Hywel Tudur ~
1840 - 1922
Hywel
Tudur (yr ail o'r chwith yn y rhes flaen).
Bardd, pregethwr, dyfeisydd. O Bandy Tudur
yn wreiddiol. Adeiladydd oedd ei dad. Cafodd hyfforddiant
athro yng
Ngholeg Hyfforddi Caernarfon a dod yn athro i Glynnog
am ei fod eisiau bod o fewn cyrraedd i’w eilun,
Eben Fardd. Y mae ei enw fel athro ar lyfr cofnodion
Ysgol Clynnog yn 1863 (blwyddyn marw Eben Fardd) a
phriododd ferch Hafod-y-Wern, Clynnog. Wedyn bu’n
brifathro yn Ysgol Llanllyfni. Gadawodd yn 1874 am
nad oedd yr arolygwr yn fodlon ar ganlyniadau’r
ysgol. (Penodwyd Sais yn ei le ond cododd y pentrefwyr
yn erbyn hwnnw.) Aeth i ffarmio Hafod-y-Wern a dechreuodd
bregethu ar y Suliau. Erbyn 1879 roedd yn gofalu am
eglwys Capel Uchaf.
Yn 1873 golygodd ef a William Jones, Bryngwydion,
y llyfr 'Casgliad o Weithiau Barddonol Eben Fardd'.
Bu’n fuddugol ar y bryddest yn Eisteddfod
Genedlaethol Conwy, 1897. Ysgrifennodd lawer o englynion
i gofio
am yr ymadawedig yn yr ardal.
Rhoddasai ei fryd ar ddau beth: llunio llong
awyr a gwneud peiriant yn seiliedig ar egwyddor hunan-symud
- dyna fel y disgrifiai ef 'perpetual motion'. Dyfeisiodd
amryw o beiriannau gyda chymorth seiri coed a gofaint.
Ond ei brif ddiddordeb oedd gwyddor hedfan. Bu wrthi
am dros chwarter canrif yn pendroni uwchben y broblem
a threulio misoedd bwygilydd ymhlith adar, chwilod
a gwenyn yn dyfal wylio eu symudiadau trwy ddefnyddio
chwyddwydr. Y broblem a’i hwynebai oedd - pam
fod ganddynt gyrff mor drwm ac adenydd mor fychain?
Cafodd y syniad o ddyfeisio propelar ac aeth
ati i osod y cynllun ar bapur a'i anfon i’r
Swyddfa Batent yn Llundain. Daeth ateb yn dweud iddynt
dderbyn
ei gynlluniau cyntaf ar gyfer 'A propellor or Driving
Wheel to put in motion vehicles, boats and flying machines'
ar Hydref 14 1916.
Roedd yn fwriad ganddo i gynllunio awyren (gleidar)
ond o ddiffyg cefnogaeth ariannol, ni wireddwyd hyn.
(gw. tt 12-13 Hywel Tudur 1840-1922. Golygwyd gan Catrin
Parri Huws, 1993).
Llun: Bryn
Eisteddfod (tua 1918-1920).
Yr oedd yn bensaer. Ef a gynlluniodd Bryn
Eisteddfod ac aeth ef a’r teulu yno i fyw o Hafod-y-Wern.
Ef hefyd a gynlluniodd drydydd adeilad Capel Uchaf
(ond fe’i dymchwelwyd yn 2002). Dywedir iddo
seilio cynllun Capel Uchaf ar gapel Gwytherin - y seddau
canol ar yr un gwastad a llwybr o’u cwmpas (tebyg
i ynys). Ar gyrion y llwybr roedd y seddau ochr a’r
seddau cefn y codi ar oleddf. Golygai cynllun o’r
fath fod y capel yn un hawdd i bregethu ynddo gan y
byddai’r aelodau yn eistedd gyda’i gilydd
yn y canol.
Pan fu farw Hywel Tudur fis Mehefin 1922, ymddangosodd
y paragraff hwn amdano ym Mlwyddiadur y M.C. gan y
Parchedig John Owen:
Anfynych y ceid neb diogelach ei gyngor dan
bob amgylchiadau. Os byddai eisiau gwneud ewyllys
- Hywel Tudur. Os byddai
angen cyfarwyddyd cyfreithiol heb fynd i’r "dref" a
thalu i dwrnai - Hywel Tudur. Os byddai galw am gymorth
i lunio tŷ neu fesur tir - Hywel Tudur. Os byddai
eisiau englyn ar gerdyn cof neu garreg fedd - Hywel
Tudur. Os byddai eisiau erthygl i’r Drysorfa
i anfarwoli blaenor - Hywel Tudur. Os byddai eisiau
beirniadu pryddest neu awdl - Hywel Tudur. A phe na
byddai ar neb eisiau dim, cymerai Hywel ei hamdden
i berffeithio ei long awyr, i nyddu cywydd, neu i wneud
pregeth.
Fe’i claddwyd ym mynwent Clynnog ond nid oes
carreg i nodi’r fan er i Bwyllgor Eisteddfod
Genedlaethol Cymru, Pwllheli 1925, osod cystadleuaeth
i lunio englyn beddargraff iddo. D. Jones o Benrhyndeudraeth
oedd yn fuddugol.
Diolch
o galon i Sally Davies, gorwyres Hywel Tudur, am
y lluniau. |