Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Oes yr Haearn ~ c. 500 Cyn Crist - 100 Oed Crist

Mae olion pobl wahanol eto o fewn dau led cae i’r Capel Uchaf (y mae ei do i’w weld yn y canol ar y chwith), sef ar Benygarreg. Olion caer gerrig o Oes yr Haearn sydd yma - rhwng 600 Cyn Crist a 100 Oed Crist. Y Celtiaid oedd y bobl hyn. Arferent godi eu caerau ar ben bryn er mwyn iddynt fedru gweld y gelyn yn dod.

Clynnog Fawr

Mae olion eraill o gytiau ychydig yn ddiweddarach na’r gaer gerrig a chlawdd o’i chwmpas, y tro hwn yn dangos cytiau ar wasgar a chaeau o’u cwmpas. Mae’r rhain yng Nghefngraeanog, Graeanog, Cwm a Phennarth.

Cwt Myn

(Cyfnod diweddarach na’r uchod. Fe’u defnyddid mor ddiweddar â’r 18 a’r 19eg ganrif yn ôl yr erthygl y cyfeirir ati isod.)

Yn Cwm ceir enghraifft nodedig o gwt myn (sef myn gafr). Bydd geifr gwyllt yn geni eu mynnod yn Chwefror ac wedyn yn eu gadael i fynd i bori am 48 awr. Byddai ffermwyr yn dal y mynnod ac yn eu cadw mewn cwt myn. Byddai’r afr yn dod i’r cwt a byddai’r ffarmwr yn ei dal yno ac yn ei godro. Bydd gafr yn cynhyrchu saith peint o laeth y dydd a byddai’r ffarmwr yn godro tua thri pheint iddo ef ei hun cyn rhyddhau’r afr i fynd at ei myn.

Ceir yr hanes hwn gan Gwenno Caffell (merch Syr Ifor Williams) yn Archaeology in Wales, 28, 1988. Dywed fod Olwen Davies yn awgrymu mai hyn sydd y tu ôl i’r gân werin ‘Cyfri’r Geifr’:

Oes gafr eto? Oes, heb ei godro. Ar y creigiau geirwon Mae'r hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wen......

Rhai darganfyddiadau

  •  Foel Dryll: bwyell-forthwyl
  •  Ynys-yr-Arch: dau balstaf
  •  Cwm Gwared: cleddyf
  •  Hendre-bach: torch bres
  •  Bryngwydion: celc o bres Rhufeinig a.y.b.
  •  Pentref Clynnog: carrreg dân 1999

  •  a dyma Grôt o gyfnod Harri VI a ddarganfuwyd mewn cae yng Nghlynnog yn 1999:

Grôt o gyfnod Harri VI

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys