Morys Clynnog (MAURICE
CLENOCKE) ~ c.
1525 - 1581
Yn 1558 fe’i penodwyd yn Esgob Bangor ond pan
waharddwyd Pabyddiaeth ar ôl marw’r Frenhines
Mari, dihangodd i Rufain. Bu’n bennaeth y Coleg
Saesneg yno a phwrpas y Coleg hwnnw oedd paratoi pobl
i ddychwelyd i Brydain i adennill y ffydd Babyddol.
Yn 1575 awgrymodd i’r Pab anfon 6,000 o wyr i
ddiorseddu’r Frenhines Elisabeth I. Cynllwyniodd
ef ac eraill ymgyrch i lanio ar arfordir Arfon ond
methiant fu'r ymgyrch. (Gwybodaeth a ganfuwyd yn ddiweddar
yw hon.)
Dyfyniad o'r Bywgraffiadur
Cymreig hyd 1940:
CLYNNOG, MORYS (neu MAURICE CLENOCKE) (c. 1525-81),
diwinydd Catholig; hanoedd, yn ddiau, o Glynnog, sir
Gaernarfon. Ymaelododd â Choleg Eglwys Crist,
Rhydychen, gan raddio yn B.C.L. yn 1548. Bu’n
gaplan i’r Cardinal Reginald Pole, ac wedi cyfnod
yn rheithor Orpington, Caint, ac yn ddeon Shoreham
a Croydon, rhoddwyd iddo, yn 1556, gan esgob Goldwell,
Llanelwy, reithoriaeth Corwen.
Yn 1558, ar farw Dr William Glyn, dyrchafwyd ef yn
esgob Bangor. Ond cyn iddo gael ei gysegru, bu farw’r
frenhines Mari, a dewisodd yntau alltudiaeth yn hytrach
na chydymffurfio â’r drefn newydd o dan
Elisabeth.
Gyda’r esgob Goldwell a Gruffudd Roberts, archddiacon
Môn, cyrhaeddodd Rufain yn 1561. Apwyntiwyd Goldwell
yn warden yr Ysbyty Seisnig yno, Gruffudd Robert, yn
1564, yn gaplan, a Morys Clynnog, yn 1567, yn ‘Camerarius.’ Yn
1577 gwnaed ef yn warden.
Y flwyddyn ddilynol llwyddodd Owen Lewis, archddiacon
Hainault, ac yn ddiweddarach esgob Cassano [q.v.],
i sefydlu coleg Seisnig yn Rhufain, a dewiswyd Morys
Clynnog yn rheithor gyda thri Jesiwit i’w gynorthwyo
i hyfforddi’r myfyrwyr, yn Gymry ac yn Saeson.
Dywedid bod Clynnog yn ffafrio’r Cymry, a bu
terfysg. Ond tybir bod a wnâi’r ffaith
fod y Jesiwitiaid yn dymuno cael llwyr reolaeth ar
y coleg â hyn. Fodd bynnag, bu raid iddo ymddeol
yn 1579, wedi i’r Saeson, a oedd yn bygwth ymado â’r
coleg, oni weithredid, gyflwyno deiseb i’r Cardinal
Morone yn protestio yn erbyn rheolaeth Morys Clynnog
a danfon dirprwyaeth i’r pab yn mynnu ei ddiswyddo.
Apwyntiwyd y Tad Agazzari, Jesiwit, i’r swydd.
Yn y flwyddyn 1580 cawn Morys Clynnog yn byrddio llong
yn Rouen. Credir iddo foddi yn gynnar yn 1581, ar ei
ffordd i Sbaen.
Cyhoeddodd Morys Clynnog lyfryn bychan ar lun catecism
yn 1568, sef Athrawiaeth Gristnogawl. Gruffudd Robert
a luniodd y rhagymadrodd, ac ym Milan, yr Eidal, yr
argraffwyd ef.
D.N.B.; Alumni Oxon.; Trans. Cymm., 1903; Hist. Of
the Venerable English College, Rome; G.J. Williams
(gol.), Gramadeg Gruffydd Robert; gw. hefyd C. 1/1342/26
(P.R.O.). |