Eglwys Beuno Sant
Pentref bychan hanner y ffordd rhwng Pwllheli a Chaernarfon
yw Clynnog Fawr. 130 oedd y boblogaeth yn 1991 a 867
yn y plwyf. Mae’r eglwys hardd sydd yno yn un
o’r rhai pwysicaf yng Ngogledd Cymru.
Llun: Evan Williams,
Siop Newydd, yn edrych ar bentref Clynnog
o’r Allt yn y 1950au.
Gwelir to Ebeneser yn
y coed ar y dde.
Gweld yr eglwys hon a barodd i Syr Clough Williams-Ellis
benderfynu mynd yn bensaer. Mae rhai o’r teulu
wedi eu claddu yn y fynwent.
Mae Clynnog o fewn yr ardal a ddynodwyd yn Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol (yn ymestyn o Aberdesach
i Wlad Llyn.)
Beuno Sant
Sefydlwyd yr Eglwys gan Beuno Sant yn y seithfed
ganrif.
Clas a Chanolfan Dysg
Ymhen amser daeth yr eglwys yn Glas (mynachlog Geltaidd
gynnar a olygai fod yno Abad a mynachod). Mae sôn
am Glas Clynnog yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y ddegfed
ganrif a bod gan Abad Clynnog sedd yn Uchel Lys Brenin
Gwynedd.
Llosgwyd yr Eglwys gan forladron Llychlyn yn y flwyddyn
978 ac yn ddiweddarach gan y Normaniaid.
Cafodd y Normaniaid wared â Chlas Clynnog a
daeth yn "eglwys gyfranddaliadol", sef eglwys
efo llawer iawn o diroedd yn perthyn iddi. [Rhoddid
tir i’r mynachlogydd gan wahanol dywysogion.
Roedd gan Llywelyn Y Llyw Olaf dir yn y plwyf a dyna
oedd achos Brwydr Bryn Derwin (Bwlchderwin, Clynnog)
yn 1255 rhyngddo ef a’i frodyr Owain a Dafydd.
Trosglwyddodd ei dir ym Mhennarth i Briordy Beddgelert
yn 1269.]
Erbyn diwedd y 15fed ganrif roedd Eglwys Clynnog yn
Eglwys Golegol a theitl y pennaeth oedd "profost".
Chwech Eglwys Golegol oedd yng Nghymru gyfan - Tyddewi,
Abergwili, Llanddewibrefi, Caergybi, Clynnog Fawr a
Rhuthun - ond roedd eglwysi Clynnog a Rhuthun yn llai
pwysig na’r pedair arall a’r ddwy wedi
dod i berthyn i’r Goron.
Golygai hyn mai Saeson oedd penaethiaid yr Eglwys.
Pennaeth Eglwys Clynnog yn 1512 oedd Yr Esgob Skevyngton
o Hampshire ac enw’r Canon yma oedd John Draper
(cymydog iddo). Nid oedd pobl Clynnog yn eu deall o
gwbl ac roedden nhw’n byw yn rhy bell i ddod
yma, beth bynnag.
Y Brenin yn disodli’r
Pab fel pennaeth Eglwys Loegr
Yn 1558 penodwyd Morys Clynnog yn Esgob Bangor ond
pan waharddwyd Pabyddiaeth ar ôl marw’r
Frenhines Mari, dihangodd i Rufain. Bu’n bennaeth
y Coleg Saesneg yno a phwrpas y Coleg hwnnw oedd paratoi
pobl i ddychwelyd i Brydain i adennill y grefydd Babyddol.
Yn 1575 awgrymodd i’r Pab anfon 6,000 o wŷr
i oresgyn Cymru a diorseddu’r Frenhines Elisabeth
1.* [* t. 89 Enid Pierce Roberts (Ysbryd Dealltwrus
ac Enaid Anfarwol. Gol. W.P Griffith, Gwasg John Penri,
1999)]. Trefnodd ef ac eraill ymgyrch i lanio ar arfordir
Arfon yn y cyfnod hwn.
Yn 1559 carcharwyd Siôn Gwynedd (Profost Eglwys
Clynnog) am wrthod troi ei gefn ar Babyddiaeth. (Nid
oes dim o’i hanes ar ôl 1562. Roedd y Brenin
Harri 8 wedi marw erbyn hynny a’r Frenhines Elisabeth
1 ar yr orsedd.)
Gwrthododd John Jones o Glynnog yn yr un modd a chafodd
ei grogi yn Lloegr ar Orffennaf 12 1598. Fe’i
canoneiddiwyd gan y Pab Pawl VI yn 1970.
Maesog oedd y lle olaf yng Nghlynnog i droi at y
Protestaniaid. Cynhelid gwasanaethau Pabyddol yn y
dirgel yno am gyfnod pan fyddai’n anghyfreithlon
i wneud hynny.
Eiddo i Goleg Magdalen, Rhydychen oedd y pedair ffarm
ganlynol pan werthwyd hwy yn 1922: Maesog, Bryn Ifan,
Bryn Hafod a Phantafon. (h.y. pan ddaeth Eglwys Beuno
i berthyn i’r Eglwys yng Nghymru).
Yr Eglwys Bresennol
"Y mae’n bosibl y gwerthwyd yr holl diroedd
yn ail hanner y bymthegfed ganrif; defnyddiwyd yr elw
a chyfraniadau pererinion i godi’r eglwys harddaf
a mwyaf urddasol yng Ngwynedd."** [** t. 67 A.D.
Carr (Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol. Gol. W.P
Griffith, Gwasg John Penri, 1999)] c. 1480 i ddechrau’r
16g. y bu’r ehangu a chodi’r eglwys fawr
bresennol.
Y mae tebygrwydd tyrau gorllewinol Bangor, Clynnog
a Llanengan yn awgrymu bod pensaer arbennig yn gyfrifol
am ryw gymaint o’r adeiladu yn yr esgobaeth.***
[*** t. 82 Enid Pierce Roberts (Ysbryd Dealltwrus ac
Enaid Anfarwol. Gol. W.P Griffith, Gwasg John Penri,
1999)].
Cafwyd cyfnodau eraill o atgyweirio, e.e. 1848-1856.
Y pethau hynotaf yw Maen Beuno (mae ôl bys
Beuno arno), gefail gwn, ystafell wahanglwyfion, cloc
haul (yn y fynwent) y credir ei fod yn dyddio o tua’r
ddegfed ganrif (yr unig un cyffelyb ym Mhrydain yw’r
un yn Eglwys Tywyn, ond ceir rhai yn Iwerddon); o amgylch
y Gangell y mae pedair ar ddeg o hen eisteddleoedd
mynachaidd a llun wyneb defosiynol wedi ei gerfio rhwng
pob eisteddle; rhwng Eglwys y Bedd a’r Eglwys
Fawr ceir rheinws - lle y cedwid drwgweithredwyr dros
nos; cwpan fasarn (c.1480-90 sef cyfnod Pabyddiaeth)
a blychau elusen (a gedwir mewn banc).
Llun: Eglwys Beuno Sant (gan
Eric Jones).
Enwogion a gladdwyd yn yr Eglwys
ac yn y fynwent:
Beuno Sant. (Yng Nghapel Y Bedd).
Hywel y Fwyall (1300? - 1381?) (Syr
Hywel ap Gruffydd) Bron-y-foel, Moel-y-Gest. Dywedir
iddo dorri pen ceffyl brenin Ffrainc efo’i fwyall
ym mrwydr Poitiers yn 1356. Fe’i penodwyd yn
gwnstabl Castell Cricieth.
William Glynn, Lleuar, m. 1609 [mab
William Glynne ab Robert ab Meredydd ab Hwlcyn Llwyd
o Glynllifon, Rhingyll dan Arfau ("Serjeant at
Arms") i Harri VIII, a briododd ferch Syr Rowland
Velville - mab anghyfreithlon i Harri VII - cwnstabl
Castell Biwmares a.y.b. Bu farw yn 1556. Gw. Caernarfonshire
Cyf. II HMSO 1960] Claddwyd nifer o’i ddisgynyddion
yn yr eglwys.
George Twistleton. (1618-1667) Swyddog
ym myddin y Senedd. O Sir Efrog. Priododd â Mari
Glynn, merch William Glynn, Lleuar. Fo a gymerodd Syr
John Owen o’r Clennenau yn garcharor pan ymosodwyd
arno yn Llandygai. Roedd yn aelod o’r Uchel Lys
a nodwyd i brofi’r Brenin Siarl a daeth yn Aelod
Seneddol dros Sir Fôn.
Richard Nanney (1691-1767) Graddiodd
yn M.A. yn Rhydychen. Ficer Clynnog o 1714 hyd at ei
farw. Un o brif gefnogwyr ysgolion Griffith Jones.
Daeth yn bregethwr enwog a deuai tyrfaoedd i wrando
arno’n pregethu yn Eglwys Clynnog.
Robert Roberts "Y Seraff Bregethwr".
Gweinidog cyntaf y Capel Uchaf.
Eben Fardd (1802-1863) Un o brif
feirdd Cymru. Dyddiadurwr pwysig y cyhoeddwyd detholiad
ohonynt gan Wasg Prifysgol Cymru. Daeth i gadw ysgol
yng Nghapel Beuno yn 1827. Priododd yn 1830 â Mary
Williams, Caepwsan. Byddai ei wraig yn pobi bara a
chadw siop ac yntau’n rhwymo llyfrau ac yn ddiweddarach
yn cadw post.
Llun: Yr Eglwys a'r Fynwent
Chwedlau
Llwyn y Nef
Aeth un o’r mynachod am dro a chlywodd aderyn
yn canu mewn llwyn. Eisteddodd i wrando arno a syrthiodd
i gysgu. Pan ddeffrôdd roedd ganddo locsyn hir
ac roedd coed wedi tyfu o’i gwmpas. Dychwelodd
i’r eglwys. Gwelodd fynachod ar y ffordd ond
nid adwaenai neb. Pan gyrhaeddodd yr eglwys, dieithriaid
oedd yno. O’r diwedd, daethpwyd o hyd i’w
enw ar y gofrestr. Yr oedd wedi cysgu am 300 mlynedd.
Byth er hynny galwyd y lle yn Llwyn-y-Nef. Mae 28 o
dai yno heddiw a’u henwau yw Llwyn-y-Ne'.
Ffynnon Beuno
Llun: Ffynnon
Beuno (c. 200 llath o’r Eglwys ar y lôn
bost yr ochr draw i’r Modurdy i gyfeiriad Pwllheli).
Mae’r ffynnon hon ar y ffordd bost i gyfeiriad
Pwllheli ac ychydig ymhellach na’r modurdy, Plas
Beuno ("Gwesty Clynnog" erbyn hyn) a’r
Maes Glas. Fe’i gwarchodir gan CADW.
Byddai plant a fyddai’n llewygu ac yn dioddef
o nychdod yn cael eu trochi yn Ffynnon Beuno. Yna gosodid
brwyn ar fedd Beuno yn yr Eglwys a rhoddid y plant
i orwedd yno drwy’r nos. Byddent wedi gwella
erbyn y bore.
Y Gylfinir
Y mae traddodiad y gellid cerdded o Glynnog Fawr yn
Arfon i Glynnog Fechan ym Môn gynt, ar dir sych
amser trai. Pan aeth Beuno i bregethu i Sir Fôn
un tro ar hyd y ffordd hon fe ollyngodd ei lyfr pregethau
i’r dŵr. Daeth gylfinir heibio a chodi’r
llyfr o’r dŵr. (pig yw "gylfin",
ac o’r gair gylfin + hir y tarddodd y gair gylfinir).
Am iddo arbed y llyfr talodd Beuno yn ôl i’r
aderyn trwy ei gwneud yn anodd i bobl ddod o hyd i’w
nyth.
Eben Fardd, Cyff Beuno, t. 58 Ffynnon Ddigwg
Aeth un o’r gweision yn Llys Aberffraw i Lys
Ynyr Gwent. Roedd yn nodedig o hardd. Roedd gan Ynyr
Gwent ferch o’r enw Digwg a chyn gynted ag y
gwelodd y gwas fe syrthiodd mewn cariad ag ef ac ni
allai fyw hebddo. Cytunodd Ynyr Gwent iddi ei briodi.
Ymhen amser penderfynodd y gwr ifanc ddychwelyd i’w
wlad ei hun efo’i wraig. Ar y ffordd daethant
i le o’r enw Pennarth yn Arfon ac aros noson
yno. Yr oedd y dywysoges mor flinedig fel y cysgodd
yn drwm ar unwaith a thra oedd hi’n cysgu daeth
cywilydd mawr ar y gwr ifanc iddo fynd â gwraig
mor bendefigaidd i’w wlad ei hun heb le cymwys
iddi ac yntau mor dlawd. Daeth rhywbeth drosto, torrodd
ei phen a dianc efo’r meirch gwerthfawr a’r
aur a’r arian, i Aberffraw, a chafodd swydd gan
y brenin i fod yn oruchwyliwr iddo. Pwy a ddaeth heibio
ond Bugeiliaid Beuno a phan welsant y corff rhedasant
i chwilio am Beuno. Pan gyrhaeddodd gosododd ei phen
yn ei ôl ar ei chorff a gweddïodd ar Dduw
i’w gwella. Tarddodd ffynnon o’r ddaear
lle y disgynnodd ei gwaed ac fe’i galwyd yn Ffynnon
Ddigwg. Gwellhaodd Digwg yn llwyr ac arhosodd yng Nghlynnog
am weddill ei hoes.
Mae’r ffynnon i’w gweld heddiw ar lechwedd
Mynydd Bychan rhwng Pennarth a Capel Uchaf.
Cyff Beuno, t. 59
Porth y Casul
Yr oedd porthladd bychan o’r enw Porth y Casul
gerllaw Bachwen. Enw Lladin ar fantell yw casul ac
ystyr Bachwen yw darn o dir cysegredig sydd â siâp
bachyn iddo. I’r porth hwn bob blwyddyn deuai
mantell newydd i Beuno oddi wrth ei nith Gwenfrewi
am iddo ei chodi o farw’n fyw (wedi iddi gael
torri ei phen). Byddai’r fantell yn cyrraedd
dros y môr a byddai’n sych bob tro.
E.Fardd,
Y Gwladgarwr VI, 1838 [Nid oes digon o le yma i adrodd chwedl Gwenfrewi
ond mae arwyddocad arbennig i’r ffaith fod Beuno
yn meddu ar y ddawn i atgyfodi pobl a gafodd dorri
eu pennau trwy ailosod eu pennau yn eu cyrff (heblaw
Digwg a Gwenfrewi dywedir i Beuno atgyfodi hefyd: Aelhaearn,
Deiniolfab, Deiniol a Llorcan Wyddel). Yr oedd arwyddocad
arbennig i bennau yn y cyfnod Cyn-Gristnogol (e.e.
pen Bendigeidfran yn y Mabinogi). I’r hen Geltiaid
yn y pen yr oedd enaid a nerth rhywun a phan fyddai’r
arwyr yn torri pen byddent yn medru meddiannu ei enaid
ac atgyfnerthu eu grym ysbrydol, a gorau oll os llwyddent
i gael pen brenin neu dywysog. Mewn cyfnodau diweddarach
parheid i gasglu pennau i brofi gwrhydri yn unig (ac
i’w harddangos fel rhyw fath o gofrodd) - e.e.
dyna a wnaeth y Saeson efo pen Llywelyn.]
Ynys yr Arch, Bwlchderwin
Pan fu farw Beuno hawliai tri lle ei gorff i’w
gladdu: Beddgelert, Clynnog ac Enlli. Pan oedd y cynhebrwng
ar ei ffordd rhoddwyd y corff i lawr er mwyn i’r
cludwyr gael gorffwys. Syrthiasant i drwmgwsg. Erbyn
iddynt ddeffro gwelsant fod yno dair arch a bod y sant,
i fodloni’r tri lle, wedi ymluosogi yn dri chorff
- un i bob un o’r tair arch; a galwyd y llecyn
o achos hynny yn Ynys yr Eirch, ond a aeth ymhen amser
yn Ynys Yr Arch.
Llên Gwerin Sir Gaernarfon, t. 219
Cyff Beuno
Cist
dderw wedi ei naddu o un boncyff yw Cyff Beuno. Mae
iddi dri chlo - un i’r Person a dau i’r
Wardeiniaid. Byddai’n rhaid i’r tri fod
yn bresennol i’w hagor.
Yn y gist hon y rhoddai’r pererinion eu harian
at yr Eglwys ac y rhoddid yr arian a dderbynnid am
werthu anifeiliad â Nod Beuno arnynt (ystyrid
lloi ac wyn a ddigwyddai gael eu geni â thoriad
arbennig yn eu clustiau yn eiddo i’r eglwys:
fe’u gwerthid ar Yr Wylmabsant (Ebrill 21) bob
blwyddyn ac âi’r elw at yr eglwys).
'Cystal i chwi geisio torri Cyff Beuno' fyddai’r
dywediad gynt yng Nghlynnog pan geisiai rhywun wneud
rhywbeth hynod o anodd.
Cyff Beuno, t.63 Pant y Lladron
Yn un o gaeau uchaf Pennarth ar Y Mynydd Bychan (am
y terfyn â Choed Tyno) ceir pant mawr yn y ddaear.
Dim ond yr awyr a welir ohono. Mae’r un teulu
wedi byw ym Mhennarth ers o leiaf y ddeunawfed ganrif
a dyna yw’r enw a drosglwyddwyd i’r genhedlaeth
bresennol am y lle. (Lowri Evans, Pennarth)
Gored Beuno
Dyna yw’r enw ar y carneddi o feini mawrion
a welir ar drai yn agos i’r lan gerllaw Porth
Cynnog. Yn y chweched ganrif yr oedd yma dir sych ar
drai. Byddai Beuno yn pysgota yma. Dyma eglurhad Yr
Athro Bedwyr Lewis Jones yn Yn Ei Elfen, Gwasg Carreg
Gwalch, 1992, tud. 57:
"Cored ydi’r gair yn Gymraeg am fath o
drap mawr yr oedd hi’n arfer ei adeiladu i ddal
pysgod. Gair benywaidd ydi cored, felly y gored a ddywedir
- y gorad ar lafar...
Ar ddarn o draeth gweddol wastad, yr hen arfer oedd
curo polion ar eu pennau i’r tywod neu’r
mwd ac yna plethu gwiail rhyngddyn nhw i ffurfio argae
ar hanner tro. Dyma oedd cored. Pan fyddai’r
llanw i mewn yr oedd y gored o’r golwg a nofiai’r
pysgod yn dalog braf i mewn drosti. Yna, wrth i’r
llanw dreio, llifai’r môr allan drwy’r
gwiail gan gaethiwo’r pysgod tu fewn i’r
gored. Mater bach wedyn oedd eu casglu i fasgedi. Roedd
amryw o’r coredau hyn ar lannau’r Fenai......"
Penwaig
Stori J.W. Cowrt Bach, 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa
Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y
Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma
beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr
hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae
bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi.
Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na
fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo
na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud
bod hen dai bach yn Aberafon, Gyrn Goch, yn yr hen
oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw
yno. Byddent yn dal penwaig ac yn eu casgennu nhw a’u
halltu. Ceid dwsin o benwaig am ddimai. Byddai llong
yn perthyn i Capten Ifan Owen a’i wraig Nel a
chanodd Eben Fardd gerdd iddi:
"King William wych, ei chorff a wlych
Yn llonwych yn y lli,
O wynt i wynt wrth hwylio’r hynt
Da bo ei helynt hi......"
Y Tiboeth neu’r Diboeth
Cedwid hen lyfr neu lawysgrifen yn yr Eglwys am ganrifoedd.
Fe’i galwyd yn "Diboeth" am iddo gael
ei ddiogelu rhag llosgi. Yr oedd cloriau haearn amdano.
Ond aeth ar goll. Fe’i gwelwyd gan Dr Thomas
Williams o Drefriw yn 1594 ac ni chlywyd dim amdano
wedyn.
Ceubren y Pentref
Safai’r ceubren hyd y 1970au yn ymyl Y Tyrpeg
ym mhentref Clynnog. Yn ôl traddodiad byddai’r
pentref yn marw pe torrid y goeden. Ysgrifennodd Hywel
Tudur ac eraill gerddi i’r ceubren.
(gw. Hywel
Tudur Gol.t. 32, gan Catrin Parri Huws, 1993). Rhys a Meinir
Yn Eglwys Clynnog y trefnwyd priodas Rhys a Meinir,
Nantgwrtheyrn.
(gw. Priodas yn Nant Gwrtheyrn,
tt 210-226. gan Glasynys yn Cymru Fu, 1862.) |