1,500 Cyn Crist
Darganfuwyd tair wrn mewn beddau ger Clynnog y tybir
eu bod wedi eu gosod yno 2,000 o flynyddoedd Cyn Crist
- un ym Mhennarth yn 1910 (Pennardd y Mabinogi) a dwy
ym Mryn Ifan yn 1876.
Pennarth
Ar Chwefror
17 1910 daeth Hugh Owen Pennarth o hyd i fedd llathen
o hyd, 20 modfedd o led a 18 modfedd
o ddyfnder yng nghae Bryncastell, Pennarth. Roedd carreg
fawr arno ac roedd y rhai o’i gwmpas wedi dod
o fynydd Bwlch Mawr. Ar droed y bedd yr oedd pot pridd
(sef wrn) wyth modfedd o uchder ac roedd llwch mân
ynddo. Yn y pridd yr oedd tameidiau o fân esgyrn.
Dyma a ddywed
David Fraser yn ‘Y Goresgynwyr’ am
feddau tebyg:
"O
Sbaen y cychwynnodd pobl y Bicer (yr Oes Bres Gynnar
- 1,800-1,400 Cyn Crist). Yno fe ddatblygasant
yr arfer o gladdu eu meirw mewn beddau unigol gan osod
gyda hwy bob amser bot pridd neu ficer.
Cleddid
pennaeth, yn grwm ei hunan bach, mewn cist faen,
a honno wedi ei gorchuddio â thomen gron
o bridd, ac wrth ei ochr rai o’i arfau hoff ac
addurniadau ac yn aml ficer yn llawn efallai o gwrw
o ryw fath, i’w lonni ar ei daith i’r byd
arall..."
Yn ôl
yr arbenigwyr, yr oedd y dull hwn o gladdu ychydig
yn ddiweddarach na dulliau claddu pobl y cromlechi.
Bryn Ifan
Daethpwyd
o hyd i fedd a dau bot pridd tebyg i un Pennarth
ym Mryn Ifan yn 1876 (sydd ryw hanner milltir
o Capel Uchaf) ond torrwyd y potiau hynny wrth eu codi
o’r pridd.
Arolwg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Bwlch
Mawr - Gyrn Goch
Yn 1997
gwnaeth yr Ymddiriedolaeth uchod arolwg o safleoedd
o ddiddordeb archaeolegol yn y Bwlch Mawr
a’r Gyrn Goch. Cyn dechrau ar y gwaith yr oeddynt
yn ymwybodol o 25 o safleoedd ond o ganlyniad i’r
arolwg hwn cofnodwyd 375 o safleoedd ganddynt. |