystyrid “Eben Fardd” yn ei oes yn un o feirdd mwyaf Cymru, a gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y 19eg ganrif. Beirniadodd hefyd lawer iawn; yr achlysur mwyaf nodedig oedd yn Aberffraw yn 1849, pan fynnai ef wobrwyo awdl “Emrys” i’r “Greadigaeth,” ond y ddau feirniad arall yn ei drechu, a gwobrwyo “Nicander”.

Heblaw ei gerddi eisteddfodol adnabyddus, canodd lawer iawn o gerddi achlysurol, a rhai emynau. Y mwyaf adnabyddus o’i emynau yw hwnnw sy’n dechrau “Os ydwyf wael fy llun a’m lliw.” Cydolygodd Y Salmydd Cymreig gyda Roger Edwards ar gyfer argraffiad 1856 o’r gwaith hwnnw. Ysgrifennodd yn helaeth i gylchgronau’r cyfnod. Fel bardd, fe welir yn ei waith uchafbwynt yr hen ganu clasurol disgrifiadol yn “Dinistr Jerusalem,” a hefyd olion y mudiad rhamantaidd newydd yn y canu telynegol (digon diafael) yn ei awdl “Y Flwyddyn,” ac yn y canu arddunol “Miltonaidd” yn ei bryddest “Yr Atgyfodiad.” Yr oedd yn wir yn ganolbwynt megis i lawer o weithgarwch llenyddol hanner cyntaf y 19eg ganrif.

Casglodd gryn lawer o hanes a thraddodiadau plwyf Clynnog, a chyhoeddwyd hwy dan y teitl Cyff Beuno yn 1873 (fel y tybir) dan olygiaeth Howell Roberts a William Jones.

Eben Fardd (“Cyfres y Fil”); Gen., xiv, 91; xix, 240; xx, 58, 100; xxi, 135; Cymru (O.M.E), iv, 29; xxiv, 51; lviii, 9,52,93, 133, 149; Y Traethodydd, xxxix, 283; xl, 178; l, 177; Wales (O.M.E), i, ii, iii, passim; Enw. F. 1097; Adgof uwch Anghof, passim; Y Gwyddoniadur (ail arg.) ix, 660; Y Llenor, v, 137, 245; [a gw. bellach N.L.W. Jnl., Gaeaf 1952, 344-6].

Ffynhonnell: Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940

Dyfyniad o Dinistr Jerusalem (Awdl Gadeiriol Eisteddfod Powys 1924)

..Ys anwar filwyr sy yn rhyfela
Enillant, taniant Gastell Antonia.
Y gampus Deml a gwympa - cyn pen hir,
Ac O! malurir gem o liw eira.

Wele drwy wyll belydr allan, - fflamol,
A si annaturiol ail swn taran.
Mirain deml Moreia’n dân. - Try’n ulw.
Trwst hon, clyw acw’r trawstiau’n clecian.

Tewynion treiddiawl tân a ânt trwyddi;
Chwyda o’i mynwes ei choed a’i meini.
Uthr uchel oedd, eithr chwâl hi, - try’n llwch,
A drych o dristwch yw edrych drosti....

Llithrig yw’r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y marmor gwyn.

Eben Fardd (21 oed)

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys